Dedfrydu podlediwr am geisio annog casineb hiliol

  • Cyhoeddwyd
James AllchurchFfynhonnell y llun, Counter Terrorism Policing North East and South Wa

Rhybudd: Fe allai cynnwys yr erthygl beri gofid i rai.

Mae dyn wedi cael ei ddedfrydu i ddwy flynedd a hanner yn y carchar am rannu cynnwys "hiliol a gwrth-Semitaidd".

Fe wnaeth James Allchurch o Sir Benfro uwchlwytho'r podlediadau i'w wefan rhwng 2019 a 2021, ond gwadodd ei fod yn ceisio ysgogi casineb ar sail hil.

Ar ôl ei gael yn euog o 10 cyhuddiad fis Mawrth, fe ddywedodd y barnwr yn y llys ddydd Llun fod y cynnwys yn "afiach".

Fe ddywedodd Allchurch, 51, nad oedd wedi sylweddoli fod rhai o'r geiriau a ddefnyddiodd yn droseddau, ond fe gyfaddefodd fod "llawer o'i le gyda fe".

Yn ystod yr achos llys yn gynharach eleni, fe glywodd y rheithgor 15 rhifyn o'r podlediad oedd yn cynnwys trafodaeth am grogi pobl ddu ac Iddewig.

Fe gafodd cân ei chwarae oedd yn hyrwyddo arwahanu hiliol hefyd.

Fe wnaeth James Allchurch uwchlwytho'r podlediadau i'r wefan Radio Aryan - sydd bellach yn Radio Albion.

Yn ystod y dedfrydu, dywedodd y Barnwr Huw Rees fod gan Allchurch "agenda o gasineb hiliol" a'i fod "wedi dewis [ei] eiriau'n ofalus".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Barnwr fod iaith James Allchurch yn "staen ar ddynoliaeth"

"Roedd cynnwys y podlediadau hyn yn afiach," meddai.

Wrth ymateb i'r achos ddydd Llun, dywedodd Nick Price, Pennaeth Adran Troseddau Arbennig a Gwrthderfysgaeth y CPS: "Roedd y safbwyntiau atgas a rannodd Allchurch ar ei bodlediad yn fygythiad i'n cymdeithas.

"Mae'n iawn fod y rheithgor wedi ei gael yn euog o'i droseddau."

'Casineb neu eithafiaeth?'

Fe ychwanegodd Dr Lella Nouri, Athro Criminoleg o Brifysgol Abertawe fod yr achos yn un nodedig.

"Dyma'r tro cyntaf, mewn gwirionedd, ry'n ni wedi gweld yng Nghymru rhywbeth sydd ar y lefel ffin yna o 'ai trosedd casineb ar lafar yw hyn [neu] eithafiaeth?'," meddai.

"Gobeithio y gwnaiff beth sy'n digwydd heddiw osod cynsail fod y math hyn o iaith, p'un ai ar-lein neu beidio, ar flog neu bodlediad neu negeseuon cyfryngau cymdeithasol, fod hyn ddim yn addas."

Wrth ddedfrydu Allchurch i garchar, dywedodd y barnwr mai ei roi dan glo ar unwaith oedd yr unig ffordd o adlewyrchu difrifoldeb yr achos.

Pynciau cysylltiedig