Addewid i drwsio cloc eiconig 'mor fuan â phosib'

  • Cyhoeddwyd
Canol Machynlleth
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cloc yn dirnod nodedig i unrhyw un sy'n teithio trwy'r dref

Mae Cyngor Tref Machynlleth wedi ymrwymo i drwsio cloc eiconig y dref fel ei fod yn gweithio eto ganrif a hanner ers yr achlysur a arweiniodd at ei adeiladu yn y lle cyntaf.

Ers i fysedd y cloc stopio troi yn 2020 mae wyneb y cloc yn dweud ei bod hi'n 09:01. Fel y dywedodd un person lleol, mae'n iawn am ddwy funud bob dydd!

Er mwyn cael y cloc i weithio eto bydd angen gwario oddeutu £40,000 - ond mae Cyngor y Dref wedi dweud y bydd yn ceisio am arian grant i ychwanegu at ran o'i gyllideb sydd wedi'i neilltuo ar gyfer ei drwsio.

Mae'r cloc yn dirnod amlwg 24m o uchder yng nghanol y dref wrth y gyffordd lle mae'r A489 a'r A487 yn cwrdd.

Disgrifiad o’r llun,

Plac ar y cloc yn nodi'r rheswm dros ei godi ganrif a hanner yn ôl

Ysgrifennodd y diweddar hanesydd lleol, David Wyn Davies am y cloc yn ei lyfr 'Machynlleth Town Trail'.

Mae'n disgrifio sut yr oedd pobl leol wedi cyfrannu arian er mwyn adeiladu'r cloc i ddathlu pen-blwydd mab hynaf pumed Marcwis Londonderry, oedd yn byw ym Mhlas Machynlleth.

Fe drodd Charles Stewart Vane-Tempest yn 21 oed ym mis Gorffennaf 1873 - ond, yn ôl llyfr David Wyn Davies, oherwydd profedigaeth yn y teulu bu'n rhaid gohirio'r dathlu am flwyddyn, felly fe osodwyd cerrig sylfaen y cloc ym mis Gorffennaf 1874.

Eleni mae'n 150 o flynyddoedd ers y pen-blwydd, a'r flwyddyn nesaf yn ganrif a hanner ers codi'r cloc.

Disgrifiad o’r llun,

Plas Machynlleth oedd cartref Marcwis Londonderry

'Roedd Covid yn rhwystr'

Mae'n fwriad, medd Dewi Jones, clerc Cyngor Tref Machynlleth, i drwsio'r cloc cyn gynted ag y bo modd.

"Mae'n gyd-ddigwyddiad mewn ffordd bod hi'n 150 o flynyddoedd ers adeiladu'r cloc," dywedodd.

"Dyw e ddim wedi bod yn gweithio'n iawn ers rhyw dair blynedd bellach. Mae'r cyngor wedi bod yn gwneud ymdrechion i'w drwsio ond roedd Covid yn rhwystr, ac wedi atal pobl rhag gweithio ar y cloc.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith trwsio i'r cloc yn arbenigol iawn, medd clerc y cyngor tref, Dewi Jones

"Mae angen gwaith strwythurol tu fewn i'r cloc i wneud hi'n saff i bobl weithio ac wrth gwrs mae'n waith arbenigol iawn i weithio ar gloc hynafol fel hwn.

"Ni'n ymchwilio mewn i ffynonellau grant ac ry'n ni wedi rhoi arian i un ochr fel cyngor tref ar gyfer y gwaith hefyd.

"Ym mis Gorffennaf mae'r ganrif a hanner, a'r bwriad ydy gwneud y gwaith mor fuan â phosib.

"Byddwn ni'n disgwyl bod dechrau ar y gwaith eleni, ond yn sicr mor fuan ag y mae'r arbenigwyr ar gael."

Mae'r hen gloc wedi bod yn y newyddion sawl tro dros y degawdau.

Ar un adeg, pan roedd e'n gweithio, cafwyd cwynion gan berchnogion gwestai yng nghanol y dref bod pobl oedd yn aros gyda nhw yn cael eu deffro yn y nos wrth i gloch y cloc ganu bob chwarter awr.

Mae'n bosib y bydd y gloch yn rhywbeth a ddaw yn sŵn cyfarwydd eto ym Machynlleth os bydd cynllun cyngor y dref i drwsio'r cloc yn cael ei wireddu.

Pynciau cysylltiedig