Archdderwydd: Newidiadau'r Brifwyl yn 'gors beryglus' i'r dyfodol
- Cyhoeddwyd
Mae'r anghytuno diweddar ynglŷn â newidiadau i'r drefn gystadlu torfol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn destun "siom" i'r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd.
Mewn cyfweliad â rhaglen Newyddion S4C mae'n dweud fod y ffordd y mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ganolog wedi cyflwyno'r newidiadau yn "gors go beryglus" i'r dyfodol.
Fis Mawrth, yn sgil adolygiad annibynnol o gystadlaethau'r Eisteddfod, fe gyhoeddwyd fod nifer o newidiadau ar y gweill i'r ŵyl yn Llŷn ac Eifionydd, gan gynnwys cyflwyno rhagbrofion i'r cystadlaethau corawl.
Dywedodd yr Eisteddfod eu bod wedi cael cyfarfod "adeiladol" gyda chorau yr wythnos ddiwethaf, a bod y dyddiad cau i gofrestru wedi'i ymestyn "er mwyn rhoi cyfle i'r trafodaethau barhau".
Ychwanegodd cadeirydd Bwrdd Rheoli'r Eisteddfod, Ashok Ahir, ei fod "wedi siomi fod rhai unigolion wedi penderfynu dweud pethau yn gyhoeddus ar y pwynt yma, ar ôl iddyn nhw fod yn rhan o'r broses".
Mae Myrddin ap Dafydd, sy'n rhoi ei farn yn bersonol - nid ar ran Yr Orsedd - yn pwysleisio ei fod yn edrych ymlaen yn arw at yr Eisteddfod a bod cynnal y Brifwyl yn golygu llawer iawn i bobl Llŷn ac Eifionydd.
Pan fo'r Eisteddfod yn cyrraedd ardal benodol, mae'r trigolion, meddai, "yn perchnogi'r ŵyl fel 'Steddfod Ni'".
Ond mae'r Archdderwydd yn teimlo, yn y blynyddoedd diwethaf, fod yr elfen yma o berchnogi yn cael "ei danseilio".
"Dwi'n pryderu bod 'na ddiffyg trafodaeth rhwng y swyddfa ganolog a phobl yr ardal," meddai.
"Mae'r Eisteddfod yn ŵyl anferth, yn destun edmygedd rhyngwladol ac 'fedar hi 'mond cael ei chynnal drwy ewyllys da Eisteddfodwyr, y dalgylch a hefyd y cystadleuwyr."
Mae'n poeni fod y tri pheth yma yn cael eu "hanwybyddu yn amlach y dyddia' yma".
Mae'n pryderu fod penderfyniadau yn cael eu gwneud drwy "ymgynghori â'n partneriaid" yn ôl yr Eisteddfod, ond yn ei farn ef, nid ydy'r partneriaid hynny wastad yn cynnwys digon o'r tair elfen.
"Mae hyn yn siom i mi, a dwi'n ofni bod hi'n gors go beryglus i fynd iddi," meddai'r Archdderwydd.
Dywedodd ei fod yn edmygu'r corau am godi'r drafodaeth ynglŷn â'r newidiadau sydd ar droed, ac mae'n poeni fod y dull a ddefnyddiwyd i gyflwyno'r newidiadau corawl yn gynsail y "gallasai gael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau yn y dyfodol fel newid y rheol iaith, er enghraifft, a Steddfod symudol".
"Dwi'n edmygu ac yn ddiolchgar i'r corau am fod yn ddigon dewr i godi hwn ac i gynnal trafodaeth, ac mae'n bwysig dwi'n meddwl bod diolch i'r corau sydd wedi ymarfer yn galed drwy fisoedd y gaeaf a rŵan yn peryglu efallai eu dyfodol eu hunain er mwyn cael trafodaeth agored ar y pynciau maen nhw wedi ei godi," meddai.
"Wrth sôn am drafodaeth agored, dwi'n meddwl y dylai'r swyddfa ganolog ddangos digon o barch at y cyhoedd drwy ateb cwestiynau'r wasg a'r cyfryngau hefyd."
Dywedodd cadeirydd Bwrdd Rheoli'r Eisteddfod, Ashok Ahir, mewn cyfweliad ddydd Gwener ei fod "wedi siomi" fod rhai pobl yn gwneud sylwadau cyhoeddus negyddol am y newidiadau, gan awgrymu fod y personau hynny wedi bod yn rhan o'r broses o benderfynu arnynt.
"Dwi'n gwybod fod rhai pobl wedi'u siomi, ac mae hynny'n rhywbeth ni'n parchu ac yn disgwyl - mae unrhyw newid wastad yn sbardun ymateb," meddai.
"Ond ni yw'r bobl sy'n cynnal yr ŵyl, ni yw'r bobl sy'n edrych ar ôl unrhyw newid.
