Dyn o Aberbargod yn euog o lofruddio ei bartner bregus

  • Cyhoeddwyd
Adell Cowan
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth ymchwiliadau meddygol ddarganfod bod Adell Cowan wedi dioddef anafiadau mewnol difrifol

Fe allai cynnwys yr erthygl yma beri gofid i rai.

Mae dyn a achosodd anafiadau mewnol difrifol i'w gariad bregus wedi cael ei ganfod yn euog o'i llofruddio.

Roedd Carl Silcox, 45, yn honni ei fod wedi canfod Adell Cowen, 43, yn farw yn eu gwely.

Ond fe ddangosodd prawf post mortem nad oedd "unrhyw eglurhad naturiol" am ei marwolaeth.

Cafodd corff Ms Cowen ei ganfod mewn tŷ yn Aberbargod, Sir Caerffili, yn oriau mân y bore ar 18 Hydref 2020.

Bydd Silcox, sydd hefyd o'r dref, yn cael ei ddedfrydu ar 7 Gorffennaf.

Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad ar Ddol Yr Eos yn Aberbargod wedi i Silcox ffonio 999 o flwch ffôn.

Fe gafodd Ms Cowen ei chanfod yn farw yn y fan a'r lle.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y barnwr rybuddio Carl Silcox ei fod yn wynebu dedfryd oes yn y carchar

Roedd ganddi anafiadau gweledol i'w phen a'i hwyneb, ac fe wnaeth yr heddlu ganfod gwaed ar ei dillad a'r dillad gwely.

Wedi ymchwiliadau meddygol daeth i'r amlwg ei bod wedi dioddef anafiadau mewnol difrifol i'w rectwm, dueg (spleen) - a'r cyhyrau abdomenol.

Roedd y rhain, meddai'r erlyniad, o ganlyniad i niwed gyda pholyn brwsh.

Clywodd y llys fod Ms Cowen yn fregus yn feddyliol a chorfforol oherwydd problemau gydag alcohol.

Roedd Silcox wedi gwadu achosi'r anafiadau, gan ddweud na fyddai fyth yn niweidio ei bartner.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa tan ei ddedfrydu, gyda'r Barnwr Tracey Lloyd-Clarke yn rhybuddio ei fod yn wynebu dedfryd oes yn y carchar.

Pynciau cysylltiedig