'Brwydr' teulu i gael addysg Gymraeg i fab awtistig
- Cyhoeddwyd
Roedd cael addysg addas i Harri, sy'n saith oed ac yn byw gydag awtistiaeth, yn "frwydr".
Ond gobaith ei deulu yw bod y drefn newydd ar gyfer cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn symleiddio'r broses.
Dywedodd Mared, llysfam Harri, mai'r prif anhawster oedd ceisio cael darpariaeth cyfrwng Cymraeg iddo.
Mae'r amserlen ar gyfer gweithredu'r drefn newydd, sy'n cynnwys pwyslais ar ddarpariaeth ddwyieithog, wedi cael ei ymestyn hyd at 2025 gan Lywodraeth Cymru.
Ond mae un undeb yn poeni am ariannu a'r baich gwaith, ac yn galw am oedi pellach.
'Ddim yn hawdd'
Pan benderfynodd teulu Harri bod angen iddo symud o ysgol brif-ffrwd i ysgol arbennig er mwyn cael y gefnogaeth roedd ei angen, fe wynebon nhw rwystrau.
"Mi wnaethon ni gael brwydr a doedd o ddim yn hawdd o gwbl," meddai Mared.
"Ond yn amlwg, ni ydy llais Harri a does gyno fo'm llais ei hun so roedd rhai i ni sticio iddi a thrio cael y gorau iddo fo."
Roedd parhau gydag addysg Gymraeg yn flaenoriaeth iddyn nhw ond fe gawson nhw gynnig sawl ysgol cyfan gwbl Saesneg, meddai Mared.
"Jyst oherwydd bod ganddo fo anghenion dysgu o'n i'm yn meddwl bod o'n deg bod o'n cael ei stwffio mewn i ysgol Saesneg."
Fe gafodd le yn y diwedd mewn ysgol ble mae 'na dipyn o ddarpariaeth Gymraeg, ac mae Harri a gweddill y teulu'n hapus gyda'r gefnogaeth "wych" mae'n ei gael yno.
Dydy profiad y teulu o deimlo fel eu bod wedi "brwydro" ddim yn anghyffredin, ac mae'n un o'r ffactorau arweiniodd at ddiwygio'r drefn.
O 2021 i 2025 mae plant yn cael eu trosglwyddo i'r drefn Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) - trefn sydd i fod i roi anghenion a photensial y plentyn yng nghalon pob penderfyniad, yn ogystal â hybu cydweithio.
Y nod hefyd yw cysoni'r drefn gan symud i ffwrdd o ddatganiadau i'r plant gyda'r anghenion mwyaf dwys i Gynlluniau Datblygu Unigol i bob plentyn sydd ag unrhyw angen ychwanegol.
Tra'n cefnogi amcanion y drefn Anghenion Dysgu Ychwanegol mae undeb yr NEU y poeni am gyllidebau a baich gwaith.
Er bod y llywodraeth yn gynharach eleni wedi cyhoeddi y byddai blwyddyn ychwanegol i weithredu'r drefn yn llawn, mae'r NEU am ymestyn yr amserlen ymhellach.
'Mae'n ddyddiau cynnar'
Mae Harri yn rhan o'r drefn newydd yn barod ac mae Mared yn gobeithio bydd yna welliant i'r system drwyddi draw yn y pendraw.
"Dyddiau cynnar yn dydi? Faswn i'n hoffi meddwl bod o'n mynd i helpu," meddai.
"Yn amlwg mae angen ariannu a mae lot o bres angen mynd mewn i'r ysgolion i roi cymorth iddyn nhw i newid i'r system newydd, felly gobeithio."
Mae Haf yn fam i ddau o blant ag anghenion dysgu ychwanegol ac yn gweld y drefn yn gymhleth iawn.
"Fasen i ddim yn dewis i fod yn gwario rhan fwya' o'n amser ar y foment yn trio trefnu pethe cyfreithiol i gael y cymorth iawn i fy mhlant," meddai, "ond y peth ydy, pan chi'n rhiant i blant gydag anghenion .. s'dim choice gyda chi rili.
"Ma' raid i chi ddeall y deddfau 'ma - o'dd raid i fi ddeall y system hen, i gael datganiad i fy mhlant, a hefyd ma' raid i chi ddeall y system newydd."
Mae hi'n poeni am gyllid hefyd.
"O fy mhrofiad i, o orfod brwydro drwy'r amser rili i gael cymorth iawn, mae e gyd rili yn dod lawr i arian, ac os ma' llai o arian ar gael, wel ma' llai o gymorth yn mynd i fod."
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud "na ddylai rhieni orfod brwydro i gael cefnogaeth addas" a bod y ddeddf wedi gosod systemau mewn lle "pan fo anghytuno".
Dywedodd llefarydd eu bod yn ddiweddar wedi cyhoeddi £12m i helpu ysgolion i gyflwyno'r drefn newydd ac yn pwysleisio bod darpariaeth cyfrwng Gymraeg yn rhan allweddol o'r trefniadau newydd.
Yn Ysgol Gynradd Bontnewydd ger Caernarfon maen nhw'n dweud bod y diwygio yn adeiladu ar yr hyn maen nhw wedi gwneud ers blynyddoedd i gefnogi plant gydag anghenion dysgu ychwanegol.
Yn ôl y pennaeth Gareth Jones mae'n gosod systemau cliriach ar gyfer y cydweithio sy'n sicrhau bod anghenion plant yn cael eu hadnabod mor gynnar â phosib.
"Mae'n rhaid i ni gofio mewn ffordd, ni fel oedolion, plant yr union yr un fath, mae gynnon ni gyd gryfderau, a gynnon ni gyd wendidau," meddai.
"Be' sy'n bwysig am ein rolau ni mewn addysg ydy sylweddoli oes 'na rwystr i unrhyw un ohonyn nhw i gyrraedd eu potensial mor gynnar â sy'n bosib - a dyna mae'n galluogi ni i wneud.
Mae Lora Glynwen Williams o Wasanaeth Anghenion Dysgu Gwynedd a Môn yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ymestyn yr amserlen i gyflwyno'r newid.
"Mae o wedi, wrth gwrs, bod yn heriol bod 'na newid mor fawr â hyn," dywedodd.
Er gwaethaf pwysau cyllidebol a'r pandemig, mae hi'n dweud bod ysgolion wedi ymateb yn bositif.
"Mae Covid wedi cael effaith ar anghenion… ac yn gwneud pethau'n llawer fwy cymhleth ond eto mae'r ysgolion yn wynebu'r her yma mewn modd cadarnhaol iawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2021