Sioeau amaethyddol yn wynebu tymor 'heriol tu hwnt'
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr yn rhybuddio fod sioeau amaethyddol yn wynebu tymor "heriol tu hwnt" o ganlyniad i gostau uwch, prinder cyflenwyr a chystadleuwyr.
Mae sawl digwyddiad wedi ymbil ar y cyhoedd i sicrhau eu bod yn mynychu eu sioe leol.
Daw wrth i'r Sioe Fawr - digwyddiad amaethyddol mwyaf Ewrop - gadarnhau toriadau i'w rhaglen er mwyn arbed arian.
Drwy Gymru, mae 'na dros 150 o sioeau gwledig ac amaethyddol yn cael eu cynnal yn flynyddol.
"Dyma yw calon ein cymunedau gwledig ni," eglurodd Mared Rand Jones, sy'n cynrychioli Cymru ar fwrdd y corff sy'n siarad ar ran sioeau amaeth drwy Brydain - yr ASAO.
"Mae tipyn o gyfrifoldeb gan y sioeau o ran hyrwyddo'r cynnyrch gore sy' gyda ni ac addysgu'r cyhoedd o ble mae'u bwyd yn dod."
Ond mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn "anodd", gyda'r gwaith o ail-lwyfannu'r digwyddiadau wedi seibiant y pandemig bellach yn cael ei effeithio gan gyflwr yr economi.
Mae trefnwyr yn wynebu prinder o bopeth - o bebyll i doiledau, gwasanaethau arlwyo i staff diogelwch, meddai.
"Ar ben hynny mae costau wedi cynyddu yn aruthrol," meddai Ms Jones.
'Her cael pobl i ddod'
Mae'r tymor sioeau yn dechrau ddydd Llun, wrth i Sioe Nefyn yng Ngwynedd ddathlu ei phen-blwydd yn 125 oed.
Yn y cyfamser, mae'r paratoadau'n parhau ar gyfer Sioe Aberystwyth ym mis Mehefin, meddai'r cadeirydd Emlyn Jones.
"Ar ôl y pandemig mae 'di bod yn dipyn o broblem," eglurodd, gyda sawl ffactor yn herio'r trefnwyr - o noddwyr yn torri 'nôl i lai o bobl yn cystadlu.
Gwelwyd 20% o gwymp yn nifer y bobl oedd yn arddangos gwartheg a defaid y llynedd, a 30% o ran y ceffylau.
"Ar ben hynny mae'n her cael cwsmeriaid a phobl i ddod ar y dydd," meddai Mr Jones.
"20 mlynedd yn ôl fydde Sioe Aberystwyth a phob sioe arall yn ddigwyddiadau pwysig, ond fel mae nawr mae llai a llai o bobl yn dod, a llai o arian yn eu pocedi nhw."
Er mwyn denu cynulleidfa mae'r trefnwyr yn cynnig bws am ddim o Aberystwyth a thocynnau am ddim i blant, meddai.
Ond mynnodd Mr Jones bod cyfrifoldeb ar bobl i gefnogi digwyddiadau o'r fath yn lleol.
"Mae pobl yn ddigon parod i dalu arian mawr i fynd lawr i Gaerdydd i wylio gem bêl-droed neu rygbi, a dwi'n un ohonyn nhw.
"Ond mae pethau fan hyn ar eich stepen drws chi - 10 awr o ddigwyddiadau a mwy gyda'r nos.
"Mae angen i ni weld pobl nid jest o gefn gwlad ond o'r trefi hefyd yn dod allan i gefnogi."
"Y tymor yma fydd y tro cynta' i ni weld rhai sioeau yn dychwelyd yn llawn," eglurodd Aled Rhys Jones, prif weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ac awdur adroddiad i Lywodraeth Cymru ar yr heriau a wynebwyd gan sioeau amaeth yn ystod y pandemig.
"Wedi dod trwy hynny, y brif her mae cymdeithasau yn wynebu o hyn allan yw delio ag effaith chwyddiant," meddai.
"Mae'n effeithio ar bopeth - o logi offer, pebyll, contractau mawr fel arlwyo, diogelwch a rheoli traffig.
"Beth sy'n anodd efallai ac sy'n arwain at nifer o benderfyniadau caled yw bod yn rhaid i ni fel cymdeithasau efelychu'r cynnydd hynny ym mhris y tocyn neu bris aelodaeth."
'Gwario'n gyfrifol'
Dyma fydd y flwyddyn gyntaf iddo arwain y gwaith o drefnu'r Sioe Fawr yn Llanelwedd - y digwyddiad pedwar diwrnod o hyd ar ddiwedd Gorffennaf sy'n denu chwarter miliwn o ymwelwyr ac yn cael ei ystyried fel pinacl y tymor sioeau amaethyddol yng Nghymru.
"Ry'n ni wedi bod yn edrych yn fanwl iawn ar gyllideb y sioe. Elusen yw'r gymdeithas a rhaid i ni 'neud yn siŵr bod ein gwariant yn gyfrifol," meddai.
Mae'r adolygiad wedi arwain at doriadau eleni, sy'n cynnwys llai o wasanaethau arlwyo a thocynnau am ddim.
Ni fydd pabell arddwriaeth chwaith, gan olygu nad oes cyfle i arddangos ffrwythau, llysiau, blodau a phlanhigion ar faes y sioe eleni.
Does dim modd cyfiawnhau'r gost o dros £45,000 i lwyfannu'r adran yn ei ffurf bresennol, ychwanegodd Mr Jones, gan addo ail-lansiad yn 2024.
Dywedodd ei fod yn ceisio bod mor agored a gonest â phosib gyda phobl ynglŷn â'r heriau "yn y gobaith y do'n nhw gyda ni ar y daith yma".
Roedd pobl yn synnu o glywed, er enghraifft, bod cost y trefniadau parcio a bysiau gwennol yn cyfateb ag £11 am bob car sy'n dod i'r sioe, meddai.
"Felly'n bwriad yw cyfathrebu yn glir ac yn gyson ac yn onest gyda phobl, a'u hannog nhw i ddod yma ac i gefnogi eu sioeau lleol hefyd," meddai.
"Achos 'da ni'n cydnabod bod llwyddiant sioe genedlaethol yn dibynnu ar strwythur cadarn o sioeau ar lefel bentref, lleol a rhanbarthol.
"Y gefnogaeth bwysica' gall sioeau gael yw'r gefnogaeth gan bobl. Mae angen pobl ar ddigwyddiadau ac angen digwyddiadau ar bobl."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd28 Mai 2020