Casnewydd: Dyn o flaen llys ar gyhuddiad o lofruddio
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Gasnewydd wedi ymddangos yn llys ynadon y ddinas wedi'i gyhuddo o lofruddio dynes 44 oed yr wythnos diwethaf.
Mae disgwyl i Lewis Bush, 25, ymddangos o flaen Llys y Goron maes o law.
Cafodd Kelly Pitt ei chanfod yn anymwybodol yn ei chartref yn Sandalwood Court, Casnewydd am tua 11.30 fore Gwener, 12 Mai.
Mewn teyrnged, dywedodd teulu Ms Pitt ei bod yn wyres, merch, chwaer, mam, a mam-gu hoffus.
"Roedd hi'n enaid prydferth, ac yn berson hyfryd ar y tu mewn a'r tu allan," meddai'r deyrnged.
"Roedd hi'n garedig, meddylgar, doniol a byddai'n helpu unrhyw un.
"Cafodd Kelly ei chymryd yn llawer rhy fuan, ac rydym wedi'n dinistrio gan yr hyn ddigwyddodd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2023
- Cyhoeddwyd15 Mai 2023