Wrecsam yn sicrhau dyrchafiad yn ôl i'r Gynghrair Bêl-droed
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi sicrhau dyrchafiad yn ôl i'r Gynghrair Bêl-droed ar ôl 15 mlynedd yn dilyn buddugoliaeth o 3-1 yn erbyn Boreham Wood nos Sadwrn.
Ar ôl i Notts County ennill yn gynharach yn Maidestone, roedd y Dreigiau yn gwybod y byddai buddugoliaeth yn y gêm hwyr yn ddigon i sicrhau'r nod.
Fe ddaeth tair gôl i roi'r sicrwydd hynny a'r awyrgylch yn drydanol yn stadiwm y Cae Ras.
Fe fyddan nhw nawr yn chwarae yn Adran Dau y tymor nesaf - sef pedwaredd haen cynghreiriau proffesiynol Lloegr.
Tawelwyd cefnogwyr y Cae Ras yn y funud gyntaf - o fewn 50 eiliad roedd Boreham Wood ar y blaen.
Pêl hir o ganol cae a chamgymeriad yn yr amddiffyn gan Ben Tozer. Lee Ndlovo oedd yno i godi'r bêl dros Ben Foster i roi'r ymwelwyr ar y blaen.
Ar ôl y dechrau, Wrecsam oedd yn rheoli'r meddiant, a gyda chwarter awr o'r gêm wedi mynd roedd y sgor yn gyfartal.
Croesiad gwych o'r asgell dde gan Ryan Barnett i'r postyn pellaf ac Elliot Lee oedd yno i benio'r bêl i gefn y rhwyd.
Roedd y bygythiad mwyaf i amddiffynwyr Boreham Wood yn yn dod i lawr yr asgell dde, gyda Ryan Barnett yn parhau gyda'i groesiadau peryglus i'r cwrt cosbi.
Fe aeth Wrecsam yn agos at ddyblu eu mantais wedi hanner awr, cic acrobataidd Paul Mullin o 12 llath yn hedfan heibio'r postyn.
Funud yn ddiweddarach fe ddylai Boreham Wood fod wedi sgorio, peniad rydd Ilesanmi o chwe llath heibio'r postyn.
Daeth cyfle da arall i Wrecsam wedi 34 munud. Andy Cannon yn cael rhyddid i redeg drwy ganol cae, pas wych i lwybr Mullin ac fe ergydiodd yn isel i ddwylo'r golwr.
Roedd Boreham Wood yn arafu llif y gêm a chefnogwyr Wrecsam yn dechrau mynd yn rhwysredig.
Daeth yr hanner cyntaf i ben gyda'r sgôr yn gyfartal mewn gêm hynod agored.
Wrth i'r ail hanner ddechrau roedd y cefnogwyr yn gweiddi enwau'r ddau berchennog ac roedd gobeithion y Dreigiau o ddyrchafiad yn fyw eto wedi 52 munud.
Fe wnaeth Paul Mullin dderbyn y bêl ar yr asgell chwith, yn torri i fewn i'r cwrt cosbi ac yn crymanu ergyd berffaith i gornel uchaf y rhwyd ac yn codi to'r Cae Ras.
Roedd Wrecsam nawr yn llwyr reoli'r gêm a'r hyder yn amlwg yn eu chwarae nhw.
Roedden nhw'n credu eu bod nhw wedi mynd ymhellach ar y blaen ond roedd Andy Cannon yn camsefyll.
Gyda 71 munud ar y cloc, roedd dyrchafiad Wrecsam yn anochel. Rhediad gwych arall gan Paul Mullin ac ergyd bwerus i gornel y rhwyd i sgorio gôl 47 iddo ef am y tymor.
Gyda Wrecsam 3-1 ar y blaen, fe ddaeth cadarnhad fod 10,162 o gefnogwyr yn bresennol a phob un erbyn hyn ar eu traed yn canu enw eu harwr, Paul Mullin.
Gyda 10 munud yn weddill daeth y glaw, prin iawn oedd y cyfleoedd i Boreham Wood gyda amddiffyn Wrecsam yn sefyll yn gadarn.
Daeth y chwiban olaf a'r dorf ar dân wrth iddyn nhw anelu am y cae i ddathlu gyda'r chwaraewyr.
Yn dilyn tymor campus, mae Wrecsam yn camu 'nôl i'r Gynghrair Bêl-droed.
Hir yw pob ymaros
Fe ddisgynnodd Wrecsam o Adran Dau yn 2008, yn sgil trafferthion ariannol yn y blynyddoedd cynt a thrafferthion gyda'u perchnogion.
Daeth y clwb dan berchnogaeth y cefnogwyr am gyfnod wedyn, cyn i'r sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney ei brynu yn 2020.
Werth i'r ail hanner ddechrau roedd y cefnogwyr yn gweiddi enwau'r ddau berchennog ac roedd gobeithion y dreigiau o ddyrchafiad yn fyw eto wedi 52 munud.
Paul Mullin yn derbyn y bel ar yr asgell chwith, yn torri i fewn i'r cwrt cosbi ac yn crymanu ergyd berffaith i gornel uchaf y rhwyd ac yn codi to'r Cae Ras.
Yn eu 15 tymor yn y Gynghrair Genedlaethol fe orffennon nhw yn safle'r gemau ail gyfle bum gwaith, gan golli unwaith yn y ffeinal i Gasnewydd yn 2013.
Ond gyda dim ond y pencampwyr yn cael dyrchafiad awtomatig, bu'n rhaid i Wrecsam frwydro nes y diwedd gyda Notts County'r tymor hwn, cyn sicrhau'r wobr honno gydag un gêm yn weddill.
Mae'r ddau glwb wedi bod benben â'i gilydd drwy'r tymor - y tro cyntaf yn hanes y gynghrair i ddau dîm gael dros 100 o bwyntiau a 100 o goliau yr un.
Daeth y fuddugoliaeth fwyaf dyngedfennol lai na phythefnos yn ôl, ar ddydd Llun y Pasg wrth i Wrecsam drechu Notts County o 3-2 ar y Cae Ras, gyda'u golwr Ben Foster yn arbed cic o'r smotyn yn yr eiliadau olaf i sicrhau'r tri phwynt.
Roedd buddugoliaeth arall nos Fawrth yn erbyn Yeovil yn golygu mai dim ond angen ennill un o'r ddwy gêm olaf oedd ei angen - a hynny wedi i dîm y merched eisoes sicrhau eu dyrchafiad hwythau i brif adran Cymru.
Mae'r ddinas eisoes wedi bod yn manteisio ar yr hwb sydd wedi dod iddyn nhw oddi ar y cae, yn dilyn y sylw ddaeth yn sgil y perchnogion enwog, a'r bwriad i ailddatblygu stadiwm y Cae Ras.
Nawr mae tîm y dynion wedi cyflawni eu nod mawr ar y cae - a'r dathlu mawr yn dechrau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2023