Lluniau: Dydd Llun Eisteddfod yr Urdd 2023
- Cyhoeddwyd
Os ydych chi'n methu â dod i Eisteddfod yr Urdd, dyma i chi flas ar yr awyrgylch a be' oedd yn digwydd ar y maes yn Llanymddyfri ar ddydd Llun cynta'r cystadlu.

Owain, Rowan, Anni, Tomos, Branwen ac Efa o Ysgol Llanddoged, Sir Conwy, yn paratoi i fynd ar lwyfan y pafiliwn gwyn i gystadlu yn y gystadleuaeth ddawnsio gwerin i ysgolion â dan 100 o blant.

Mae Emma, sydd ym mlwyddyn un yn Ysgol Gymraeg Caerffili, wedi blino ar ôl cerdded o amgylch y maes gyda'i thad-cu a'i mam-gu. Dyma ei thro cyntaf yn Eisteddfod yr Urdd ond fe wnaeth Peter, ei thad-cu, gystadlu yn Abergwaun nôl yn 1951!

Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn yn cael un ymarfer bach arall cyn cystadlu.

Casi, Osian, Caio a Dave yn mwynhau danteithion ar y maes - rhaid cadw'r lefelau egni'n uchel!

Emyr yn cael gwers saethu bwa saeth gan Aled o griw chwaraeon yr Urdd… a do, mi darodd y bullseye!

Rhaid gwneud yn siŵr bod y meicroffôn yn y lle cywir i Mirain Iwerydd. Hi fydd yn cyflwyno rhaglen uchafbwyntiau'r maes ar S4C drwy'r wythnos.

Dwbl y trwbl! Dyma Cadi ac Ifan, efeilliaid wyth oed o Gaerfyrddin, yn mwynhau gêm o hoci gyda Actif Cymru yn y pentref chwaraeon.

Roedd Yr Arddorfa dan ei sang ar gyfer sesiwn canu a dawnsio gynta'r wythnos gyda sêr Cyw.

Wrth ei fodd! Roedd Moc o Dregaron yn un oedd wedi mwynhau dawnsio i ganeuon Cyw!

Gwydion Rhys o Rachub, Dyffryn Ogwen, yw'r enillydd yn seremoni gyntaf yr wythnos, sef y Fedal Gyfansoddi. Dyfal donc yw'r neges gan Gwydion, sydd wedi dod yn agos i'r brig sawl gwaith o'r blaen:
"Dwi wedi cyrraedd y tri uchaf yng nghystadleuaeth y Fedal Gyfansoddi deirgwaith o'r blaen, felly mae'r neges i unrhyw gyfansoddwr ifanc yn glir - daliwch ati i greu!" meddai.

Mae Lilah ac Aurora o Benrhyncoch wedi hongian neges 'pob lwc' ar goeden ddymuniadau Mistar Urdd, sydd yn y Ganolfan Groeso. Roedd Lilah yn edrych ymlaen at gystadlu yn y parti cerdd dant blwyddyn 6 ac iau gydag Ysgol Rhydypennau.

Mae wedi bod yn ddiwrnod llwyddiannus hyd yma i Ben Manville-Parry, 10, o Gaerdydd oedd ar y maes gyda'i deulu. Fe enillodd yr Unawd Telyn Bl.6 ac iau a'r Unawd Gitâr hefyd.
Roedd Ben hefyd wedi ennill cystadleuaeth gwaith cartref am gyfansoddi - does dim rhyfedd bod ei deulu i gyd mor falch ohono!

Gruffydd o Gas-gwent yn cael reid ar fotobeic Heddlu Dyfed Powys.

Mae eisteddfota'n waith blinedig... Dyma Carwyn Jones o Aberystwyth yn cymryd munud o hoe i dorheulo yn yr haul.

Bydd Celyn, Lea, Lilly a Magw o Fro Teifi yn cystadlu ddydd Iau yng nghystadleuaeth y cyflwyniad dramatig, ond yn gyntaf roedd rhaid cael llun gyda Dylan y Ddraig ar stondin Prifysgol Caerdydd.
Hefyd o ddiddordeb: