Ateb y Galw: Casia Wiliam

  • Cyhoeddwyd
Casia WiliamFfynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Casia Wiliam

Y bardd a'r awdures Casia Wiliam sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos yma ar ôl cael ei henwebu gan Chris Roberts.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Bod yn fy stafell wely gyda'r nos, wedi dringo allan o'r gwely ac yn sbecian heibio'r drws i weld pa hwyl oedd yn digwydd lawr grisia hebdda i. Dwi dal i gael FOMO dyddiau yma!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Anodd iawn ateb hwn, mae 'na gymaint o lefydd sy'n agos at y nghalon i, ond tasa raid i mi ddewis dim ond un, dwi'n meddwl mai traeth Nefyn fasa hwnnw.

Ffynhonnell y llun, Casia Wiliam
Disgrifiad o’r llun,

Chwilio am bysgod ar lan y môr yn Nefyn gyda'i mab, Deri

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mae llawer un wedi bod ond un noson syml ond sbesial sy'n aros yn y cof ydi swper gafon ni tra ar ein mis mêl yn Rhodes. Roedd hi'n dywyll ac yn gynnes, gawson ni'r corgimychiaid mwya' blasus dwi erioed wedi gael ac roedd Caio yn fabi yn eistedd yn hapus rhwng y ddau ohona ni. Mae'n siwr bod na ryw sterics a gair croes wedi bod y noson honno, ond dwi'm yn eu cofio nhw.

Ffynhonnell y llun, Casia Wiliam
Disgrifiad o’r llun,

Y mis mêl yn Rhodes

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Prysur. Creadigol. Positif.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Parti gwisg ffansi Calan Gaeaf gawson ni yng Nghaerdydd pan o'n i'n byw efo fy chwaer a dwy ffrind flynyddoedd yn ôl. Gymaint o hwyl, gymaint o lanast. Mi wnaeth rhywun daflu fyny mewn pwmpen.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Wff lle dwi'n dechra?! Troi cyri dros fy hun ar ddêt, cerdded mewn ac eistedd yn fan rhyw ddyn yn meddwl mai fan oeddwn i wedi ei llogi oedd hi, dawnsio efo boi yn Sesiwn Fawr a ffrind yn dweud wrthai wedyn mod i wedi eistedd ar chips a bod gen i sos coch dros fy mhen-ôl...

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Y noson o'r blaen wrth wylio pennod o gyfres This Is Us. Dwi'n crio yn aml; mae'r dagrau yn dod yn rhwydd ers cael plant.

Ffynhonnell y llun, Casia Wiliam
Disgrifiad o’r llun,

Casia, Tom a'u dau o blant - Caio a Deri

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Bwyta Nutella allan o'r jar efo llwy (ar ôl dweud y drefn wrth y plant am wneud...)

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu albym a pham?

Albwm o'r enw Carrie & Lowell gan Sufjan Stevens. Ges i hi'n bresant pen-blwydd gan fy mrawd a nes i ddechrau gwrando arni yn y car yn ystod y cyfnod pan oeddwn i'n fardd plant ac felly'n teithio ar hyd a lled y wlad am oriau a dyddiau bwy'i gilydd.

Mae hi'n albwm llawn emosiwn, a dwi'n clywed pethau gwahanol ynddi ar wahanol adegau yn dibynnu ar sut dwi'n teimlo.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Nain Fron Ola, Taid Tŷ'r Ysgol a Taid Tacho. Mi faswn i wrth fy modd yn eu cael nhw i gyd yn ôl a chael sgwrsio efo nhw fel oedolyn a chael clywed eu holl hanes nhw.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Gradd mewn Saesneg sydd gen i. Mae pobl yn synnu wrth glywed hynna. Dwi'n cofio pan nes i ddweud wrth rywun yn y chweched mod i am fynd i Aberystwyth i astudio Saesneg eu hymateb oedd, "be, ti'n gallu siarad Saesneg?!"

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mynd i draeth Aberporth efo teulu a ffrindiau. Nofio yn y môr, bwyta chips a sos coch, adeiladu cestyll tywod a mwynhau glasiad o Malbec gyda'r machlud.

Ffynhonnell y llun, Traeth Aberporth
Disgrifiad o’r llun,

Traeth Aberporth

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Dyma lun o Tom, Caio, Deri (yn fabi) a fi y diwrnod wnaetho ni symud mewn i'n tŷ yng Nghaernarfon. Roedd y flwyddyn cyn hyn wedi bod reit heriol rhwng symud i fyny o Gaerdydd, pandemic rhyngwladol, cael babi a thrio adnewyddu hen dŷ! Mae'r llun yma yn gwneud i fi chwerthin gan bod Tom a finnau yn edrach mor flêr a nacyrd, ond dwi'n gwybod rwan hefyd fod o'n ddechrau ar gyfnod hapus iawn a llawer haws!

Ffynhonnell y llun, Casia Wiliam
Disgrifiad o’r llun,

Casia, Tom, Caio a Deri

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Rishi Sunak, er mwyn newid ei bolisïau i gyd. Neu Jangl, mae bywyd yn edrych mor braf a syml ym Myd Cyw.

Hefyd o ddiddordeb: