Ysgolion yn dal i ddod i'r afael ag effaith y pandemig
- Cyhoeddwyd
Mae ysgolion yng Nghymru yn parhau i ddod i'r afael ag effeithiau'r pandemig, yn ôl arolygwyr ysgolion.
Mewn crynodeb o'i adroddiad blynyddol dywedodd y Prif Arolygydd Addysg bod sgiliau sylfaenol wedi dirywio ac mae disgyblion nawr angen mwy o gymorth lles a iechyd meddwl.
Mae cynnydd ysgolion wrth weithredu'r Cwricwlwm i Gymru yn "rhy amrywiol", yn ôl yr adroddiad.
Dywed hefyd bod taclo bwlio ac aflonyddu yn parhau yn her i bob ysgol.
Ers i blant fod yn ôl yn yr ysgol yn fwy rheolaidd dros y flwyddyn ddiwethaf, mae effeithiau llawn y pandemig wedi dod yn fwy amlwg meddai'r Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant, Owen Evans.
Mae sgiliau rhifedd a llythrennedd wedi dioddef, yn enwedig llafaredd, a phresenoldeb wedi dirywio.
Yn ogystal fe wnaeth y pandemig daro gweithgareddau ymarferol fel cerddoriaeth ac addysg gorfforol.
Ond mae'n dweud bod ysgolion wedi dechrau dod i'r afael â'r effeithiau negyddol ar fedrau disgyblion yn raddol ers i addysg ddychwelyd i sefyllfa fwy normal.
Un nodwedd amlwg arall o'r pandemig, meddai Estyn, yw gostyngiad yn nefnydd plant o'r Gymraeg yn y cyfnodau clo.
"Mae hyn wedi cael effaith sylweddol ar ruglder disgyblion a'u tuedd i siarad Cymraeg ym mhob math o ysgol," mae'n dweud.
Er bod 'na gynnydd amlwg yn y gofyn am gymorth lles a iechyd meddwl i ddisgyblion, mae'r adroddiad yn canmol y ffordd mae ysgolion wedi ehangu'r ddarpariaeth.
Ar yr un pryd ag ymateb i ofynion y pandemig, mae ysgolion hefyd wedi bod yn ceisio gweithredu'r cwricwlwm newydd - y newid mwyaf i addysg yng Nghymru ers degawdau.
Ac yn ôl Estyn mae rhai ysgolion wedi gwneud cynnydd tipyn gwell nag eraill.
Ers dechrau'r tymor ysgol yma mae ysgolion cynradd a thua hanner ysgolion uwchradd wedi dechrau ei weithredu'n ffurfiol, cyn i bob ysgol ei fabwysiadu o fis Medi nesa.
Ond yn gyffredinol, meddai'r Prif Arolygydd, mae wedi bod yn "rhy amrywiol".
Mae 'na rybudd hefyd na ddylai ysgolion esgeuluso safonau dysgu wrth iddyn nhw ganolbwyntio ar gynllunio'r cwricwlwm.
Er bod cynnydd wedi bod mewn rhai ysgolion wrth sefydlu ffyrdd o atal a thaclo aflonyddu rhywiol, mae'r adroddiad yn awgrymu bod yna fwy o waith i'w wneud.
"Er gwaethaf ymdrechion gorau llawer o staff, mae achosion o ddisgyblion yn cael profiad o fwlio ac aflonyddu oherwydd eu rhywioldeb, nodweddion hiliol neu eu rhywedd ym mhob ysgol," dywedodd Estyn.
"Mae rhai disgyblion ym mhob ysgol yn cael profiad o rywfaint o aflonyddwch rhywiol."
Mae'n dilyn adroddiad y llynedd oedd yn dweud bod achosion o aflonyddu rhywiol gan ddisgyblion ar gyd-fyfyrwyr wedi cael ei "normaleiddio".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Awst 2022
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd16 Mai 2022
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2022