Cyngor Sir Gâr i godi treth ail gartrefi am y tro cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Cyngor Sir GârFfynhonnell y llun, Philip Halling / Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Tan nawr roedd yr awdurdod - sy'n cael ei redeg gan glymblaid Plaid Cymru ac annibynnol - wedi dal yn ôl rhag gosod premiwm

Am y tro cyntaf bydd perchnogion tai gwag ac ail gartrefi yn Sir Gaerfyrddin yn gorfod talu premiwm treth cyngor ar eu heiddo.

Mewn cyfarfod ddydd Mercher fe wnaeth cynghorwyr bleidleisio i gyflwyno premiwm o 50% ar ail gartrefi.

Bydd y mesurau newydd yn dod i rym o Ebrill 2024, gyda'r bwriad o'i gynyddu i 100% o Ebrill 2025 ymlaen.

Tan nawr roedd yr awdurdod - sy'n cael ei redeg gan glymblaid Plaid Cymru ac annibynnol - wedi dal yn ôl rhag gosod premiwm treth gyngor.

Roedd hyn er gwaethaf pryderon am effaith ail gartrefi ar argaeledd a fforddiadwyedd eiddo mewn rhannau o'r sir.

Bydd y mesurau newydd hefyd yn effeithio ar berchnogion tai gwag, gyda 50% o bremiwm ar gyfer eiddo sy'n wag dros 12 mis ond llai na dwy flynedd, 100% ar eiddo sy'n wag am gyfnod rhwng dwy a phum mlynedd, a 200% ar eiddo sydd wedi bod yn wag am dros bum mlynedd.

'Gwagio pentrefi arfordirol a gwledig'

Mae cynghorau yng Nghymru â'r hawl i godi premiwm ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor ers tro, a bellach gellir cyflwyno premiwm o hyd at 300%.

Ers hynny mae nifer o gynghorau wedi cyflwyno premiwm o'r fath, neu gyhoeddi cynlluniau i wneud, gan gynnwys Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Powys, Sir Benfro ac Abertawe.

Er nad oes rhaid iddyn nhw glustnodi'r incwm o hynny at bwrpas penodol, mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn annog cynghorau i'w ddefnyddio i helpu taclo anghenion tai lleol, ac i wella faint o dai fforddiadwy sydd ar gael.

LlandeiloFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Mae hwn yn ymyriad cymedrol iawn i geisio amddiffyn ein cymunedau a mynd i'r afael â gwagio pentrefi mewn ardaloedd arfordirol a gwledig"

Roedd adroddiad i'r cabinet wedi adrodd fod gan y sir tua 1,060 o ail gartrefi, ond mai dim ond 860 ohonyn nhw, am wahanol resymau, oedd yn debygol o fod yn gymwys ar gyfer y premiwm treth cyngor.

Yn ôl yr adroddiad byddai'r incwm ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i helpu i gwrdd ag anghenion tai yn lleol, neu ar gyfer gwasanaethau eraill y cyngor yn gyffredinol.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, deilydd y portffolio Adnoddau: "Fi'n credu fod e'n gynnig rhesymol a gofalus ac mae blwyddyn gyda ni i ymgynghori a thrafod ymhellach.

"Rwy'n gobeithio fod hynny o gysur i unrhyw aelod sy'n bryderus ein bod yn rhuthro mewn i'r broses yma mewn unrhyw ffordd.

"Ond mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r broblem o dai gwag ac ail gartrefi... byddai'r ddeddf yn caniatáu i ni godi premiwm o 300%, ond rydym yn mynd ati yn rhesymol a gofalus ac yn dechrau ar y gwaelod fel petai."

Alun Lenny
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Cynghorydd Alun Lenny yn siarad o blaid y cynnig

Ychwanegodd: "Mae'r mater o ail gartrefi yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol ac economaidd, sydd wedi'i gydnabod gan Lywodraeth Cymru.

"Nid yw'n groesgad ideolegol mewn unrhyw ffordd, oni bai eich bod yn credu y dylid caniatáu i rymoedd y farchnad yn unig ddinistrio llawer o gymunedau Sir Gaerfyrddin.

"Gan ddefnyddio'r offer a roddwyd i ni, mae hwn yn ymyriad cymedrol iawn i geisio amddiffyn ein cymunedau a mynd i'r afael â gwagio pentrefi mewn ardaloedd arfordirol a gwledig."

'Rheoleiddio'r farchnad dai'

Ond yn ôl rhai ymgyrchwyr iaith dyw'r mesurau ddim yn mynd yn ddigon pell.

Dywedodd Ffred Ffransis ar ran rhanbarth Sir Gâr Cymdeithas yr Iaith: "Rydyn ni'n siomedig nad yw'r cyngor wedi defnyddio'r grymoedd i fynd i'r afael â gormodedd llety gwyliau yn llawn, ond mae problemau tai y sir yn ddyfnach na thai gwyliau ac ail dai yn unig.

Ffred Ffransis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffred Ffransis am i'r cyngor fynd ymhellach

"Mae tai yn cael eu trin ar y farchnad agored fel asedau masnachol yn hytrach na chartrefi, gan roi pobl ar gyflog lleol dan anfantais.

"Rydyn ni'n gobeithio felly y bydd Cyngor Sir Gâr yn ymuno â'r alwad am ddeddf eiddo i reoleiddio'r farchnad dai a blaenoriaethu pobl leol."

Pynciau cysylltiedig