Betsi: Plaid Cymru yn honni bod Mark Drakeford wedi cael ei fychanu
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru'n dweud fod y Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cael ei fychanu ar ôl iddo egluro sylwadau a wnaeth am fwrdd iechyd y gogledd.
Dywedodd Mr Drakeford wrth y Senedd fod yr archwilydd cyffredinol Adrian Crompton wedi rhoi cyngor i ddod â Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig yn 2020.
Ond mewn llythyr, dywedodd Mr Drakeford nad oedd Archwilio Cymru yn "cynghori gweinidogion yn uniongyrchol ar y materion hyn".
Dywedodd Mr Drakeford ei fod "yn awyddus i gywiro unrhyw gamddealltwriaeth ynglŷn â'r broses".
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth, "y byddai wedi bod yn well gan y cyhoedd yng Nghymru i weinidogion fod yn onest".
Fe wnaeth Mr ap Iorwerth y sylwadau ychydig cyn i arweinydd ei blaid, Adam Price, ddechrau ar ymweliad ar y cyd â'r prif weinidog fel rhan o gytundeb cydweithredu Llywodraeth Cymru-Plaid Cymru.
Yr wythnos ddiwethaf fe ddatgelodd Plaid Cymru fod Mr Crompton wedi dweud nad oedd wedi rhoi cyngor i ddod â Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig ddwy flynedd yn ôl.
Wedi i'r bwrdd gael ei roi yn ôl dan fesurau arbennig ar ddiwedd Chwefror eleni, dywedodd y prif weinidog yn siambr y Senedd: "Fe gafodd y penderfyniad - a phenderfyniad gweinidogion yw hyn - i dynnu'r bwrdd allan o fesurau arbennig ei wneud oherwydd i ni gael cyngor mai dyna beth y dylem ei wneud gan yr archwilydd cyffredinol, gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a gan swyddogion Llywodraeth Cymru sydd yn gyfrifol am roi cyngor i weinidogion."
Fe gafodd y bwrdd iechyd ei roi yn ôl i'r lefel uchaf o oruchwyliaeth gan y llywodraeth y diwrnod cynt.
Mae cofnod y trafodion bellach wedi'i ddiwygio i gynnwys troednodyn, dolen allanol i sylwadau Mr Drakeford, gyda dolenni i ddau lythyr ganddo at y llywydd Elin Jones yn egluro'r broses sy'n arwain at benderfyniad ar fesurau arbennig.
"Ysgrifennais atoch chi y tro cyntaf ar 24 Ebrill oherwydd yr oeddwn yn awyddus i gywiro unrhyw gamddealltwriaeth ynglŷn â'r broses.
"Rwyf yn gobeithio bod fy llythyr wedi gwneud hyn trwy esbonio y broses dri cham wnaeth arwain at benderfyniadau gan Weinidogion ynglŷn â statws uwch gyfeirio cyfundrefnau'r GIG, ac egluro bod Archwilio Cymru heb - a ddim yn - cynghori gweinidogion yn uniongyrchol ar y materion yma," meddai.
Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Mr ap Iorwerth: "Felly mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i lythyrau gael eu hychwanegu fel troednodiadau i gofnod y Senedd, sy'n profi eu bod wedi camarwain y Senedd dros dynnu Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig.
"Ond ni fyddan nhw mewn gwirionedd yn cyfaddef eu bod yn camarwain y Senedd!
"Mae ein pwynt wedi ei brofi, ac mae Mark Drakeford a'i lywodraeth Lafur wedi eu bychanu braidd, ond rwy'n siŵr y byddai wedi bod yn well gan y cyhoedd yng Nghymru fod gweinidogion yn onest."
Daeth yr eglurhad i'r amlwg ar yr un diwrnod y dechreuodd Mr Drakeford ac arweinydd Plaid Cymru Adam Price ar ymweliad yn Sir Benfro.
Wrth siarad yn Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd, dywedodd Mr Drakeford fod y broses lle mae gweinidogion yn gwneud penderfyniadau am statws bwrdd iechyd yn "gymhleth".
"Os ydych chi'n ceisio ei grynhoi'n gryno ar eich traed ar lawr y Senedd, dydych chi ddim bob amser yn cyfleu cymhlethdod llawn pethau," meddai.
"Rydw i eisiau gwneud yn siŵr bod pobl Cymru yn gwybod yn union sut mae'r system yn gweithio.
"Fe wnes i nodi hynny mewn llythyr at y llywydd. Rwy'n ddiolchgar ei bod hi'n hapus iddo fod yn rhan o gofnod y Senedd fel na all unrhyw ddryswch godi ar ran neb."
Pan ofynnwyd iddo a allai fod wedi bod yn gliriach, dywedodd: "Yr hyn rydw i wedi'i wneud yw sicrhau, os nad oedd unrhyw un yn glir, nad oes unrhyw reswm o gwbl pam na allan nhw fod yn glir yn y dyfodol."
Pan ofynnwyd i Mr Price a oedd yn cytuno a oedd yr eglurhad yn bychanu, dywedodd: "Nid dyma ffocws ein hymweliad heddiw.
"Rydyn ni wedi bod yn galw am gywiro'r cofnod. Rydyn ni'n falch bod hynny wedi digwydd. ac rydyn ni am fyfyrio ymhellach arno," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2023