Trelái: Perthynas â'r heddlu 'o dan straen yn rhy aml'
- Cyhoeddwyd
Mae'r berthynas rhwng yr heddlu a thrigolion Trelái yng Nghaerdydd yn "o dan straen yn rhy aml", yn ôl y prif weinidog.
Dywedodd Mark Drakeford, sy'n cynrychioli'r etholaeth, fod rhai pobl eisiau i'r heddlu "daclo" ymddygiad gwael, tra bod eraill yn credu bod angen i swyddogion fabwysiadu agwedd wahanol.
Cafodd Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, eu lladd mewn gwrthdrawiad ddydd Llun.
Fe sbardunodd y gwrthdrawiad derfysg yn ardal Trelái - cafodd 15 o swyddogion eu hanafu ac mae naw wedi cael eu harestio hyd yma.
'Gwead cymunedau wedi dioddef'
Ddydd Gwener fe drefnodd y prif weinidog gyfarfod o gynrychiolwyr y gymuned leol, asiantaethau cyhoeddus, a chynghorwyr Caerdydd i drafod cefnogaeth i Drelái.
Yn ôl Mr Drakeford, fe gytunodd y rhai a oedd yn y cyfarfod bod angen "noddi cynllun cymunedol ar gyfer Trelái, i ymateb i anghenion hirdymor trigolion".
Wrth siarad â rhaglen BBC Politics Wales ar ôl y cyfarfod, fe ddywedodd fod y llywodraeth am gefnogi trigolion Trelái sydd "mor drist a siomedig fod enw da'r ardal yn cael ei effeithio fel hyn eto".
Ychwanegodd y prif weinidog: "Mae gwead rhai o'n cymunedau ar draws Cymru wedi dioddef nawr ers dros ddeng mlynedd - mae ailadeiladu yn rhywbeth fydd yn cymryd nid dim ond ychydig flynyddoedd, ond blynyddoedd lawer."
Pan ofynnwyd iddo am y berthynas rhwng yr heddlu a thrigolion lleol, dywedodd Mark Drakeford fod y berthynas yn "rhy aml o dan straen, yn rhy aml yn bryderus, yn rhy aml yn poeni nad oes gan yr heddlu yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i ymateb i'r materion troseddol neu anfodlonrwydd a welwn ar y stad".
Wrth iddo gael ei holi a oedd yna broblem gydag ymddygiad yr heddlu yn y gymuned, atebodd: "Mae plismona yn swydd heriol iawn. Dydw i ddim yn mynd i feirniadu'r heddlu'n rhwydd.
"Ar y naill law, fe fydd yna bobol ar y stad sy'n teimlo bod angen i'r heddlu ymateb yn fwy uniongyrchol ac i fynd i'r afael â pheth o'r ymddygiad sy'n cael ei weld yno ac ar y llaw arall, fe fydd yna bobol sy'n disgwyl i'r heddlu i fod yn ateb i'r materion sy'n gyrru pobl ifanc ac eraill i ymddygiad sy'n achosi anhawster i drigolion eraill," ychwanegodd.
Ymchwiliad parhaus
Bu farw'r ddau fachgen mewn gwrthdrawiad ar Ffordd Snowden, Trelái, toc wedi 18:00 nos Lun.
Yn dilyn marwolaethau'r bechgyn, lledodd y newyddion ar gyfryngau cymdeithasol fod fan heddlu wedi bod yn eu dilyn cyn y ddamwain.
Dywedodd Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru, i ddechrau nad oedd swyddogion wedi "erlid" y ddau fachgen.
Wedi hynny dangosodd recordiad teledu cylch cyfyng bod fan heddlu wedi bod yn dilyn y bechgyn cyn y ddamwain angheuol.
Ddydd Mercher, fe gadarnhaodd Heddlu De Cymru fod eu swyddogion wedi bod yn dilyn y bobl ifanc cyn eu marwolaethau, ond fe wrthodon nhw ateb cwestiynau pellach ac fe gyfeirion nhw at ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) i'r mater.
Ar bodlediad Walescast y BBC holodd Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Caerdydd, Kevin Brennan, ai Mr Michael oedd y "person cywir" i gyfathrebu â'r cyhoedd "yn y fath amgylchiadau".
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, wrth Politics Wales bod sylwadau'r comisiynydd yn gynharach yr wythnos hon "wedi ychwanegu haen o gymhlethdod at y cyfan, ond go brin mai dyma'r mater canolog".
Ychwanegodd: "Y mater canolog yma yw popeth a ddigwyddodd ar y noson ac archwiliad fforensig o hynny ac yna'r gwaith yr ydym wedi dechrau arno heddiw sef cymryd golwg ar yr hyn sydd y tu ôl i'r digwyddiadau hynny, yr achosion gwaelodol dyfnach, y pethau sy'n bwysig i'r gwahanol gymunedau sy'n byw yn Nhrelái a beth allwn ni ei wneud i fynd i'r afael â'r rheini gyda'n gilydd."
Mae BBC Politcs Wales ar BBC 1 Cymru am 10.00 fore Sul, 28 Mai ac yna ar iPlayer
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mai 2023
- Cyhoeddwyd25 Mai 2023
- Cyhoeddwyd24 Mai 2023