Arestio dyn wrth ymchwilio i wrthdrawiad Llaneirwg
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio fel rhan o ymchwiliad i wrthdrawiad a laddodd dri o bobl ar gyrion Caerdydd fis Mawrth.
Bu farw Eve Smith, 21, a Darcy Ross, 21, o Gasnewydd, a Rafel Jeanne, 24, o Gaerdydd, yn dilyn y digwyddiad ar ffordd yr A48 yn ardal Llaneirwg ar 4 Mawrth.
Fe wnaeth dau berson arall oroesi.
Wrth gynnal eu hymchwiliad, mae'r heddlu nawr wedi arestio dyn 32 oed ar amheuaeth o yrru'n beryglus a gyrru heb gymhwyster ar yr M4 am tua 22:00 ar 3 Mawrth.
Ond fe wnaeth yr heddlu bwysleisio nad yw'r troseddau y mae'r dyn wedi ei arestio yn eu sgil yn gysylltiedig â'r gwrthdrawiad.
Fe gadarnhaodd yr heddlu hefyd mai Rafel Jeanne oedd gyrrwr y car pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad angheuol yn ddiweddarach y noson honno.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies o Heddlu De Cymru: "Fe gafodd [y dyn] ei arestio o ganlyniad i dystiolaeth gafodd ei ddarganfod gan swyddogion oedd yn ymchwilio i'r gwrthdrawiad angheuol ac mae'n ymwneud â'r un cerbyd.
"Mae ein hymchwiliad manwl yn parhau a fydd yn ein galluogi i ddarparu ffeithiau ar yr hyn ddigwyddodd yn oriau man ddydd Sadwrn 4 Mawrth."
Dywedodd y llu fod teuluoedd y rhai gafodd eu heffeithio'n cael eu cefnogi.
Mae'r dyn 32 oed wedi ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i'r ymchwiliad barhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2023