Neges Heddwch yr Urdd: 'Rhaid gwneud mwy ar hiliaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr yr Urdd wedi cydnabod nad ydy'r mudiad wedi gwneud digon yn y gorffennol i fod yn wrth-hiliol.
Wrth i'r Urdd gyhoeddi neges Heddwch ac Ewyllys Da 2023, dywedodd Sian Lewis fod yr Urdd wedi bod yn cymryd camau cadarn i newid hynny.
Gwrth-hiliaeth ydy thema'r neges, gyda'r bobl ifanc fu'n ei sgwennu yn dweud nad ydy peidio bod yn hiliol yn ddigon - mae'n rhaid bod yn wrth-hiliol a herio pobl sy'n ymddwyn yn hiliol.
Pob blwyddyn mae'r neges yn rhoi llais i blant a phobl ifanc Cymru i dynnu sylw'r byd at bwnc perthnasol a phwysig.
Mae myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd wedi bod yn gweithio gyda'r cerddor Eädyth a swyddog cynnwys addysg S4C, Natalie Jones i sgwennu'r neges.
"Oedd diwrnod llawn o drafodaethau, ond hefyd fel rhyw fath o safespace i ni gyd rannu'n straeon personol," meddai un o'r myfyrwyr, Lena Mohammed o Wrecsam.
"O fewn ychydig oriau roedd y neges wedi dechrau ffurfio ac roedd y geiriau'n reit bwerus."
Ychwanegodd y cerddor Eädyth: "Y neges tu ôl i'r neges ydy edrych ar ôl ein gilydd, yn enwedig pobl sydd efo cefndiroedd gwahanol.
"Dwi'n meddwl fel person o liw gwahanol mae'n rili bwysig i ni addysgu a chario 'mlaen i ddysgu ffyrdd newydd o edrych ar ôl ein gilydd ac adeiladu cymdeithasau saff i bobl, a dyna beth mae'r neges yn ei ddweud."
'Rhaid i ni wneud mwy'
Mewn ymateb i'r neges mae'r Urdd wedi addo gweithredu drwy roi hyfforddiant "ymwybyddiaeth hil" i staff yn barhaus.
Bydd cynrychiolaeth mwy amrywiol ar fyrddau'r mudiad ac o fewn y gweithlu, gyda staff gwersylloedd Caerdydd, Llangrannog, Glan-llyn a Phentre-Ifan yn cael hyfforddiant ar sut i edrych ar ôl gwallt affro.
"Strategaeth newydd yr Urdd ydy Urdd i bawb, Urdd sy'n adlewyrchu'r Cymry newydd heddiw, Cymru sy'n gynhwysol, sy'n d'eud ac sy'n gyfartal," meddai Sian Lewis, prif weithredwr y mudiad.
"Mae'n rhaid i ni 'neud mwy. Dwi'n meddwl bod bob sefydliad yng Nghymru yn cydnabod bod nhw ddim wedi g'neud digon.
"Yn sicr mae'r Urdd yn cydnabod hynny, ond mae heddiw'n ddiwrnod newydd ac mae'n rhaid symud ymlaen."
Chwe mis ers dathlu'r canmlwyddiant, mae'r Urdd wedi cyflogi tri aelod newydd i'r adran chwaraeon sy'n dod o gefndiroedd ethnig neu ddu.
Ers mis Tachwedd mae Nooh Ibrahim wedi bod yn gweithio fel swyddog datblygu chwaraeon amrywiaeth a chynhwysiant, ac wedi bod yn dysgu Cymraeg.
"Mae'r neges yn bwysig achos ma' racism yn something that lives amongst us, ac mae'n bwysig galw nhw allan achos if we don't it's just gonna carry on," meddai.
Mae neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd wedi'i chyfieithu i dros 50 o ieithoedd, a'r llynedd fe welodd 30 miliwn o bobl y neges.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2022
- Cyhoeddwyd18 Mai 2022
- Cyhoeddwyd18 Mai 2021