Trelái: Cannoedd o bobl mewn gwylnos i gofio dau fachgen

  • Cyhoeddwyd
Gwylnos
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd tân gwyllt a ffaglau glas eu tanio a chafodd balŵns eu gollwng i'r awyr yn ardal Trelái

Mae gwylnos wedi ei chynnal er cof am ddau fachgen yn eu harddegau a gafodd eu lladd mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd.

Sbardunodd marwolaethau Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, derfysg yn ardal Trelái y brifddinas nos Lun.

Ond mae amgylchiadau'r gwrthdrawiad yn parhau i fod yn aneglur.

Roedd tua 1,000 o bobl wedi dod at ei gilydd ar Ffordd Snowden nos Wener.

Yn unol â chais y teulu, fe ollyngwyd balŵns, tân gwyllt a ffaglau glas.

Roedd y teulu wedi gofyn i bobl am wylnos heddychlon yn dilyn y golygfeydd treisgar ddechrau'r wythnos.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua 400 o bobl mewn gwylnos yn Nhrelái nos Wener

Dywedodd John O'Driscoll, hen-ewythr Harvey Evans fod terfysg "ddim yn iawn" ond roedd wedi deillio o "rwystredigaeth".

Ychwanegodd: "Dim ond bechgyn ifanc oedden nhw. Mae pawb yn reidio beiciau a sgwteri o gwmpas y ffordd hyn.

"Ie mae pobl yn diflasu arnyn nhw, ond dyna maen nhw'n ei wneud.

"Ond cyn gynted a gwelodd y plismon doedd ganddyn nhw ddim helmed, fe ddylen nhw fod wedi stopio."

Yn dilyn y digwyddiad, yn fuan wedi 18:00 nos Lun, roedd yna oriau o anhrefn yn yr ardal, gydag 15 o swyddogion heddlu'n cael eu hanafu.

Mae naw person bellach wedi cael eu harestio.

Yn gynharach bu'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cyfarfod ag arweinwyr y gymuned.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai nod y cyfarfod ddydd Gwener oedd trafod cefnogaeth i'r gymuned.

Yn dilyn marwolaeth y ddau fachgen roedd yna honiadau ar gyfryngau cymdeithasol bod fan yr heddlu wedi bod yn dilyn y ddau funudau cyn y gwrthdrawiad.

Fe wnaeth lluniau teledu cylch cyfyng ddangos yn ddiweddarach bod plismyn yn dilyn y ddau ar Ffordd Frank gerllaw.

Ffynhonnell y llun, MATTHEW HORWOOD
Disgrifiad o’r llun,

Bu Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu'r De, Rachel Bacon yn siarad mewn cynhadledd i'r wasg brynhawn Mercher

Yn ddiweddarach fe wnaeth Heddlu'r De gydnabod eu bod wedi bod yn dilyn y ddau fachgen am gyfnod cyn y gwrthdrawiad.

Ond mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Rachel Bacon bod yr heddlu yn teithio ar ffordd wahanol erbyn i'r gwrthdrawiad ddigwydd.

Gwrthododd wneud sylw ynghylch pam fod yr heddlu yn dilyn y dau fachgen, gan gadarnhau bod ymchwiliad yn cael ei gynnal gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Harvey Evans, yn 15, a Kyrees Sullivan, yn 16

Gan ymateb i'r digwyddiadau bu Mr Drakeford, ynghyd â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, yn cadeirio cyfarfod rhwng gwleidyddion lleol, asiantaethau a grwpiau cymunedol.

Roedd disgwyl i AS Gorllewin Caerdydd, Kevin Brennan, Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Alun Michael ac arweinydd y cyngor, Huw Thomas, fod yn bresennol.

'Ymateb i anghenion trigolion'

Dywedodd Mr Drakeford wedi'r cyfarfod: "Yr wythnos hon, mae dau deulu yn galaru am eu meibion ac mae pobl Trelái wedi dioddef trawma.

"Rwy'n meddwl am deuluoedd a ffrindiau Harvey a Kyrees.

"Fe wnaeth cynrychiolwyr o'r gymuned leol ac asiantaethau cyhoeddus, gan gynnwys corff Gweithredu yng Nghaerau a Threlái, Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd, gwrdd heddiw yn Nhrelái.

"Ry'n ni wedi cytuno ar y cyd i noddi menter llawr gwlad er mwyn creu cynllun cymunedol ar gyfer Trelái, er mwyn ymateb i anghenion tymor hir trigolion."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn hwyrach nos Wener mae disgwyl i wylnos a digwyddiad gollwng balŵn gael eu cynnal fel teyrnged i'r bechgyn.

Mewn neges ar Facebook dywedodd ffrind i'r teuluoedd: "'Dyn ni'n ymwybodol bod yna lawer o densiwn ar hyn o bryd. Ond ry'n ni'n gofyn i bobl [nos Wener] ffrwyno eu dicter wrth i'r balŵn gael ei ryddhau."

Dywedodd yr heddlu eu bod yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad a'r anhrefn wedi hynny.

Yr IOPC yn apelio am dystion

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn cynnal ymchwiliad i "unrhyw ryngweithiad" rhwng Heddlu De Cymru a'r ddau fachgen cyn y gwrthdrawiad.

Maen nhw wedi apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â nhw, gan bwysleisio eu bod nhw'n ddiduedd ac yn annibynnol o lu Heddlu De Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Teyrnged yn Nhrelái

Dywedodd llefarydd eu bod wedi holi pobl o dŷ i dŷ er mwyn casglu gwybodaeth gan drigolion lleol, ac wedi bod yn casglu fideos camerâu cylch cyfyng yn yr ardal hefyd.

Ychwanegodd cyfarwyddwr yr IOPC, David Ford ei fod yn "hynod werthfawrogol o'r cymorth a'r cydweithrediad ry'n ni wedi'i dderbyn gan bobl o'r gymuned leol".

"Byddwn yn croesawu unrhyw un sydd heb siarad â ni hyd yma, sy'n credu bod ganddyn nhw fideo neu wedi gweld unrhyw beth perthnasol rhwng 17:35 a 18:10 ddydd Llun, i ddod ymlaen aton ni," meddai.