Ysgolion yn wynebu canllawiau gwisg ysgol newydd

  • Cyhoeddwyd
Gwisg Ysgol
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i ysgolion ystyried os yw logos yn "gwbl angenrheidiol"

Mae ysgolion yn cael eu hannog i gael gwisgoedd sy'n fwy fforddiadwy, hygyrch a niwtral fel rhan o ganllawiau statudol newydd.

Nid oedd canllawiau blaenorol gan Lywodraeth Cymru yn statudol, sy'n golygu nad oedd yn ofynnol yn gyfreithiol i ysgolion roi sylw iddo.

Daw'r newidiadau yma i rym o fis Medi ymlaen.

Dywedodd y llywodraeth y gallai ffyrdd o leihau costau'r wisg ysgol gynnwys gosod eitemau a lliwiau sylfaenol ond nid y steil, a fyddai'n caniatáu i ddillad gael eu prynu o wahanol siopau.

Mae disgwyl i ysgolion ystyried a yw logos yn "gwbl angenrheidiol" ac a oes angen i'r wisg fod yn wahanol ar gyfer yr haf a'r gaeaf.

Lansiwyd ymgynghoriad yn dilyn y gwres mawr dros fisoedd yr haf y llynedd, pan oedd rhai rhieni yn honni fod polisïau unffurf yn rhy llym.

Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl ysgol wedi newid eu gwisg yn y blynyddoedd diwethaf, fel yn Ysgol Penglais, Aberystwyth

Mae merch Julie Ann Richards yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Garth Olwg yn Rhondda Cynon Taf.

Mae'r ysgol, ynghyd â'r ysgol gynradd sy'n ei bwydo, yn cau ar ddiwedd y tymor ac yn ail-agor fel un ysgol 3-19 oed ym mis Medi. Bydd y wisg yn cael ei newid fel rhan o'r ailstrwythuro.

Mae Ms Richards yn rhagweld y bydd y wisg newydd tua £200, ac mae'n pryderu am y gost: "I mi, fel Mam sengl, mae hynny'n llawer iawn o arian ac mae'n golygu gwahaniaeth rhwng os cawn ni wyliau eleni ai peidio.

"Dwi'n pryderu am rieni sydd â mwy nac un plentyn yn yr ysgol," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Trystan Edwards mae'n anodd i ysgolion ymateb i'r argymhellion mor hwyr yn y flwyddyn academaidd

Ond mae pennaeth yr ysgol, Trystan Edwards, yn dweud bod angen cwestiynu faint o arian sydd angen cael ei wario mewn gwirionedd.

"Mae sawl lle yn gwerthu gwisg ysgol erbyn hyn," meddai.

"Yn ogystal â hynny fe fyddwn ni'n caniatáu blwyddyn i bontio rhwng y naill wisg a'r llall, a blwyddyn ychwanegol ar gyfer y citiau chwaraeon, felly bydd sawl cyfle ganddyn nhw i ddefnyddio'r wisg gyfredol."

Wrth groesawu'r canllawiau newydd dywedodd Mr Edwards ei bod hi'n anodd iddyn nhw ymateb iddyn nhw am eu bod yn dod mor hwyr yn y flwyddyn academaidd bresennol.

"Mae angen caniatâd ein corff llywodraethol i unrhyw newidiadau i'w wisg, felly fe fyddai wedi bod yn braf derbyn y rhain ganol gaeaf er mwyn ein paratoi ni fel ysgol."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ysgolion eu rhybuddio am y newidiadau arfaethedig, yn ôl Kirsty Williams

Yn ôl y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, fe wnaethon nhw rybuddio ysgolion "beth amser yn ôl am fwriad y llywodraeth".

Dywedodd y bydd arweinwyr ysgolion a chyrff llywodraethol yn parhau i gynllunio eu polisi eu hunain, ond ychwanegodd y byddai disgwyl iddyn nhw roi mwy o ystyriaeth i faterion yn ymwneud â gwisgoedd fforddiadwy.

Ar hyn o bryd mae modd i unrhyw un sy'n hawlio cinio ysgol am ddim i'w plentyn wneud cais am grant datblygu disgybl, sy'n £125, er mwyn prynu gwisg ac offer arall.

Mae £200 ychwanegol ar gael i unrhyw blentyn sy'n cychwyn blwyddyn 7 ac sy'n gymwys.