Trelái: 'Y beic yn anrheg pen-blwydd'

  • Cyhoeddwyd
Roedd Harvey yn gegog ond yn gariadus hefyd, medd ei fodryb a'i fam-gu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Harvey yn gegog ond yn gariadus hefyd, medd ei fodryb a'i fam-gu

Dywed teulu Harvey Evans, un o'r bechgyn a fu farw yn Nhrelái, ddechrau'r wythnos bod y sgwter trydan a oedd yn cael ei ddefnyddio ganddo ef a'i ffrind yn anrheg pen-blwydd 16 cynnar.

Yn ôl modryb Harvey Evans, 15, roedd e wrth ei fodd gyda beiciau a sgwteri trydan ac roedd e wedi cael yr anrheg cyn ei ben-blwydd fis nesaf.

Bu farw Harvey a'i ffrind, Kyrees Sullivan, 16, nos Lun ac yn fuan wedi'r gwrthdrawiad roedd yna anhrefn yn yr ardal wrth i geir gael eu rhoi ar dân ac i blismyn gael eu hanafu.

Nos Wener fe ddaeth teulu a ffrindiau y ddau, ynghyd â'r gymuned ehangach yn Nhrelái, i wylnos i gofio am y ddau.

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Harvey Evans, yn 15, a Kyrees Sullivan, yn 16

Gan siarad am y tro cyntaf ers y gwrthdrawiad, dywedodd modryb Harvey, Hayley Murphy yn ystod yr wylnos: "Mae'n anodd credu ein bod yma i gofio am Harvey a Kyrees.

"Ein teulu ni, ac nid teulu neb arall, sy'n ymddangos mewn adroddiadau ar y teledu - dyw'r peth ddim yn real rywsut ac ry'n ni methu dirnad yr hyn sydd wedi digwydd."

Dywedodd mam-gu Harvey, Dawn Rees, bod Harvey a Kyrees yn "gwneud popeth gyda'i gilydd, roedden nhw fel dau frawd ac yn caru ei gilydd".

Bu farw'r ddau ffrind mewn gwrthdrawiad tra ar eu beic trydan ychydig wedi 18:00 nos Lun.

Mae'r heddlu wedi dweud mai dim ond y beic oedd yn gysylltiedig â'r digwyddiad.

Ychwanegodd Ms Murphy bod Harvey wrth ei fodd gyda beiciau a'i fod e'n seiclwr profiadol.

"Roedd ei dad yn arfer mynd ag ef i reidio i'r mynyddoedd bob wythnos ers pan oedd yn dair oed."

Bu hefyd yn disgrifio sut y dechreuodd yr anhrefn wedi'r gwrthdrawiad gan ddweud bod hi a'i chwaer, sef mam Harvey, yn erfyn ar blismyn am dros ddwy awr i roi gwybod iddyn nhw a oedd y bechgyn yn fyw .

"Roedden ni'n sefyll wrth rwystr (barrier) ac yn erfyn arnyn nhw, erfyn arnyn nhw i ddweud wrthon ni a oedden nhw'n fyw neu'n farw a doedden nhw ddim yn fodlon dweud wrthon ni - ac yna fe wnaeth rywun redeg at y dorf gan ddweud bod ganddo fideo o blismyn yn eu herlid a dyna pryd ddigwyddodd y cyfan.

"Yn ôl be dwi'n ddeall dyna pam aeth pawb yn flin - am ein bod methu cael atebion."

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer wedi gadael blodau er cof am y ddau fachgen

Mae rhai trigolion lleol wedi dweud bod y bechgyn yn cael eu herlid gan Heddlu De Cymru - honiad y mae'r heddlu yn ei wadu.

Ganol yr wythnos fe wnaeth Heddlu'r De gydnabod eu bod wedi bod yn dilyn y ddau fachgen am gyfnod cyn y gwrthdrawiad ond eu bod yn teithio ar ffordd wahanol erbyn i'r gwrthdrawiad ddigwydd.

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn cynnal ymchwiliad i "unrhyw ryngweithiad" rhwng Heddlu De Cymru a'r ddau fachgen cyn y gwrthdrawiad.

Disgrifiad,

17:59 - Fideo CCTV yn dangos fan heddlu'n dilyn dau berson ar sgwter neu feic

Wedi'r gwrthdrawiad roedd yna anhrefn yn Nhrelái wrth i ddegau o bobl daflu tân gwyllt a phethau eraill at yr heddlu - cafodd ceir eu rhoi ar dân ac eiddo ei ddifrodi.

Hyd yma mae naw o bobl wedi cael eu harestio wedi i'r heddlu edrych ar luniau o gamerâu oedd yn cael eu gwisgo gan blismyn.

Dywed ditectifs bod disgwyl i ragor o bobl gael eu harestio.

Ychwanegodd Ms Murphy nad oedd ganddi ffydd nag ymddiriedaeth yn yr heddlu.

"Mae gen i ffydd ac ymddiriedaeth yn fy nheulu ac yn y gymuned yma - ac fe wnawn ni barhau i ymladd i gael y gwirionedd a chyfiawnder i'r bechgyn yma," ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig