Pŵer cerdd i drin affasia a chyflyrau meddygol
- Cyhoeddwyd
Pan dorrodd y newyddion yn ddiweddar fod yr actor Bruce Willis yn dioddef o affasia, mae'n siŵr i lawer gwestiynu beth yn union oedd y cyflwr.
Un sy'n gyfarwydd iawn â'r pwnc ydy Vicky Guise wnaeth sefydlu côr yn Ysbyty Llandochau i helpu cleifion oedd yn byw gyda'r cyflwr niwrolegol.
Mae Vicky yn therapydd cerdd yng Nghaerdydd, ac yn gobeithio bydd y cyhoeddusrwydd i affasia yn sgil cyhoeddiad Bruce Willis yn taflu goleuni newydd ar y pwnc.
Mae affasia'n codi oherwydd niwed i'r ymennydd, yn aml ar ôl strôc neu anaf i'r pen sy'n achosi problemau iaith, lleferydd, gwybyddiaeth a symudiad. O ran ei drin, un o'r amcanion yw gwella gallu'r unigolyn i gyfathrebu, yn aml drwy ddulliau therapi lleferydd-iaith.
Ers yn ifanc, mae Vicky wedi defnyddio cerddoriaeth fel cyfrwng i'w helpu'n feddyliol.
"Cerddoriaeth oedd y peth o'n i'n troi ati pan o dan straen, o'n i wastad yn gwrando ar gerddoriaeth, ac mae hi wastad wedi bod yn ddihangfa," meddai. "Roedd canu'r ffliwt cyn gwneud gwaith ysgol yn tawelu fy meddwl ac yn gwneud i mi ddefnyddio fy ymennydd mewn ffordd wahanol."
Fe raddiodd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac aeth ati wedyn i ddilyn cwrs M.A. Therapi Cerdd ym Mhrifysgol De Cymru. Un rhan o'r cwrs oedd ymlyniad mewn ysbyty niwrolegol, lle dechreuodd ar sesiynau therapi cerddorol.
"O'n i'n defnyddio'r ffliwt ac offerynnau taro - y bwriad oedd asesu sut oedd modd i gerddoriaeth greu nod i'r cleifion, er enghraifft, cyfrwng i ddelio gyda lefelau gorbryder a mynegiant emosiynol. Roedd cerddoriaeth yn gallu gweithio fel allfa i ryddhau rhwystredigaethau, a defnyddio offerynnau taro fel drymiau i helpu gyda hyn."
Côr affasia
Mae Vicky erbyn hyn yn weithwraig iechyd proffesiynol, ac yn ymwneud yn gyson â chleifion sydd wedi dioddef anafiadau i'r ymennydd. Dechreuodd y côr affasia ar ward cleifion mewnol yn Ysbyty Llandochau fel peilot wyth wythnos yn 2019, pan gwrddodd Vicky â therapydd lleferydd ac iaith yn yr ysbyty a datblygwyd y prosiect gan y ddwy.
Addasodd Vicky yr adnoddau i fod yn affasia-gyfeillgar, drwy ddefnyddio delweddau i gyfleu ystyr gair neu linell mewn cân, er mwyn helpu'r cantorion i ddeall y neges. Rhaid oedd treulio amser yn twymo'r lleisiau fyny ar ddechrau sesiynau, drwy ymarferion anadlu, hymian, neu adrodd seiniau llafariaid. Roedd y cleifion yn rhoi sgoriau hwyliau ar ddechrau a diwedd bob sesiwn, ac fel rheol roedd yna welliant amlwg yn dilyn y cyd-ganu.
Magu hyder drwy ganu
"Y bwriad oedd defnyddio caneuon i helpu pobl fagu hyder drwy ganu ac i ailgysylltu gyda'r gallu i siarad," meddai Vicky. "Weithiau byddai person yn ei ffeindio'n anodd i ynganu geiriau ar lafar, ond yn llwyddo canu pob llinell o gân. Yr uchafbwynt oedd perfformiad gan y côr i staff yr ysbyty, daeth chwaraewyr prês o gerddorfa'r BBC mewn i gymryd rhan, ac mi oedd yn ddigwyddiad reit lwyddiannus."
O ganlyniad i'r cyfnod clo, dydy'r côr affasia ddim wedi cwrdd ers Chwefror 2020, ond mae yna gyllid mewn lle ar gyfer sesiynau pellach a'r gobaith yw ailgychwyn ymarferion yn fuan.
Yn ôl Vicky, mae cerddoriaeth yn gallu gweithredu fel pont rhwng unigolyn a'r therapydd ac yn creu perthynas agos gyda phobl sydd yn dioddef mewn amrywiol ffyrdd oherwydd cyflyrau iechyd difrifol.
Cerddoriaeth yn dod ag atgofion yn ôl
Athrawes gerdd arall sydd wedi gweld budd perfformio mewn canolfannau iechyd, a hynny ar draws Prydain yw Lois Davies o Bont-y-clun. Yn delynores a phianydd, mae hi wedi perfformio'n gyhoeddus ar lwyfannau rhyngwladol, ond gweithio ar gynllun Cerddoriaeth Mewn Ysbytai sydd wedi creu'r argraff fwyaf arni hyd yma.
Yn ôl Lois: "Dyw neud cyngerdd yn Carnegie Hall neu'r Sydney Opera House ddim patch ar gyngerdd mewn cartref hen bobol neu hosbis."
Wrth weithio ar y cynllun ysbytai, bu Lois yn aml yn addasu'r rhaglen i siwtio'r gynulleidfa. Roedd hi'n gyson yn cynnal sesiynau drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, gan greu medli o emynau neu ganeuon poblogaidd fyddai'n gyfarwydd i'r gwrandawyr ac yn rhoi gwefr iddynt.
"Odd da ni repertoire le o'n i'n neud cwisys cerddorol, stori fach am drip rownd y byd, cwis ffilmiau odd yn cael y trigolion i feddwl. Ceisiadau, er enghraifft Calon Lân a chal nhw ddawnso'r Merry Widow waltz ar y delyn. Gwirfoddolwyr yn hybu pawb i godi a dawnso, a'r staff gofal yn ymuno hefyd."
Sesiynau therapi yn rhoi hwb i'r hwyliau
Ymysg amcanion sesiynau therapi cerdd mewn cymunedau iechyd fel ysbytai, cartrefi gofal a chanolfannau iechyd meddwl mae hybu'r cof, lleihau gorbryder ac iselder a chodi'r hwyliau yn gyffredinol.
Yn ôl Lois, i'r unigolion hynny oedd yn gweld cyfathrebu drwy siarad yn heriol, roedd clywed cerddoriaeth yn amlwg yn werthfawr iddynt.
Meddai: "Rwyt ti wastad yn gweld rhyw glimmer yn eu llygaid nhw, gweld flicker bach mewn person sy' 'di cael strôc - mae'n neud eu diwrnod."
Hefyd o ddiddordeb: