Trenau i'r Rhondda yn dod i stop tan Chwefror 2024

  • Cyhoeddwyd
Arwydd
Disgrifiad o’r llun,

Bysys fydd yn cludo teithwyr rhwng Treherbert a Phontypridd am y 10 mis nesa'

Fydd 'na ddim trenau yn teithio i'r Rhondda tan y flwyddyn nesa'.

Bysiau fydd yn cludo teithwyr rhwng Treherbert a Phontypridd am y 10 mis nesa', ar gyfer gwaith i atgyweirio a gwella'r traciau fel rhan o'r cynllun ar gyfer Metro De Cymru.

Yn ôl Trafnidiaeth Cymru, mae offer ar y llinell i Dreherbert yn dyddio'n ôl i 1930 ac felly mae angen gwelliannau.

Bydd hyn yn cynnwys trac newydd, system signalau newydd, yn ogystal â gwelliannau i'r gorsafoedd.

Ond mae hynny'n golygu bydd gwasanaeth bws yn lle'r trenau tan fis Chwefror 2024.

'Bydd rhaid mynd yn y car'

Mae hynny'n mynd i achosi anghyfleustra i bobl y Rhondda Fawr sy'n teithio'n rheolaidd i Bontypridd neu Gaerdydd.

"Mae'n mynd i amharu arnom ni fel teulu," meddai Rhys Richards, sy'n byw yn Nhreorci.

"Mae fy ngwraig yn gweithio yng Nghaerdydd a nawr mae'n rhaid iddi hi yrru i'r ddinas, a rhyw daith dyle gymryd rhyw hanner awr neu 45 munud, mae'n cymryd hyd at ddwy awr oherwydd nifer y ceir sydd ar y ffordd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhys Richards, sy'n byw yn Nhreorci, y bydd y cynlluniau'n amharu ar ei deulu

Yn ôl Lowri Joyce o Trafnidiaeth Cymru, maen nhw'n ymwybodol bydd y gwaith yn rhwystro rhai pobl rhag teithio.

Ond ar ôl ystyried sawl ffordd o wneud y gwaith ar y cledrau, "hwn oedd yr opsiwn gorau", meddai.

Mae'r cwmni yn dweud y bydd 'na fysiau ychwanegol ar gael ar adegau prysur ben bore a diwedd y prynhawn.

Bydd mwy hefyd ar gael ar adegau penodol fel y Nadolig a phan mae 'na ddigwyddiadau chwaraeon neu gerddorol mawr yn y brifddinas.

Ychwanegodd Ms Joyce y bydd y gwasanaeth bws yn rhatach hefyd, gydag opsiwn am gerdyn '50% i ffwrdd'.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Heledd Bianchi yn edrych ymlaen at weld y gwasanaeth newydd

Mae Heledd Bianchi yn byw ym mhen ucha'r cwm yn Nhreherbert, ac yn dweud ei bod hi a'i theulu yn edrych ymlaen at weld y gwasanaeth newydd fydd, yn ôl Trafnidiaeth Cymru, "yn amlach ac yn wyrddach".

"Mae shwd gymaint o geir ar yr hewl ac mae traffig yn ben tost," meddai.

"Mae'r hewlydd yn araf ac mae parcio yn hunllef felly bydd e jyst yn neis cael saib o hwnna i gyd, a bod yna lai o geir ar yr hewl.

"Mae saith o blant gyda fi - mae 'da fi blentyn lawr yng Nghaerdydd felly bydd e'n lyfli bydd hi'n gallu dod 'nôl a 'mlaen heb bo fi'n gorfod mynd i'w chasglu, ac mae'r rhan fwya' o 'mhlant i yn eu harddegau hwyr, maen nhw eisiau bod yn fwy annibynnol - fe fydd e jyst yn help i'r teulu so ni wir yn disgwyl 'mlaen."

Mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth, Natasha Ashgar AS yn dweud ei bod hi'n "annerbyniol" bydd y rheilffordd ynghau am gyhyd.

Mae'n dadlau y dylai'r gwaith ddigwydd ar rannau o'r rheilffordd ar adegau gwahanol.

Dywedodd AS Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan, ei bod hi'n "hen bryd bod y rheilffordd bwysig hon yn cael ei huwchraddio".

"Ond mae nifer o bobl yn amlwg yn bryderus ynglŷn â'r effaith bydd y gwaith yn ei gael ar eu trefniadau i fynd i'r gwaith, i'r ysgol ac i apwyntiadau meddygol," meddai.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru y byddan nhw'n adolygu trefniadau'r gwasanaeth bws yn rheolaidd.

Welsoch chi hwn?

Disgrifiad,

Rachel Stephens o Dreherbert sy’n ein tywys o amgylch un o drenau newydd Metro De Cymru (fideo o fis Mawrth 2023)

Pynciau cysylltiedig