Prydau ysgol am ddim 'yn gymorth mawr i deuluoedd'
- Cyhoeddwyd
Mae'r plant ieuengaf mewn ysgolion cynradd wedi dechrau derbyn prydau ysgol am ddim ar ddechrau'r tymor ysgol newydd, ond mae'r blynyddoedd ysgol sy'n gymwys yn amrywio o ardal i ardal.
Plant dosbarth derbyn sy'n cael y prydau gyntaf o Fedi 2022 wrth i'r cynllun gael ei gyflwyno'n raddol i holl ddisgyblion ysgol gynradd erbyn 2024.
Mae wyth awdurdod lleol wedi dweud bydd plant ym Mlynyddoedd 1 a 2 hefyd yn cael y prydau o'r cychwyn cyntaf.
Dywedodd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru y byddai eu polisi ar y cyd hefyd yn cael ei ymestyn i fwy na 6,000 o blant oedran meithrin.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu'r cynllun prydau ysgol am ddim i bawb gan ddweud y byddai'n cynnwys "teuluoedd miliwnyddion sy'n gallu fforddio bwydo'u plant".
Yn y cyfamser, mae un cyngor yn gofyn i rieni ystyried gweithio yng ngheginau eu hysgolion lleol yn sgil pryder am brinder staff i weithredu'r polisi.
Mae Casnewydd, Ceredigion, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Torfaen, Sir Benfro, Sir Conwy a Sir Fynwy yn dweud bydd pob disgybl dan saith yn gymwys o'r wythnos hon.
Mae'r amserlen ar gyfer ehangu'r ddarpariaeth yn amrywio rhwng cynghorau ond mae'r rhan fwyaf yn bwriadu cyflwyno cinio ysgol am ddim i bawb hyd at Flwyddyn 2 erbyn Ebrill 2023.
Gofid a fydd pawb yn derbyn y cynnig
Yn Ysgol Nantgaredig, Sir Gaerfyrddin mae plant meithrin llawn amser a dosbarth derbyn yn dechrau cael prydau ysgol am ddim yr wythnos hon.
Mae'r pennaeth yn dweud mai tua dwy ran o dair o'r dosbarth derbyn sydd wedi cymryd mantais o'r cynnig pryd am ddim ar ddechrau'r tymor, a mwyafrif y dosbarth meithrin.
"Yn sicr y bydd e yn gymorth mawr i'r teuluoedd," meddai Steffan Griffiths. "Ni gyd yn ymwybodol o'r costau sydd ar gynnydd.
"Y gofid i fi yw a fydd pawb yn cymryd y cynnig. Mae gwaith gyda ni, yr awdurdod, Llywodraeth Cymru i annog, atgoffa a sicrhau bod y teuluoedd yn elwa o'r cyfle arbennig yma."
Fe eglurodd bod yn rhaid i deuluoedd barhau i archebu cinio ac y gallai hynny fod yn achosi "problem" ar hyn o bryd.
Byddai ymestyn y ddarpariaeth i fwy o blant yn heriol o ran staff a lle hefyd, meddai.
'Syniad gwych'
Mae gan Gethin Tomos un plentyn yn y dosbarth derbyn ac un ferch hŷn, ac mae'n cytuno gyda'r bwriad i weithredu'r polisi dros amser.
"Mae'n syniad gwych i fod yn deg," meddai.
"Mae'n bwysig bod nhw ddim yn ei roi mas i bawb yn syth achos mae'n rhywbeth newydd iddyn nhw, rhywbeth newydd i ni ac wedyn gall pawb ddod yn gyfarwydd shwt mae'r system newydd yn gweithio."
Mae merch Catherine Davies ym Mlwyddyn 4 ac mae hi'n credu y dylai yna fod ryw fath o feini prawf fel taw'r tlotaf sy'n elwa fwyaf.
"Rwy'n credu bod hynny'n gwneud mwy o synnwyr," meddai.
Apêl un cyngor
Mae cynghorau wedi wynebu heriau yn addasu ceginau ysgol a chyflogi mwy o staff.
Ysgrifennodd Cyngor Gwynedd at rieni a gofalwyr mewn ysgolion cynradd yn gofyn a oedd ganddynt amser i "sicrhau llwyddiant cyflwyno cinio am ddim i bob plentyn yn eich ysgol leol" tra'n "ennill rhywfaint o bres trwy weithio i Gyngor Gwynedd".
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor bod llenwi swyddi yng ngheginau ysgol y sir yn "her".
"Rydym wedi bod yn rhoi gwybodaeth allan am swyddi dros yr wythnosau diwethaf sydd wedi bod o gymorth, ond dydy'r ymateb ddim wedi bod cystal yn yr ardaloedd gwledig," meddai mewn datganiad.
"Mae ein llythyr diweddar uniongyrchol i rieni disgyblion yn barhad o'n hymgyrch i ddenu fwy o staff."
Mae'r polisi prydau ysgol am ddim i bob plentyn yn rhan o gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ac wrth nodi dechrau'r cynllun, cyhoeddwyd y byddai'n cael ei ymestyn i blant meithrin llawn amser.
Mae £35m wedi ei glustnodi, ar ben £25m yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ar gyfer gwelliannau i geginau a systemau digidol yn ogystal â £200m, dros dair blynedd i dalu am y costau o weithredu'r polisi.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: "Mae teuluoedd ledled Cymru o dan bwysau aruthrol o achos yr argyfwng costau byw, ac rydyn ni'n gwneud popeth allwn ni i'w cefnogi.
"Mae ehangu prydau am ddim i bob ysgol gynradd yn un o nifer o fesurau rydyn ni'n eu cymryd i gefnogi teuluoedd drwy'r cyfnod anodd yma."
'Gwahaniaeth gwirioneddol'
Yn ôl Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price mae'r polisi yn golygu "na fydd angen i un plentyn fynd heb fwyd tra byddan nhw yn yr ysgol".
Ychwanegodd: "Drwy weithio gyda'n gilydd, rydyn ni'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl."
Mae'r blaid wedi dweud eu bod am weld prydau am ddim i bawb yn cael ei ymestyn i blant ysgol uwchradd yn y pendraw hefyd.
Ond dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y dylid canolbwyntio "adnoddau prin" ar y teuluoedd tlotaf.
"Mae argyfwng costau byw ac rydyn ni angen i bob ceiniog o arian cyhoeddus gael ei dargedu at ble mae ei angen fwyaf, rhywbeth dydy polisi Llafur a Phlaid ddim yn gwneud," meddai arweinydd y blaid, Andrew RT Davies.
Mae'r plant ieuengaf yn Lloegr a'r Alban eisoes yn derbyn prydau ysgol am ddim gyda'r bwriad o ymestyn y ddarpariaeth i blant hyn yn Yr Alban.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2022