Gwerthu tŷ ym Machynlleth am £100,000 yn is na'i werth
- Cyhoeddwyd
Wedi'i leoli yng nghefn gwlad Cymru, gyda thir, coedwig a nant fechan yn rhedeg drwyddi, gallai Tony Corden fod wedi gwerthu ei dŷ am hyd at £340,000.
Ond yn ddiweddar fe werthodd y tŷ am £240,000, gan wybod y byddai'n cymryd ergyd ariannol.
Roedd yn ymwybodol y gallai ei dŷ ym Machynlleth ddod yn ail gartref "moethus" petai'n mynd i'r person fyddai'n cynnig y swm mwyaf - felly penderfynodd werthu'r tŷ i'w denantiaid.
"Dywedodd llawer o bobl fy mod i'n wirion," meddai Mr Corden, 62.
Dywedodd y nyrs seiciatryddol, sydd nawr yn byw yn Sbaen: "Dydw i ddim yn meddwl bod hi'n dda mynd am y pris mwyaf bob tro.
"Mae pethau pwysicach mewn bywyd na gwneud gymaint o arian ag sy'n bosib."
Fe brynodd Mr Corden y tŷ ar ddechrau'r ganrif ar ôl byw yno fel tenant am sawl blwyddyn.
Ei weledigaeth gyntaf oedd defnyddio'r tŷ fel hwb i gerddoriaeth a digwyddiadau diwylliannol, yn cynnwys yr ŵyl gerddoriaeth Latin America, El Sueño Existe, a ffurfiodd yn y tŷ yn 2002.
Pan benderfynodd werthu a symud dramor roedd Mr Corden eisiau i naws y tŷ barhau, hyd yn oed os oedd hynny'n golygu clec ariannol iddo.
"Roedd tenantiaid hyfryd gyda fi oedd wedi setlo yna," meddai. "Roedden nhw'n hoff o'r syniad o ffurfio cartref cydweithredol.
"Felly nes i feddwl, gawn ni weld pa mor bell all hwn fynd."
Wedi iddo gynnig Bryn Tyrnol am bris gostyngedig, roedd modd i'w denantiaid ei brynu fel cartref cydweithredol.
Roedd hyn yn galluogi rhanberchenogaeth a rheolaeth o'r tŷ na fuasen nhw wedi gallu fforddio yn unigol.
Fe wnaeth sefydliad cydweithredol Cwmpas helpu'r tenantiaid i greu cynllun ariannol a helpu denu buddsoddwyr, cyn cytuno ar forgais o 40 mlynedd.
Ailsa Hughes yw un o'r tenantiaid, ac mae hi'n gerddor a storïwr oedd unwaith yn un o aelodau gwreiddiol menter gydweithredol Tir Cyffredin.
"Dydy fy incwm ddim yn uchel a dydw i byth wedi disgwyl iddo fod, oherwydd dydy arian ddim yn flaenoriaeth i mi chwaith," meddai.
"Dwi eisiau gwneud gwaith calonogol, dwi'n teimlo dylwn i fod yn gwneud. Rwy'n hapus iawn fy mod i wedi gallu sicrhau cartref wrth wneud y gwaith dwi'n ei garu."
Ond roedd un amod yng ngwerthiant Bryn Tyrnol.
Am ychydig ddiwrnodau bob haf, mae'r preswylwyr wedi cytuno i adael y tŷ er mwyn i Mr Corden allu parhau i'w ddefnyddio fel hwb ar gyfer gŵyl El Sueño Existe.
Ymunodd Joanna Blyden â'r fenter gydweithredol yn 2021, ac roedd rhaid iddi adael ei ystafell am bedwar diwrnod yn ystod yr ŵyl llynedd.
"Rwy'n caru gwyliau a dwi'n caru gwersylla felly brynes i docyn," meddai.
"Fe gwrddais i â'r teulu o Chile oedd yn aros yn fy ystafell. Roedden nhw'n hyfryd a diolchon nhw i fi am adael nhw aros."
Gallwch wylio Wales Live ar BBC One Wales ddydd Mercher am 22:40 BST, ac ar iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2023
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2023