Cyfres yn olrhain achos llofruddiaethau Port Talbot
- Cyhoeddwyd
Llofruddiaethau tair merch yn ardal Castell-nedd Port Talbot yn y 1970au, gafodd eu datrys 30 mlynedd yn ddiweddarach, yw testun cyfres ddrama ddiweddara'r BBC.
Mae Steeltown Murders yn olrhain hanes ymdrechion Heddlu'r De i ddatrys llofruddiaethau Sandra Newton, Geraldine Hughes a Pauline Floyd.
Fe gawson nhw eu lladd ym 1973, ond ddaeth enw'r llofrudd ddim i'r amlwg tan 2002, pan ddangosodd profion DNA mai Joseph Kappen oedd yn gyfrifol.
Roedd wedi marw degawd ynghynt.
Roedd Sandra Newton yn 16 oed pan gafodd ei chorff ei ddarganfod mewn ffos yn ardal Tonmawr ger Castell-nedd ym mis Gorffennaf 1973. Roedd hi wedi mynd ar goll ar ôl noson mas yn Llansawel.
Ddeufis yn ddiweddarach aeth Geraldine Hughes a Pauline Floyd - ill dwy hefyd yn 16 oed - ar goll ar ôl treulio noson yng nghlwb y Top Rank yn Abertawe.
Cafodd eu cyrff eu darganfod y diwrnod canlynol mewn coedwig yn Llandarsi.
Mae'r gyfres ddrama yn cynnwys actorion amlwg fel Philip Glenister o'r gyfres Ashes to Ashes, Steffan Rhodri, Nia Roberts, Aneurin Barnard a William Thomas.
Mae'n pontio dau gyfnod - yr ymchwiliad gwreiddiol ym 1973, a 2002 pan wnaeth y datblygiadau diweddaraf mewn technoleg DNA gysylltu Joseph Kappen o Bort Talbot â'r troseddau.
"Mae 'na stori bersonol iawn - stori tair merch ifanc aeth allan un noson ym 1973 a ddaethon nhw fyth gartref," meddai Hannah Thomas o gwmni Severn Screen, oedd yn gyfrifol am gynhyrchu Steeltown Murders.
"Wedyn mae 'na elfen o edrych ar waith yr heddlu ac fel aethon nhw ati i ddatrys y drosedd 'ma, bron i 30 mlynedd yn hwyrach.
"Yn 1973 doedd dim byd fel DNA na gwyddoniaeth fforensig ar gael, ac erbyn 2002 roedd gwelliannau ym myd gwyddoniaeth wedi golygu bod DNA yn rhywbeth i'r heddlu ddefnyddio."
Profion DNA newydd
Fe gysylltodd yr heddlu'r ymchwiliadau i lofruddiaethau Sandra Newton, Geraldine Hughes a Pauline Floyd wrth edrych eto ar yr achos tua'r flwyddyn 2000.
Dangosodd profion bod olion o'r un DNA ar ddillad y tair merch, ac felly fe ddechreuodd y gwaith o chwilio am y person oedd yn gyfrifol am ladd y tri ohonyn nhw.
Doedd dim cofnod ohono ar fas data'r heddlu, ac fe drodd ditectifs at raglen Crimewatch y BBC i ofyn am gymorth y cyhoedd.
Yn ogystal â hynny, fe ystyrion nhw a allai cysylltiad teuluol gyda throseddwyr eraill eu harwain at y llofrudd.
"Dechreuon ni feddwl y gallai fod yn bosib bod troseddu yn rhywbeth sy'n digwydd o fewn teuluoedd," meddai'r gwyddonydd fforensig Dr Colin Dark, sy'n cael ei bortreadu yn y gyfres gan Richard Harrington.
"Rydych chi'n etifeddu DNA gan eich rhieni, ac yn pasio DNA ymlaen i'ch plant.
"Felly a allen ni edrych ar y bas data DNA am blentyn troseddwr?"
Ar ôl chwilio trwy filoedd o gofnodion DNA, a rhestr hir o bobl fu dan amheuaeth yn ystod yr ymchwiliad ym 1973, daeth un cyfenw i'r amlwg.
Roedd manylion DNA Paul Kappen yn y bas data ar ôl dwyn ceir yn ardal Port Talbot. Dim ond saith oed oedd e adeg y llofruddiaethau.
Ond roedd ei dad, Joseph, wedi'i holi yn yr ymchwiliad gwreiddiol oherwydd ei fod yn edrych yn debyg i'r dyn roedd yr heddlu wedi cyhoeddi disgrifiad ohono.
Roedd e hefyd yn gyrru car Morris 1100 lliw golau fel y llofrudd posib.
Cafodd ei holi gan yr heddlu ym 1973, ond roedd ganddo alibi.
Serch hynny, gyda'r dystiolaeth DNA newydd, roedd yr heddlu'n amau'n gryf mai fe oedd yn gyfrifol.
Ond roedd Joseph Kappen wedi marw ym 1990, yn 48 oed.
Ar ôl i brofion ar DNA ei gyn-wraig a'i ferch ddangos cysylltiad cryf eto â'r olion ar ddillad Sandra, Geraldine a Pauline, fe gymrodd ditectifs gam arloesol i geisio profi'n bendant mai Jospeh Kappen oedd y llofrudd.
Fe ofynnon nhw am ganiatâd yr ysgrifennydd cartref ar y pryd, David Blunkett, i godi ei gorff o'i fedd i gynnal profion DNA.
Dyma oedd y tro cyntaf yn y DU i gorff cael ei godi i geisio profi bod rhywun yn euog o drosedd.
A dyna ddigwyddodd. Roedd archwiliad fforensig yn Ysbyty Treforys, Abertawe, wedi dangos yn bendant mai Kappen laddodd y tair merch 30 mlynedd ynghynt.
'Teuluoedd yn dal i fyw yn lleol'
"Does dim geiriau i ddisgrifio sut oedden ni'n teimlo - roedd yn rhyddhad enfawr," meddai cyfnither Geraldine Hughes, Julie Begley.
"Doedd dim un ohonon ni wedi rhoi'r gorau i obeithio y bydden ni, rhyw ddydd, yn darganfod pwy oedd yn gyfrifol.
"Er bod bywyd yn mynd yn ei flaen, mae yno o hyd yn y meddwl. Roedd Geraldine yn ferch arbennig - wastad yn llawn hwyl."
Wrth baratoi'r gyfres, roedd y cynhyrchydd Hannah Thomas yn ymwybodol o'r cyfrifoldeb o adrodd stori go iawn fel hon.
"Mae lot o'r teuluoedd yn dal i fyw yn lleol," meddai. "'Dyn nhw heb symud bant. Mae lot o bobl yn cofio'r achos yn dda iawn.
"Cafodd lot o fywydau eu dinistrio efo'r achos gwreiddiol, achos roedd sawl dyn o dan amheuaeth, felly yn bendant o'dd rhaid i ni fod yn hynod o sensitif.
"Fel cwmni lleol sy'n gwneud teledu yng Nghymru, oedd e'n ddyletswydd arnon ni i wneud y pethe ma'n gywir."
Dywedodd eu bod wedi siarad â'r teuluoedd o'r cychwyn cyntaf fel eu bod nhw'n "deall y rhesymeg dros wneud y ddrama".
Fe fuon nhw hefyd yn cydweithio'n agos gyda rhai o'r ditectifs a'r arbenigwyr fu'n gweithio ar yr achos.
"Dwi'n gobeithio bod e'n bortread teilwng o'r merched a'r ardal," meddai Hannah Thomas.
"Mae'n bortread o alar, ac yn edrych ar y rheini a gweld fel bo' galar yn parhau dros y blynyddoedd.
"Ond mae hefyd yn bortread o waith yr heddlu, ac fel eu bod nhw'n parhau i drio'u gorau trwy gydol yr holl ddegawdau i ddod o hyd i'r gwir."
Mae Steeltown Murders yn dechrau ar BBC One Wales am 21:00 nos Lun, ac ar BBC iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2023