Eisteddfod: Newidiadau'n 'farwol i gorau' neu'n 'rhesymol'?
- Cyhoeddwyd

Mae Gwyn Nicholas wedi beirniadu'r newidiadau gan eu galw'n "annheg"
Mae'r penderfyniad i newid trefn cystadlu'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cael ei ddisgrifio fel un a allai arwain at "farwolaeth" corau yn y Brifwyl.
Ddydd Mawrth cyhoeddodd y trefnwyr newidiadau ar gyfer Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd eleni yn dilyn adolygiad annibynnol o'r cystadlaethau.
Un o'r newidiadau amlycaf yw mai uchafswm o dri chystadleuydd fydd yn rownd derfynol pob cystadleuaeth.
Mae'r Eisteddfod hefyd wedi cyhoeddi y bydd dwy ganolfan gystadlu newydd ar y Maes, fydd yn llai na'r pafiliwn traddodiadol.
1,800 o seddi oedd yn y pafiliwn yn Nhregaron y llynedd, ond eleni bydd un ganolfan yn dal hyd at 1,200 o bobl, a'r llall yn dal 500.
'Ddim yn deg'
Mae Cadeirydd Pwyllgor Ddiwylliant yr Eisteddfod, Trystan Lewis wedi mynnu nad yw'r newidiadau yn "diraddio" y prif lwyfannau.
Ond dywed Gwyn Nicholas, arweinydd côr Llanpumsaint, y bydd nifer o gorau yn penderfynu peidio â chystadlu gan nad oes sicrwydd o ymddangos ar y prif lwyfan.
"Dwi ddim yn credu ei bod yn deg," meddai Mr Nicholas, enillydd Medal Goffa Syr TH Parry-Williams y llynedd.
"Mae pob unawdydd, pob côr yn talu am gystadlu yn y Steddfod a fi'n credu bod nhw'n haeddu cael y gorau.
"[N]i wedi gweld marwolaeth y corau yma mewn Eisteddfod - a fi yn meddwl hynny yn bendant," meddai wrth raglen Newyddion S4C.
"Fydda i ddim yn beio neb 'sa nhw'n dweud 'o wfft, 'sa i'n mynd i gystadlu, s'dim diben yn y pafiliwn bach - fyddai yn gwrando ar fy hunan yn canu'."

Bydd y newidiadau'n dod i rym yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd eleni
Ond mae eraill yn dweud nad ydynt yn gwrthwynebu'r newidiadau.
Dywed Seiriol Dawes-Hughes, sy'n aelod o Côr Dre yng Nghaernarfon, ei fod yn credu bod canolfan o 500 yn "swnio'n rhesymol".
Mae'n pwysleisio nad yw'n siarad ar ran y côr ond dywed: "'De ni wedi cystadlu lawer gwaith yn yr Eisteddfod a dwi ddim yn meddwl bod 'na 500 wedi bod yn y gynulleidfa - felly mae cael neuadd o 500 i wylio corau yn swnio'n rhesymol.
"Alla'i ddeall bod yna siom fod pawb ddim yn mynd i gael perfformio ar y prif lwyfan ond mae'n ŵyl sy'n esblygu ac yn newid.
"Os ydy'r Eisteddfod wedi gwneud eu hymchwil, mae genna'i berffaith ffydd mai dyma'r ffordd orau ymlaen."

Cefin Roberts: 'Ymateb cymysglyd'
Mae Cefin Roberts, sy'n aelod o bwyllgor canolog cyfarfod llefaru'r Eisteddfod, o'r farn y bydd rhai yn elwa o'r newidiadau ond bydd rhai hefyd yn teimlo siom.
"I raddau, ryw ymateb cymysglyd sydd gen i - yn yr ystyr dwi wastad wedi teimlo bod perfformwyr sy'n llefaru ac yn actio ar lwyfan falla yn mynd i elwa ac efallai cystadlaethau dawns sydd yn cael eu rhoi ymlaen yn fuan iawn yn y pafiliwn lle mae pafiliwn gwag wedi bod a dim teimlad o gynulleidfa adeg hynny.
"Mae'r newidiadau i'r math yna o drefn yn fy marn i yn plesio ond wedi dweud hynny dwi wedi siarad â nifer o arweinwyr corau ers i hwn gael ei gyhoeddi," meddai wrth Dros Frecwast.
"Dwi'n meddwl mai yn fanna mae'r anniddigrwydd mwyaf - yn y cystadlaethau mawr oedd yn llenwi'r pafiliwn.
"Y rhai torfol sydd â'r gŵyn fwyaf ac sydd wedi cael sioc wedi'r cyhoeddiad."

Mae Trystan Lewis wedi mynnu nad yw'r newidiadau yn "diraddio" y prif lwyfannau
Dywedodd Trystan Lewis, Cadeirydd Pwyllgor Ddiwylliant yr Eisteddfod, fod y newidiadau yn dilyn adolygiad o'r hen drefn, gyda'r bwriad - ymhlith pethau - eraill i godi safon.
"'De ni yn edrych i godi safon - mi roedd hynny yn yr adolygiad yn elfen bwysig iawn," meddai wrth Newyddion.
"A ga'i ddweud fod yr adolygiad wedi bwrw rhwyd yn eang dros nifer fawr o bartneriaid a chystadleuwyr. Dathlu'r goreuon ond wrth gwrs dathlu pawb sy'n cystadlu."
Ychwanegodd nad oedd yn credu y byddai'r newidiadau yn arwain at lai o gorau yn cystadlu.
"Mae'r ddwy ganolfan gystadlu - mae'r ffaith fod un yn fwy na'r llall yn golygu dim byd mewn gwirionedd, achos mi fydd y ddwy yn arena ar gyfer corau ac mi fydd yr un arlwy darlledu, mi fydd yna gynulleidfa gobeithio... a gobeithio yn denu cynulleidfa newydd i'r rowndiau cyn derfynol."
Dyddiadau pwysig
O ran yr Eisteddfod ei hun, dywed y trefnwyr y bydd y rhaglen gystadlu yn cael ei chyhoeddi bron i dri mis ynghynt na'r arfer - cyn diwedd mis Mawrth.
Mae'r dyddiad cau ar gyfer y cystadlaethau cyfansoddi ar 1 Ebrill, a'r cystadlaethau llwyfan ar 1 Mai.
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn cael ei chynnal ym Moduan, Llŷn, rhwng 5 a 12 Awst.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2023