Johnny Cash, Andy Warhol a ‘Wil from Wales’
- Cyhoeddwyd
Prin iawn mae rhywun yn clywed am berson sydd wedi cyfarfod Johnny Cash ac Andy Warhol, heb sôn am wneud hynny ar hap a damwain o fewn un awr yn Efrog Newydd.
Ond mae'r ffordd wnaeth Wil Rowlands gyfarfod rhai o ffigyrau pwysicaf byd celf a cherdd y 70au a'r 80au yn crynhoi gyrfa hynod liwgar yr artist o Ynys Môn.
1985 oedd hi ac roedd wedi bod yn aros yn Greenwich Village yn yr 'Afal Mawr' tra'n mynychu cynhadledd gan y School of Visual Arts.
"Roeddwn i wedi pasio siop lyfrau yn y bora ac ar y ffenast roedd 'na ddarn bach o bapur yn deud 'Andy Warhol here this evening at 7.30 signing this book'," meddai Wil wrth Beti George ar Radio Cymru.
"Ond rhyw awr cyn hynny roeddwn yn lladd amser. Dyma fi yn mynd i mewn i siop lyfrau arall ac ar yr ail lawr doedd 'na neb yna dim ond y fi, oeddwn i yn meddwl…
"Roeddwn i'n cerdded o gwmpas gyda fy mhen ar gam yn sbïo ar y llyfrau a nes i yn llythrennol bympio mewn i'r dyn 'ma - tal, mewn dillad du - ac er bod gen i vinyls Johnny Cash adra, ac roeddwn yn chwarae ei ganeuon o ar fy ngitâr - dyma fi yn troi fy llaw ato fo a deud 'oh you're um…' a fedra'i ddim cofio ei enw fo!
"Roedd o wedi fy llorio i… A dyma fi yn pwyntio ato fo [a dweud] 'you're that singer' a dyma fo yn pwyntio ata fi i ysgwyd llaw, 'yes I am, and who are you?' medda fo.
"Dwi'n dal yn embarrassed am y peth oherwydd gyd ddywedais i oedd 'I'm Wil from Wales'!"
Yn dal wedi ei syfrdanu o gyfarfod 'Y Dyn mewn Du' aeth Wil i lawr y stryd yn Greenwich Village i gyfarfod Warhol.
"Fanna oedd Warhol, yn bwtyn bach, yn wahanol i Johnny Cash, yn llofnodi ei lyfr i mi, i Wil yn arbennig, ac wedyn dyma'r boi tu ôl i fi yn gofyn 'Would you like me to take a picture'… wel 'yes' medda fi wrtho fo.
"Mae'r llun hwnnw gen i hyd heddiw - o Warhol yn edrych i fyw fy llygad i. Oddi fewn blwyddyn roedd wedi marw."
'Pwy sy'n gwneud hyn? Ydi o'n gwneud hyn fel bywoliaeth?'
Y rheswm y glaniodd Wil Rowlands yn Efrog Newydd yr wythnos honno oedd oherwydd ei fod erbyn hynny wedi sefydlu ei hun fel darlunydd llwyddiannus.
Ond ni fyddai'r mab fferm o Landyfrydog yn Ynys Môn erioed wedi rhagweld ei ffawd wrth ddarlunio o'i 'stafell yn y 50au a'r 60au.
Bryd hynny mi fyddai'r Wil ifanc wedi bod yn cael ei ysbrydoliaeth o brintiau cylchgronau'r Radio Times a chomics y cyfnod oedd yn dod trwy'r post.
"Doedd gen i, dim mwy nag unrhyw blentyn arall, ddim syniad beth oedd oriel gelf," meddai.
"Doeddwn i ddim yn deall bod y fath bethau yn bod. Ond mi oedd 'na oriel yn dod i mewn i'r tŷ bob wythnos - sef y Radio Times a'r comic Topper.
"Roeddwn i wrth fy modd yn yfad y gwaith celf oedd yn y cyhoeddiadau yma. Radio Times yn arbennig oherwydd roedd o bron i gyd yn ddu a gwyn, ac roedd 'na artist o'r enw Eric Fraser oedd yn gwneud illustrations bach.
"Roedd o yn du hwnt o gelfydd ac o'n i'n wondro i fi fy hun - pwy sy'n gwneud hyn? Ydi o'n gwneud hyn fel bywoliaeth?
"Mae'n rhaid yn yr isymwybod 'nes i feddwl, o ia fedra' i wneud hynna hefyd."
'Bron â llenwi fy nhrowsus!'
Ac roedd isymwybod Wil yr artist ifanc yn iawn. Gyda chefnogaeth ei athro J.O Hughes o Laneilian fe adawodd gefn gwlad ei fro a chychwyn ei daith ym myd celf.
Ar ôl mynd i goleg addysg bellach yng Nghaer aeth i goleg celf John Moores yn Lerpwl a chael gradd dosbarth cyntaf a Gwobr John Moore i'r myfyriwr disgleiriaf.
Wedi iddo raddio yn 1971 treuliodd gyfnod yn teithio drwy'r Iseldiroedd, Almaen, Ffrainc a Sbaen.
"Roedd gen i ryw awch i jest mynd i rwla," meddai. "Gweld rhywbeth gwahanol rownd pob cornel, jest symud ymysg gwahanol ddiwylliannau, ieithoedd, a jest symud o wlad i wlad."
Wedi cyfnod ar y lôn dychwelodd i Brydain i chwilio am waith ym Manceinion a chyn hir mi ffeindiodd ei draed fel darlunydd llawn amser gyda chwmni cynllunio graffeg.
"Dwi'n cofio'r diwrnod es i mewn, dyma'r ffôn yn mynd - a phwy oedd yna oedd Granada, oedd jest i lawr y lôn, yn gofyn 'have you got a cartoonist?' a dyma nhw yn troi ata fi ac yn gofyn 'can you do cartoons?' - y gwirionedd ydi na fedra i ddim," meddai.
"Pwy oedd yn disgwyl amdana i oedd Gordon Burns oedd yn cyflwyno'r rhaglen The Krypton Factor ar HTV. Dyma fo yn deud 'I am going to present this very long and boring explanation of what the four week entails and I want you to have huge cartoons behind me explaining what I'm saying.'
"Wel, dwi'n dweud wrtha' chi, nes i bron â llenwi fy nhrowsus! Ond rhyw ffordd neu gilydd 'nes i lwyddo ei wneud o."
Portreadu
Yn dilyn y bedydd tân sefydlodd Wil ei hun fel dylunydd llawrydd llwyddiannus ym Manceinion am 20 mlynedd, gan amlaf yn gweithio i gwmnïau hysbysebu.
Yn ystod ei gyfnod yno roedd yn mwynhau braslunio portreadau o bobl, yn enwedig mewn tafarndai.
"Mae o'n rhywbeth cyson gen i ers pan o'n i'n ifanc," meddai wrth drafod portreadu gyda Beti George. "Mae'r wyneb yn rhyw her arbennig iawn ac mae'n broses diddorol astudio'r wyneb.
"Roeddwn i'n licio tafarn. Mae 'na lot o gysgodion cryf, mae'n fwy tywyll na lot o lefydd erill. Ac mi rydach chi yn cael rhyw beint, ac mae pawb yn ymlacio, ac mae'n bwysig pan 'dach chi'n drawio oherwydd mae'r tensiwn yn diflannu o'r llaw ac o'r fraich ac mae'r holl scenario yn eithaf addas at wneud portreadau o bobl."
Un portread sy'n aros yn y cof ydi braslun gymerodd o ddwy wraig ar daith trên pan fuodd yn teithio yn India a Nepal am dri mis yn 1985.
"Mi ges i compartment efo tri arall. Roeddwn i a'r boi Arabaidd 'ma… Wedyn roedd 'na ddwy ddynes efo ni ac roedden nhw yn eistedd o'n blaenau ni.
"Nes i benderfynu gwneud llun o'r ddwy yma achos roedden nhw wedi eu gorchuddio mewn du efo darn yn datgelu eu llygadau nhw.
"A dyma fi'n meddwl… mae hon yn sefyllfa eithaf peryg achos yn amlwg roedd y ddwy yn wragedd iddo fo. Dyma fo yn plygu drosodd ac yn gweld be oeddwn i'n gwneud, a dyma fi yn dangos iddo fo, a dyma fo'n troi ata'i a'r wên fwyaf anhygoel - ac o'r foment honno roedd o fel roedd 'na ryw dryst rhyngon ni.
"A dyma fo yn dangos i'r merched, a drwy ddim ond edrych ar eu llygaid roeddwn yn gweld eu bod nhw yn chwerthin ac yn gwenu."
'Perthynas arbennig iawn' gydag R.S Thomas
Un ffigwr gafodd Wil y fraint o'i bortreadu oedd R.S Thomas ac mi brofodd y braslun i fod yn hedyn i ddechrau cyfeillgarwch agos gyda'r bardd am flynyddoedd.
Roedd hi yn y cyfnod pan ddychwelodd Wil i Gemlyn, ger Cemaes yng ngogledd Ynys Môn yn 1992.
"Mi ddeudodd o yn blaen 'na chewch'," meddai Wil wrth gofio gofyn iddo gyntaf os gâi wneud portread ohono.
"Ond - a dyma ffordd R.S - dyma fo yn gadael y drws yn agored a dweud 'ond mae croeso i chi ddod draw a 'ngweld i'."
A phwy feddyliai y byddai R.S Thomas yn berson pobi cacennau?
"Dwi ddim yn meddwl mai fi oedd yr unig un a gafodd y fraint yna ond pan es i i weld o roedd o wedi paratoi te, roedd o yn arbennig. Mi ddaeth â phlatiad o fairy cakes sbynj! Dwi jest yn difaru nad oedd gen i ffilm yn y camera i gofnodi'r peth.
"Mi oedd hi'n berthynas arbennig iawn - rwbath dwi'n tu hwnt o falch ohono fo a falch fy mod i wedi ei gyfarfod o a'i 'nabod o."
'Gwefr'
Bu Wil yn cynnal arddangosfa bob blwyddyn am 30 mlynedd ac mae'n diolch i'r ffaith iddo gael ei fagu ar fferm yn y 50au am ei ddisgyblaeth.
"Mae'n eich gwneud chi'n ddyfeisgar iawn yn sicr yn y cyfnod yna yn y 50au oherwydd 'dach chi yn gorfod trwsio bob dim," meddai.
"Dwi 'rioed yn cofio cael beic newydd - 'da chi yn gwneud beic allan o ryw olwyn yn fama a ffrâm yn fancw.
"Gorfod creu eich teganau eich hun. Mae hynny yn beth iach deud y gwir."
Er nad yw'n gweithio dan bwysau arddangosfeydd y dyddiau hyn mae'r artist yn ei chael hi'n anodd iawn peidio mynd i'r stiwdio a gwneud rhywfaint o waith bob dydd. Ac yn hytrach na gweithio i gyrraedd dedlein, mae'r pwyslais ar fwynhau.
"Dwi'n ffeindio - yn enwedig yn y 15 mlynedd olaf - mae 'na ryw naratif yn datblygu o 'mywyd i fy hun," meddai wrth Beti George.
"Felly mae hiwmor a rhai o'r dywediadau roeddwn yn clywed fel plentyn fel petaen nhw'n dod yn ôl.
"Be' sy'n bwysig ydi mod i yn cael gwneud rhywbeth sy'n rhoi gwefr i mi."
Hefyd o ddiddordeb: