Ateb y Galw: Rachael Garside

  • Cyhoeddwyd
Rachael GarsideFfynhonnell y llun, Rachael Garside
Disgrifiad o’r llun,

Rachael Garside

Rachael Garside sydd yn Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Catrin Rowlands yr wythnos diwethaf.

Gweithiodd Rachael yn y cyfryngau am 30 mlynedd yn gohebu a chyflwyno rhaglenni fel Ffermio i S4C, rhaglenni o'r Sioe Frenhinol i'r BBC, rhaglen Country Focus a rhaglen Good Morning Wales i BBC Radio Wales a mwy.

Gadawodd ei swydd fel newyddiadurwraig gyda'r BBC yn 2022 er mwyn cael newid byd a phrynu tafarn Y Plough ym mhentre' Felingwm Uchaf yn Sir Gaerfyrddin gyda'i phartner, Joseph.

Cafodd ei geni a'i magu yng Nghaerdydd ond mae'n byw yn y gorllewin ers 20 mlynedd. Mae ganddi dri o feibion o'i chyn briodas, Ceri a'r efeilliaid Macsen a Mostyn.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mynd ar wylie i Sir Benfro yn dair oed a chael cysgu mewn bunk bed am y tro cynta - cyffrous iawn!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mae traeth Llansteffan a Llyn y Fan yn lefydd arbennig iawn - y ddau yn Sir Gâr. Dwi wedi teithio tipyn dros y byd - ar wylie a gyda gwaith - ond bydden i ddim ishe byw unrhyw le heblaw yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Rachael Garside
Disgrifiad o’r llun,

Traeth Llansteffan

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Anodd dewis un noson - unrhyw un ble dwi yng nghwmni hen ffrindiau yn bwyta, yfed a chwerthin nes bod ni'n dost! Roedd noson y Mileniwm 31.12.1999 yn eitha sbesial hefyd - bod yn y stadiwm yng Nghaerdydd i weld y Super Furries a'r Manics. Ac yfed gormod o Siampên!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Penderfynol, caredig, brwdfrydig.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sydd o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Tra'n ffilmio ym Mrwsel sawl blwyddyn yn ôl, dringo mewn i be' ro'n i'n meddwl oedd pwll nofio y gwesty ble ro'n ni'n aros a darganfod mai'r ornamental pond yn y dderbynfa oedd e!!! Methu deall pam odd y dŵr ddim ond yn cyrraedd fy mhenglinie'! Hollol mortified ar y pryd ond yn chwerthin pob tro fi'n meddwl amdano fe nawr.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Debbie Harry - ro'dd hi'n ddylanwad mawr arna'i pan yn tyfu i fyny - ro'n i'n dwlu ar ei hagwedd hi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Debbie Harry, prif leisydd Blondie

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Gormod o bethau ond fi ddim yn un i ddifaru unrhyw beth - bywyd yn rhy fyr!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Fi'n berson emosiynol ac yn crio yn aml pan dwi wedi blino gormod - nes i grio wythnos yma yn gwylio The Repair Shop!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Effaith bod yn berson brwdfrydig (gweler uchod) yw bod fi'n tueddu i dorri ar draws pobl eraill pan ma' nhw'n siarad - cas beth fy nheulu!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Llyfr - 'nath llyfr Barti Ddu gan T. Llew Jones greu argraff arna'i pan yn ifanc, ac yn fwy diweddar, unrhyw un o nofelau Manon Steffan Ros neu Maggie O'Farrell. Ffilm The Breakfast Club a phodlediad Shreds gan BBC Cymru - hollol wefreiddiol.

Disgrifiad o’r llun,

The Breakfast Club

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Ro'n i'n arfer bod yn aelod o dîm athletau Caerdydd - blynyddoedd maith yn ôl - ac yn cystadlu mewn rasus 100m a 200m. Nid fi oedd y cyflymaf o bell ffordd ond ro'n i'n mwynhau'r hyfforddi - gan gynnwys rhedeg i fyny'r twyni tywod yn Merthyr Mawr ger Penybont. Gwaith caled!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mynd i lan y môr gyda Joe a'r bechgyn a chael barbeciw ar y traeth.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Un o fy hoff lunie o'r bois - Ceri, Macsen a Mostyn - ar draeth Dinbych y Pysgod. Ges i dri o blant mewn 15 mis felly rodd hi'n amser heriol pan ro'n nhw'n fach ond gethon ni lot o sbort hefyd. Fi wedi teithio tramor tipyn gyda'r bechgyn ar ben fy hun ar ôl ysgaru, a fi mor falch nawr bod ni wedi cael y cyfle i wneud.

Ffynhonnell y llun, Rachael Garside
Disgrifiad o’r llun,

Plant Rachael - Ceri, Macsen a Mostyn

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Dwi ddim yn berfformwraig o gwbl, ond bydde fe'n eitha cŵl i ddarganfod be' mae'n teimlo fel i fod ar lwyfan gŵyl fel Glastonbury a gweld y dorf enfawr o mlaen i. Felly unrhyw un o'r headlinersyna!

Hefyd o ddiddordeb: