Modryb un o'r rhai fu farw yn Nhrelái yn beio'r heddlu

  • Cyhoeddwyd
Hayley Murphy,
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Hayley Murphy bod teulu Harvey yn benderfynol o gael cyfiawnder

Mae modryb un o'r ddau fachgen a gafodd eu lladd mewn gwrthdrawiad yn Nhrelái ddechrau'r wythnos yn dweud ei bod hi'n credu mai'r heddlu sydd ar fai am eu marwolaethau.

Dywed Hayley Murphy, modryb Harvey Evans 15, bod y teulu yn benderfynol o gael "cyfiawnder".

Bu ffrind Harvey, Kyrees Sullivan, 16, hefyd farw yn y gwrthdrawiad.

Ddydd Mawrth fe wnaeth lluniau teledu cylch cyfyng (CCTV) ddangos bod plismyn yn dilyn y ddau ar Ffordd Frank gerllaw cyn y gwrthdrawiad ond dywed yr heddlu bod eu cerbyd agosaf hanner milltir o leoliad y gwrthdrawiad toc wedi 18:00 nos Lun.

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn cynnal ymchwiliad i "unrhyw ryngweithiad" rhwng Heddlu De Cymru a'r ddau fachgen cyn y gwrthdrawiad.

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Harvey Evans, yn 15, a Kyrees Sullivan, yn 16

"Dyma ddau blentyn a gafodd eu herlid i'w marwolaeth gan Heddlu De Cymru," medd Ms Murphy wrth y BBC wedi gwylnos a gafodd ei chynnal nos Wener er cof am y ddau fachgen.

Mae Ms Murphy, sy'n chwaer i fam Harvey, yn mynnu bod ei nai "wedi cael ei arestio 30 o weithiau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ond heb ei gyhuddo o gwbl".

Mae'n honni bod plismyn wedi ymweld â chartref y teulu yn y gorffennol wedi ymosodiad ar swyddog yr heddlu - ond bod lluniau fideo cloch drws yn dangos fod Harvey adref ar y pryd.

Mae'n honni hefyd bod yna achlysur arall pan oedd yr heddlu yn credu ei fod wedi gwneud rhywbeth o'i le ond yr adeg honno bod y teulu ar wyliau a "ddim hyd yn oed yn y wlad".

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd nifer o falŵns eu gollwng yn yr wylnos nos Wener

Fe ddisgrifiodd ei fodryb Harvey fel cymeriad "cegog" ond eto "mor annwyl".

Dywed fod ei ymddygiad yn nodweddiadol o rywun yn "ei arddegau... o gwmpas y lle gyda'i ffrindiau a'i fod yn gweld yr heddlu drwy'r amser".

Fe esboniodd hefyd sut oedd Harvey, a oedd yn hoff iawn o sgwteri a beiciau trydan, wedi dweud wrth ei dad ei fod yn bwriadu mynd â Kyrees ar ei feic trydan wedi iddyn nhw cael te gyda'i gilydd.

Roedd y beic yn anrheg pen-blwydd 16 cynnar.

"Roedd Harvey newydd gael y beic a doedd e ddim am ei golli. Fe drodd tuag yn ôl ac fe wnaeth yr heddlu ei erlid," mae'n honni.

Yn gynharach roedd Ms Murphy wedi dweud wrth y BBC bod yr anhrefn wedi dechrau wrth i aelodau o'r teulu aros wrth y lle y digwyddodd y gwthdrawiad - roedden nhw am gael gwybod os oedd eu bechgyn dal yn fyw wrth iddyn nhw gael triniaeth CPR.

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer wedi rhoi teyrngedau i'r ddau fachgen

Dywed mam-gu Harvey, Dawn Rees, ei bod yn credu nad oedd gan rhai pobl a oedd yn rhan o'r anhrefn unrhyw gysylltiad lleol "ac nad oeddynt yn poeni beth yr oeddynt yn ei wneud nac yn cwffio amdano".

Mae naw o bobl wedi cael eu harestio hyd yma - pump o ardal Caerdydd - wedi i'r heddlu edrych ar luniau o gamerâu oedd yn cael eu gwisgo gan blismyn.

Dywed ditectifs bod disgwyl i ragor gael eu harestio.

Dywed Ms Murphy bod y teulu wedi gorfod aros yn hir iawn cyn i'w hofnau fod y bechgyn wedi marw gael eu cadarnhau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Wedi'r gwrthdrawiad angheuol roedd yna anhrefn yn Nhrelái

"Fe ddaethon nhw i'r tŷ ryw bedair awr wedi'r gwrthdrawiad, ie oddeutu pedair awr, gan ddweud 'bod dau wedi marw ond nad oeddynt yn gallu cadarnhau pwy oedden nhw'.

"Roedden ni'n gwybod mai Harvey oedd e - ond chawson ni ddim mo'r wybodaeth nes i swyddog cyswllt teulu ddod draw oddeutu 14:00 y diwrnod canlynol.

"Sut ydych chi'n gallu trin teulu bachgen ifanc fel yna?"

Mae'r ddwy ddynes hefyd yn beio y rhai a oedd yn rhan o'r anhrefn am achosi i'r gwasanaethau brys oedi cyn symud cyrff Harvey a Kyrees o safle'r gwrthdrawiad.

"Fe wnaeth y bechgyn orwedd ar y llawr am 10 awr. Deg awr," mae Ms Murphy yn honni.

Disgrifiad,

17:59 - Fideo CCTV yn dangos fan heddlu'n dilyn dau berson ar sgwter neu feic

Dywedodd Ms Rees: "Doedden ni ddim yn gallu delio â hyn gan bod y ddau yn gorwedd ar y llawr.

"Roedd hyn yn sgil yr anhrefn. Roedden ni methu cael cefnogaeth am 17 awr a hynny oherwydd yr anhrefn."

"Yr unig beth a allwn ei wneud yw aros yn gryf fel teulu ac fel cymuned a pharhau i ymladd nes ein bod yn cael cyfiawnder," medd Ms Murphy.

Mewn datganiad dywedodd Heddlu De Cymru: "Mae ymchwiliadau yr heddlu a'r IOPC yn parhau a dyw hi ddim yn bosib i ni wneud sylw pellach."

Mae cais wedi cael ei wneud i Wasanaeth Ambiwlans Cymru am sylw.

Pynciau cysylltiedig