"Mae newid wedi digwydd ar ôl sawl proses fewnol ac allanol, a ni'n fodlon y bydd y newidiadau ar gyfer Llŷn ac Eifionydd yn gwneud digwyddiad a Phrifwyl ardderchog.
"Ni wedi dysgu lot o Lanrwst a Thregaron, a ni angen cario 'mlaen a dysgu o Eisteddfod mis Awst ym Mhen Llŷn."
'Wedi bod yn rhan o'r broses'
Pan ofynnwyd iddo ymateb yn benodol i sylwadau Myrddin ap Dafydd, dywedodd Mr Ahir ei fod "wedi siomi fod rhai unigolion wedi penderfynu dweud pethau yn gyhoeddus ar y pwynt yma, ar ôl iddyn nhw fod yn rhan o'r broses".
"Dyw hyn ddim yn deg ar bawb arall sydd wedi bod yn rhan o'r broses, ac i fod yn onest dyw e ddim yn deg i staff yr Eisteddfod a phobl sy'n gwirfoddoli blwyddyn ar ol blwyddyn," meddai.
Fis Mawrth, yn sgil adolygiad annibynnol o gystadlaethau'r Eisteddfod, cyhoeddwyd fod trefn y cystadlu torfol yn newid eleni, ac ers hynny mae degau o gorau a chyn-feirniaid wedi galw ar swyddogion y Brifwyl i ailystyried.
Mae'r newidiadau sydd ar droed yn golygu fod corau, grwpiau llefaru a phartïon dawns yn gorfod cymryd rhan mewn rowndiau cynderfynol, ac mai dim ond tri fydd yn cael ymddangos ar y prif lwyfan.
Mae copi o'r adolygiad o gystadlaethau'r Eisteddfod wedi dod i law rhaglen Newyddion S4C, a does dim cyfeiriad ynddo at gyfyngu nifer y corau sy'n ymddangos ar y prif lwyfan
Cafodd yr adolygiad annibynnol, a gomisiynwyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol, ei gyflwyno i'r Eisteddfod yn Ebrill 2022, ac nid yw wedi'i gyhoeddi eto.
Pwrpas yr adolygiad oedd casglu barn ar y cystadlaethau perfformio "er mwyn cynorthwyo'r Eisteddfod i gynllunio ar gyfer y dyfodol mewn ffordd gynaliadwy".
'Dim argymhelliad penodol'
Mae awduron yr adolygiad, cwmni ymchwil OB3, wedi cadarnhau "nad yw'r adolygiad yn gwneud argymhelliad penodol am gyfyngu ar nifer y corau sy'n ymddangos ar lwyfan y pafiliwn i dri".
Mae'r cwmni ymchwil yn dweud fod yr adolygiad, a gafodd ei gynnal "dros gyfnod o dri mis", wedi bod yn gyfle i bobl "leisio eu barn am holl gystadlaethau llwyfan yr Eisteddfod".
Casglwyd barn "unigolion allweddol i'r cystadlu" gan ddefnyddio "ystod o dechnegau ymchwil" oedd yn cynnwys "cyfweliadau unigol a grwpiau ffocws".
Cafodd barn "160 o unigolion" ei gasglu ganddynt.
Yn ôl yr Eisteddfod mae "cynnwys a chanfyddiadau'r adolygiad wedi'u trafod yn hir gan ein panelau (sy'n cynnwys cynrychiolaeth o'n cystadleuwyr, beirniaid, y swyddogion lleol ynghyd ag arbenigwyr yn y maes), y Pwyllgor Diwylliannol, Cyngor a Bwrdd Rheoli'r Eisteddfod".
Ychwanegwyd eu bod wedi dilyn "llwybr democrataidd pob penderfyniad polisi a wneir gan y sefydliad".
Cyfarfod 'adeiladol'
Mae'r Eisteddfod hefyd wedi cadarnhau fod cyfarfod "adeiladol" wedi bod rhwng y corau a'r Eisteddfod yr wythnos ddiwethaf.
"Gofynnodd y corau i'r Eisteddfod ystyried ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cystadlaethau llwyfan er mwyn rhoi cyfle i'r trafodaethau barhau," meddai'r Brifwyl.
Mae'r Eisteddfod wedi ychwanegu pythefnos a hanner i'r cyfnod cofrestru, a'r dyddiad cau newydd ydy nos Fercher, 17 Mai.
Mae'r Eisteddfod wedi cytuno i ystyried dau gynnig a gafodd eu trafod yn y cyfarfod, gan ddweud fod "ymarferiad yn digwydd ar hyn o bryd i weld a oes modd eu gweithredu".
Doedd yr Eisteddfod ddim yn fodlon datgelu'r hyn oedd dan ystyriaeth, gan ddweud y bydd y "drafodaeth yn parhau rhwng y corau a'r Eisteddfod, ac nid drwy'r wasg a'r cyfryngau".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2023