Trelái: Naw person bellach wedi eu harestio yn dilyn anhrefn
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau bod naw person bellach wedi eu harestio yn dilyn anhrefn yn ardal Trelái, Caerdydd nos Lun.
Daeth y cythrwfl yn dilyn marwolaeth dau fachgen, Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, yn dilyn gwrthdrawiad ar Ffordd Snowden toc wedi 18:00 y noson honno.
Fe arweiniodd y digwyddiad hwnnw at anhrefn yn yr ardal, gydag anafiadau i swyddogion yr heddlu.
Mae'r digwyddiad hefyd wedi codi cwestiynau ynghylch rôl yr heddlu'r noson honno, gyda fideos CCTV yn dangos cerbyd heddlu'n dilyn y ddau fachgen, oedd ar feic trydan, ychydig cyn y gwrthdrawiad.
Apelio am wybodaeth
Dywedodd Heddlu'r De eu bod wedi arestio pedwar person ar y noson - dau fachgen 15 oed o Drelái a Llanrhymni, merch 16 oed o'r Rhath, a bachgen 16 oed o Drelái.
Ddydd Iau cafodd pum person arall eu harestio ar amheuaeth o reiat - dau fachgen 16 ac 17 oed yn Nhrelái, dau ddyn 18 a 29 oed yn Nhrelái, ac un dyn 21 oed yn Nhremorfa.
Mewn datganiad dywedodd yr heddlu bod sawl cerbyd wedi cael eu llosgi, difrod wedi'i wneud i dai, a swyddogion wedi'u hanafu yn yr anhrefn.
Ychwanegon nhw eu bod nhw'n disgwyl arestio rhagor o bobl, a'u bod yn parhau i edrych drwy'r dystiolaeth o gamerâu corff ei swyddogion, yn ogystal â delweddau CCTV a fideos ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Rydym yn parhau i apelio am dystion, gwybodaeth a lluniau ffonau symudol, CCTV a'r cyfryngau cymdeithasol," meddai'r llu.
"Rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth gan y gymuned hyd yma, ac yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu gyda ni."
Dywedodd Cyngor Caerdydd fod 14 aelod o staff a 10 cerbyd wedi bod yn rhan o'r gwaith glanhau ddydd Mawrth wedi'r anhrefn y noson gynt.
Cafodd tri o gerbydau eu llosgi, ac maen nhw wedi amcangyfrif mai £19,500 fydd y gost o drwsio'r ffordd a'r palmant.
Fe gafodd golau stryd hefyd ei losgi, ac maen nhw'n amcangyfrif y bydd yn costio £2,000-3,000 i drwsio hwnnw.
Nos Lun, 22 Mai: Amserlen mewn fideos
Herio atebion yr heddlu
Yn y cyfamser mae Heddlu'r De eisoes wedi cyfeirio'u hunain at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC), fydd yn cynnal ymchwiliad annibynnol i amgylchiadau'r gwrthdrawiad ble bu'r bechgyn farw.
Maen nhw bellach wedi cydnabod eu bod wedi bod yn dilyn y ddau fachgen am gyfnod cyn y gwrthdrawiad.
Brynhawn Mercher roedd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu'r De wedi dweud fod cerbyd yr heddlu ar Grand Avenue, hanner milltir i ffwrdd, ar adeg y gwrthdrawiad am 18:02.
Yn siarad mewn cynhadledd i'r wasg, ychwanegodd Rachel Bacon nad oedd unrhyw gerbydau eraill yn rhan o'r digwyddiad.
Ond fe wrthododd ateb gwestiwn gan newyddiadurwr a ofynnodd pam roedd yr heddlu'n dilyn y ddau lanc yn gynharach.
Mae'r heddlu bellach wedi cyfaddef eu bod wedi dilyn y bechgyn am gyfnod, a hynny ar ôl i Gomisiynydd Heddlu De Cymru wadu bod unrhyw gyswllt rhwng y bechgyn a'r heddlu cyn y digwyddiad.
Gan gyfeirio at linell amser o'r digwyddiadau, dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Bacon fod y gwrthdrawiad wedi digwydd hanner milltir i ffwrdd o unrhyw gerbyd heddlu.
"Doedd dim cerbyd heddlu ar Ffordd Snowden ar adeg y gwrthdrawiad ac nid ydym yn credu fod unrhyw gerbydau eraill yn rhan o'r digwyddiad," meddai.
"Rwyf eisiau bod mor dryloyw ac agored ag y gallaf gyda chymunedau Trelái fel eu bod yn deall beth sydd wedi digwydd."
Ddydd Gwener bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cynnal cyfarfod i drafod y sefyllfa gyda chynrychiolwyr y gymuned yn Nhrelái, gan gynnwys grwpiau cymunedaol, y Comisiynydd Heddlu Alun Michael, a gwleidyddion lleol eraill.
'Plant yn gwneud pethau plant'
Dechreuodd JM, rapiwr o Drelái greu cerddoriaeth gyda'i gynhyrchydd Karl Lovell y llynedd, ar ôl dechrau mynd i glwb ieuenctid yn yr ardal.
Mae JM yn credu bod dechrau creu cerddoriaeth wedi newid ei fywyd, a bod cyfansoddi wedi bod yn ddull ymdopi pan mae "unrhyw beth drwg yn digwydd i mi yn fy mywyd".
"I blentyn fel fi, sy'n byw yma, am yr 17 mlynedd diwethaf, mae'n ofnadwy. Mae byw yn Nhrelái yn cael enw drwg," meddai JM.
"Dim ond plant ydyn ni, yn gwneud pethau mae plant yn gwneud, a dyna'r realiti."
Mae canolfannau fel Clwb Ieuenctid Gogledd Trelai yn hwb sydd yn helpu llawer o blant.
"Blwyddyn yn ôl, roeddwn i'n gwneud pethau drwg. Falle roeddwn i'n gwneud drwg yn trio gwneud pethau da, fel pobl eraill yn eu harddegau," meddal JM.
Ategodd Karl: "Does neb eisiau gwneud e [pethau drwg]... falle bydd 1-2% eisiau. Ond mae'r rhan fwyaf yn gwneud [pethau drwg] oherwydd bod dim opsiwn arall."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mai 2023
- Cyhoeddwyd24 Mai 2023
- Cyhoeddwyd25 Mai 2023
- Cyhoeddwyd24 Mai 2023
- Cyhoeddwyd24 Mai 2023