Pwy sy'n haeddu bod ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2023?
- Cyhoeddwyd
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi datgelu enwau'r cyfrolau sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023.
Datgelwyd y rhestr Cymraeg, sy'n cynnwys 12 o lyfrau mewn pedwar categori, ar raglen Ffion Dafis ar BBC Radio Cymru brynhawn Sul, 21 Mai.
Cymru Fyw sydd wedi gofyn i'r adolygydd llyfrau, Bethan Mair, i ymateb i'r rhestr fer.
'Mae'n anodd iawn gwybod beth sy'n gymwys'
Cafodd deuddeg o lyfrau Cymraeg eu henwi ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn neithiwr: tair cyfrol o farddoniaeth, tair o ffuglen, tair yn y categori 'dal-mewn-pwced' hwnnw, ffeithiol greadigol, a thri llyfr i blant a phobl ifanc.
Nawr, oni bai eich bod chi'n cadw llygad barcud ar restrau cyhoeddi llyfrau Cymraeg newydd, mae'n anodd iawn gwybod beth sy'n gymwys ar gyfer cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn mewn unrhyw flwyddyn benodol, a beth sydd ddim.
Dyw Llenyddiaeth Cymru, sy'n cynnal y gystadleuaeth, ddim yn cyhoeddi rhestr o'r teitlau sydd yn y glorian, felly i unrhyw un fel fi, sy'n dymuno gweld beth gafodd ei gynnwys a beth gafodd ei hepgor, mae'n dipyn o her.
Cymerwch y nofel Llyfr y Flwyddyn gan Mari Emlyn, er enghraifft, a gyhoeddwyd yn hwyr iawn yn 2022. Oedd hi'n rhy hwyr i fynd i'r pair? Wyddon ni ddim.
A fydd hi felly'n gymwys ar gyfer ei hystyried y flwyddyn nesaf? Eto, wyddon ni ddim - ond byddai'n drueni ei cholli o'r drafodaeth, am ei bod hi, fel Wal, nofel ddiwethaf Mari, yn chwip o nofel dda.
'Mae gen i fy ffefrynnau'
Ar y cyfan, dwi'n ddigon hapus â detholiad y beirniaid eleni. Mater o chwaeth bersonol, yn aml iawn, yw dethol rhestr fel hon, er bod safon, fel hufen, yn codi i'r wyneb.
Wedi dweud hynny, mae gen i fy ffefrynnau ymhob un o'r categorïau. Mae'n braf gweld Menna Elfyn yn dychwelyd i'r rhestr farddoniaeth; hi yw un o'n beirdd pwysicaf a mwyaf amlwg ni, ac mae hi wedi dymchwel waliau a ffiniau'r Gymraeg wrth fynd â'i gwaith i bedwar ban byd.
Ond yn y categori barddoniaeth, dwi'n gobeithio mai Elinor Wyn Reynolds fydd yn ennill; mae Anwyddoldeb yn gyfrol eithriadol, ac mae Elinor yn fardd eithriadol ddawnus, sy'n llwyddo i fynd â ni o'r llon i'r lleddf, ac yn ôl, ar ddimai.
Yn y categori ffuglen, roeddwn wedi bod yn gweddïo y byddai Pridd gan Llŷr Titus yn cael lle.
I mi, dyma un o lyfrau gorau'r llynedd - ac eleni, a'r flwyddyn nesaf, rwy'n tybio. Bu'n llwyddiant enfawr gyda'r clwb darllen yr ydw i'n aelod ohono, a phob un ohonom wedi dwlu ar y cynildeb, y ddawn dweud, y portread o hen ŵr sy'n gymaint rhan o'i gymuned â'r waliau cerrig o gwmpas ei dir, ac eto sy'n para i fod ar y cyrion - er, yn ôl cyfaill, doedd yr un aelod o glwb darllen Caerfyrddin wedi'i hoffi... Rhaid gofyn mewn difri calon, oedden nhw'n darllen yr un gyfrol, tybed?!
Hon ddylai ennill y categori hwn i mi.
'Chwith i beidio â gweld Capten ar y rhestr'
Roedd hi'n chwith gen i beidio â gweld Capten gan Meinir Pierce Jones, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen, yn cael mensh yma, hefyd, am ei bod hi'n nofel ar gynfas mor eang sy'n cyflawni popeth y bwriadai'r awdur iddi wneud.
Buaswn wedi'i rhoi i mewn yn ail i Pridd, ac wedyn, Llyfr y Flwyddyn gan Mari Emlyn yn y trydydd lle. Ond nid y fi yw'r beirniaid, a bydd hi'n ddiddorol clywed pam y dewison nhw'r tri a ddewiswyd.
Lle i Cleif ar restr Gwobr Ffeithiol Greadigol?
Does gen i fawr ddiddordeb yn y categori ffeithiol greadigol i oedolion a dweud y gwir, ond buaswn efallai wedi ceisio gweld a oedd lle i Breuddwyd Roc a Rôl? gan Cleif Harpwood, sy'n gymaint (hunan)gofiant iddo fe ag yw o folawd i oes aur y byd pop yng Nghymru.
Efallai nad oedd y gyfrol yn gymwys, am fod rhith-awdur (yn ffurf Elinor Wyn Reynolds) wedi cydweithio gyda'r awdur. Ond, wrth gwrs, rhaid i ni ddyfalu hynny, am nad oes gennym restr o'r llyfrau cymwys. Niwsans.
Os oes rhaid i mi roi fy mhen ar y bloc, hoffwn weld Gareth Evans Jones yn cael clod - mae e'n awdur tan gamp ac mae angen iddo gael mwy o amlygrwydd.
Oes pwynt i'r categori plant a phobl ifanc?
Dwi wedi dadlau droeon nad oes pwynt cael categori plant a phobl ifanc yn Llyfr y Flwyddyn, am fod gwobr gyfan arall - Gwobr Tir na nOg - yn cael ei chynnal i wobrwyo ysgrifennu i'r oedran penodol hwn.
Does neb yn gwrando, wrth gwrs, ond mae'r categori llawn iawn hwn yn gofyn gormod gan y beirniaid, a byddai'n well gadael i'r Cyngor Llyfrau gynnal eisteddfod y llyfrau plant yn unig.
Manon Steffan Ros, pwy arall, sy'n mynd i fynd â hi fan hyn, dwi'n meddwl - mae Powell yn gyfrol y dylai pawb ei darllen, nid dim ond pobl ifanc, ac mae'n dangos eto mor ddawnus yw Manon, a pham ei bod hi'n gymaint o ffefryn gan ddarllenwyr o bob oed a chefndir yng Nghymru.
A phwy fydd yn ennill y wobr fawr ym mis Gorffennaf? Wel, does gen i ddim syniad! Bydd yn rhaid i bawb ohonom aros i weld.
Dwi'n gobeithio y bydd yn un o blith fy mhedwar 'ffefryn' uchod - ond dwi'n falch nad oes yn rhaid i mi roi fy mhen ar y bloc yn y byd go iawn!
Hefyd o ddiddordeb: