Cyngor Sir Ddinbych 'wedi rhoi 75% o gronfa i'w hunain'
- Cyhoeddwyd
Mae angen i Gyngor Sir Ddinbych esbonio pam fod 75% o gyllid cronfa sydd werth dros £25m wedi mynd i'w prosiectau eu hunain, yn ôl cynghorwyr.
Ym mis Ebrill, penderfynodd cabinet y sir pa fentrau fyddai'n cael arian o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Ond mae'r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yn dweud nad oedd y broses yn "agored", a bod dim tystiolaeth sut daeth yr awdurdod lleol i'w benderfyniad.
Mae dogfennau Cyngor Sir Ddinbych yn dweud bod y grŵp oedd yn gyfrifol am ddethol y prosiectau buddugol wedi ymgynghori â rhanddeiliaid, gan gynnwys rhai cynghorwyr.
Cafodd y mater ei adolygu gan bwyllgor craffu ddydd Iau, a benderfynodd ofyn i gabinet y sir rannu manylion y broses o asesu'r ceisiadau gyda chynghorwyr.
Dywedodd uwch swyddog wrth y pwyllgor nad ydy hi'n "anghyffredin" fod cymaint o'r arian wedi ei glustnodi i brosiectau'r cyngor.
'Ddim yn broses agored'
Fe dderbyniodd y cyngor 110 cais i gyd, gyda'r Grŵp Partneriaethau Craidd yn dewis 29 i roi ar restr fer derfynol i gael cyfran o'r £25.6m sydd ar gael yn y sir.
Oherwydd rheolau rhanbarthol, £250,000 ydy'r lleiafswm y gellir ei roi i bob cais unigol am arian o'r cynllun, sy'n cymryd lle cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd gynt.
Dydy'r mentrau buddugol yn Sir Ddinbych ddim wedi cael eu henwi eto, ond mae dogfennau'n nodi bod tri chwarter yr arian wedi mynd i brosiectau sy'n cael eu harwain gan y cyngor.
Ym marn y Cynghorydd Hilditch-Roberts, sy'n cynrychioli tref Rhuthun ac yn arwain y grŵp annibynnol ar y cyngor, "dydy o ddim yn glir" sut cafodd y penderfyniadau hyn eu gwneud.
"Ar ddiwedd y dydd, mae 'na bron i £26m yn dod mewn i'r sir ac mae 'na lot o bobl a lot o gymunedau eisiau'r pres yna er mwyn gwella'r gymuned," meddai.
"Be' dwi'n teimlo ydy bod hwn ddim wedi bod yn broses agored. 'Dan ni ddim wedi gweld sut mae'r scheme yn cael ei farcio nac ar ba ardal mae'r pwysau yn cael ei roi."
Ychwanegodd: "Be' wnaeth fy ngwylltio i pan o'n i yn y cyfarfod cabinet [oedd] pan wnes i ofyn am y matrix [i ddangos] sut oedden nhw wedi cyrraedd eu penderfyniad, mi ddywedodd un o'r swyddogion 'it's an art not a science'.
"Ers pryd mae rhannu arian yn art, yn gelf? Dydy o ddim, nac ydy."
'Amserlen yn dynn'
Wedi i bum cynghorydd ysgogi'r drefn 'galw i mewn', cafodd Pwyllgor Craffu Partneriaethau'r sir gyfle i drafod y mater ddydd Iau.
Pleidleisiodd y pwyllgor yn unfrydol dros ofyn i'r cabinet rannu mwy o wybodaeth am y broses gyda chynghorwyr, tra'n derbyn y penderfyniad gwreiddiol ynghylch y prosiectau buddugol.
Yn ystod y cyfarfod, dywedodd Tony Ward, cyfarwyddwr corfforaethol Yr Economi a'r Amgylchedd gyda'r cyngor, bod y ceisiadau wedi cael eu hasesu yng nghyd-destun y cynllun buddsoddi rhanbarthol.
Ychwanegodd bod y broses yn "fwy cymhleth na dim ond asesu pob cais yn unigol" gan fod cyllid penodol wedi ei glustnodi ar gyfer themâu ac amcanion gwahanol.
Dywedodd hefyd nad oedd hi'n "anghyffredin" fod 75% o'r cyllid wedi mynd i brosiectau'r cyngor ei hun.
Ar ddechrau dadl dwy awr a hanner o hyd, mynnodd arweinydd y cyngor, Jason McLellan o'r Blaid Lafur, eu bod nhw wedi "cyd-fynd â chanllawiau Llywodraeth y DU".
Tra bod eraill yn dadlau bod cyfleon wedi eu methu i ymgynghori'n llawn gyda chynghorwyr, dywedodd y Cynghorydd McLellan bod "amser yn dynn".
"Fe fyddwn i'n dadlau yn erbyn yr honiadau bod 'na ddim cyfle yn ystod y broses i ymwneud ag aelodau'r cyngor… ond dwi'n cyfaddef bod yr amserlen yn dynn iawn," meddai.
'Risg i enw da'
Yn y ddogfen gafodd ei hystyried gan y cabinet cyn iddyn nhw wneud eu penderfyniad ar 24 Ebrill, mae swyddogion yn nodi bod "risg i enw da" os ydy pobl yn ystyried y penderfyniad i roi cymaint o'r arian i brosiectau'r cyngor yn "annheg".
Ychwanegodd y ddogfen: "Y rhesymeg yw bod cynnig strategol yn ystyriaeth allweddol, a bod y prosiectau ar y rhestr fer yn cyd-fynd orau gyda'r Cynllun Buddsoddi a ddatblygwyd gan y Cyngor.
"Er hynny, mae angen eglurhad gofalus o ran pwysigrwydd y cynnig strategol a'r cyfle y mae sefydliadau eraill wedi'i gael i gyfrannu at lunio penderfyniadau, ochr yn ochr â'r cynnig o gefnogaeth barhaus."
Bydd argymhellion y pwyllgor craffu yn cael eu hystyried gan gabinet y cyngor ar 23 Mai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2022