Adam Price: 'Bai ar y Torïaid a Llafur am yr economi'
- Cyhoeddwyd
Mae'r argyfwng economaidd presennol yng Nghymru yn "ganlyniad uniongyrchol" i ddegawd o doriadau gan y Ceidwadwyr a diffyg gweithredu Llafur, meddai arweinydd Plaid Cymru.
Yn ei araith i gynhadledd y blaid, fe wnaeth Adam Price amlinellu "cynllun economaidd newydd" mae'r blaid yn dweud fyddai'n "trawsnewid economi Cymru".
Galwodd hefyd am bwerau pellach i Gymru, a mwy o arian i drechu tlodi.
Mae cynhadledd y blaid yn cael ei chynnal yn Llanelli ddydd Gwener a dydd Sadwrn.
Ar yr ail ddiwrnod bydd gofyn i aelodau'r blaid gymeradwyo strategaeth wleidyddol newydd, a allai lywio cyfeiriad y blaid am ddegawd, gyda'r bwriad o ehangu sylfaen eu cefnogaeth.
'Anhrefn San Steffan'
Yn ei araith dywedodd Mr Price y gall Cymru annibynnol adeiladu ffyniant a llwyddiant economaidd yn rhydd o'r hyn a alwodd yn "anhrefn San Steffan".
Galwodd ar lywodraeth nesaf San Steffan i roi i Lywodraeth Cymru a'r Senedd "setliad ariannu tecach, pwerau ariannol cryfach a rheolaeth lawn dros ein hadnoddau naturiol - gan gynnwys datganoli Ystâd y Goron".
Mae Ystâd y Goron yn goruchwylio tir ac eiddo, gan gynnwys gwely'r môr, sy'n eiddo i'r Brenin.
Mae'r elw yn cael ei rannu rhwng Trysorlys y DU a'r Aelwyd Frenhinol, ac fe gafodd ystâd Yr Alban ei datganoli yn 2017.
"Rhowch y grym i ni yng Nghymru fel y gallwn ddechrau'r gwaith o drawsnewid economi Cymru - gan wneud tlodi yn rhan o hanes, nid realiti miloedd o bobl pob dydd," meddai.
"Biliau ynni uchel ond cyflogau yn cwympo. Gweithwyr ar streic a gwasanaethau cyhoeddus mewn argyfwng. Swyddi yn cael eu torri a busnesau'n mynd i'r wal.
"Dyma ganlyniad uniongyrchol dros ddegawd o doriadau Torïaidd, a diffyg uchelgais a gweithredu gan y Blaid Lafur, sydd wedi gwanhau economi Cymru gan adael pobl gyffredin yn brwydro i roi bwyd ar y bwrdd.
"Digon yw digon. Mae angen i ni drawsnewid ein heconomi nawr i godi safonau byw ac amddiffyn ein hunain rhag anhrefn economaidd San Steffan - gan gymryd perchnogaeth o'n hadnoddau naturiol a buddsoddi yn ein busnesau lleol."
Dywedodd Mr Price hefyd y dylai pawb ym Mhlaid Cymru deimlo'n ddiogel - a hynny wedi honiadau o ddiwylliant gwenwynig a chamymddwyn o fewn y Blaid.
Fe gyfaddefodd nad oedd y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf "wedi bod heb eu heriau" a bod yn rhaid i'w blaid wneud yn well.
'Prif bwrpas yw annibyniaeth'
Ddydd Sadwrn fe fydd aelodau'r blaid yn cymryd rhan mewn sesiwn arbennig i drafod strategaeth wleidyddol, gafodd ei llunio yn dilyn ymgynghoriad gydag aelodau.
Nid yw'r strategaeth wedi'i chyhoeddi cyn y digwyddiad, lle bydd aelodau'n trafod y ddogfen.
Mae disgwyl iddi nodi mai prif bwrpas y blaid yw sicrhau annibyniaeth.
Ond gallai awgrymu hefyd, lle na all Plaid ffurfio llywodraeth ar ei phen ei hun, fod bod mewn grym yn well na pheidio.
Mae clymbleidiau a gweithio gyda phleidiau eraill wedi bod yn destun dadlau ym Mhlaid Cymru dros y blynyddoedd.
Ar hyn o bryd mae'r blaid mewn cytundeb cydweithredol yn y Senedd gyda llywodraeth Lafur Cymru, lle maen nhw'n gweithio ar nifer o bolisïau ac yn cefnogi cynlluniau gwariant gweinidogion.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2022