Gwen John: Hanes 'go iawn' yr arlunydd o Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae hanes go iawn yr arlunydd Gwen John yn llawer mwy cymhleth ac yn ddifyrrach na'r ystrydebau, yn ôl Ceridwen Lloyd-Morgan.
Wrth i'r arddangosfa gyntaf o waith yr arlunydd mewn 20 mlynedd ddigwydd yng Nghaerfuddai (Chichester), Ceridwen Lloyd-Morgan sy'n chwalu'r ystrydebau am yr arlunydd enwog o Sir Benfro mewn darn arbennig ar gyfer Cymru Fyw.
Cyn ymddeol, bu Ceridwen yn bennaeth Llawysgrifau a Delweddau Gweledol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle y bu hi'n gyfrifol am gatalogio archifau Gwen John ac Augustus John. Cyhoeddodd nifer o erthyglau ar fywyd a gwaith Gwen John, a golygodd y gyfrol Gwen John: Letters and Notebooks.
Roedd Gwen John yn dod o Sir Benfro ac roedd hi'n artist a dreuliodd y rhan fwyaf o'i gyrfa ym Mharis, gan ganolbwyntio'n bennaf ar luniau o ferched.
Dyna'r ffeithiau moel am yr artist Gwen John (1876-1939). Yn ystod ei phlentyndod yn Ninbych-y-Pysgod, crwydrai'r arfordir yn tynnu lluniau, dawn a etifeddodd hi gan ei mam oedd yn artist amatur. Ond bu hi farw'n ifanc, cyn gweld Gwen a'i brawd iau, Augustus, yn datblygu'n arlunwyr o bwys.
Ystrydebau
Dros y degawdau diwethaf ail-adroddwyd hyd syrffed yr un hen ystrydebau am Gwen John. Roedd hi dan gysgod Augustus a rhedodd i ffwrdd i Baris i ddianc rhagddo. Ciliodd o lygaid y cyhoedd, meddir, ond rhoddir sylw mawr i'w charwriaeth â'r cerflunydd enwog Auguste Rodin. Ond mae'r hanes go iawn yn llawer mwy cymhleth - a mwy diddorol hefyd.
Roedd Gwen John yn ferch hynod o benderfynol. Pan ddywedodd ei thad weddw na châi hi fynd i Lundain i astudio yn ysgol gelf y Slade, lle roedd Augustus eisoes yn fyfyriwr, chafodd o ddim llonydd ganddi nes iddi gael ei ffordd.
Dianc
A'r un cadernid, yr un styfnigrwydd, oedd wrth wraidd ei phenderfyniad i adael Llundain yn 1903 gyda Dorelia McNeill, cariad Augustus, pan sylwodd Gwen faint oedd y garwriaeth yn brifo Ida, ei chwaer-yng-nghyfraith.
Cerdded i Rufain oedd bwriad Gwen a Dorelia i ddechrau, ond cyrhaeddon nhw ddim pellach na de Ffrainc. Ond dyna fenter - dwy ferch ifanc yn cerdded ar eu pennau eu hunain, yn cysgu yn y caeau ac yn tynnu lluniau bach i'w gwerthu er mwyn cael ychydig o arian i dalu am bryd o fwyd neu am do uwch eu pennau am y nos.
O'r diwedd penderfynwyd troi am Baris, mecca i artistiaid y cyfnod. Yno hefyd câi merched lawer mwy o ryddid nag ym Mhrydain. Roedd modd iddyn nhw logi stafell, derbyn hyfforddiant mewn academi gelf a gwneud pres trwy fodelu. A dyna sut y daeth Gwen i adnabod Rodin, trwy fodelu ar gyfer ei gerfluniau. Tebyg fod y garwriaeth yn bwysicach iddi hi nag iddo fo, ac mi fu hi'n anhapus iawn pan ddaeth y bennod honno i ben, ond eto mi fu'r cysylltiad yn fuddiol iawn iddi fel artist.
Yn stiwdio Rodin daeth hi i adnabod artistiaid eraill, gan gynnwys nifer o ferched. Dysgodd lawer am dechnegau arlunio a chael cyfle i drafod a rhannu syniadau gydag eraill a weithiai yno, gan gynnwys y bardd Almaeneg, Rainer Maria Rilke, ysgrifennydd Rodin ar y pryd. Yn bwysicaf oll, cafodd ei hannog i ddyfalbarhau gyda'i gwaith ac i weithio'n galed bob dydd nes cyrraedd y nod.
Am weddill ei gyrfa bu hi'n gosod safon uchel iawn iddi ei hun. Tra bod Augustus John o'r 1910au ymlaen yn afradu ei ddawn yn cynhyrchu llu o bortreadau enwogion am bres mawr er mwyn cynnal ei deulu, canolbwyntiai Gwen John yn llwyr ar ei gwaith heb hidio ryw lawer am yr arian.
Roedd ganddi incwm bach ond rheolaidd ar ôl ei mam, a bu'n gwerthu gwaith mewn arddangosfeydd ym Mharis a Llundain, lle cafodd ymateb hynod o werthfawrogol. Felly hefyd pan ddangoswyd tri o'i lluniau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abergwaun yn 1936. Roedd un o'r tri wedi ei brynu yn barod gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru, un arall gan Oriel Tate, Llundain ac un gan gasglwr preifat.
Yn ystod ei blynyddoedd cyntaf ym Mharis tynnodd luniau hudolus o'i stafell a pharhau'r gyfres o hunanbortreadau a ddechreuodd pan oedd yn y Slade. Wedi iddi troi'n Gatholig ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, gofynnwyd iddi gyfrannu portread o sefydlydd urdd lleianod y cwfaint ger ei chartref ym Meudon ac esgorodd hynny ar gyfres bwysig o luniau o leianod.
Dilynwyd y rhain gan lu o baentiadau o ferched ifanc, yn darllen neu'n dal cath - roedd Gwen John yn cadw cath bob amser. Dyma ei gwaith aeddfed.
Yn ystod rhan gyntaf ei gyrfa bu'n tynnu lluniau manwl, gan ddefnyddio paent llyfn a lliwiau cryf, ond erbyn hyn canolbwyntiai ar ddarlunio merched unigol yn erbyn cefndir syml, gan ddefnyddio nifer o wawriau gwahanol o fewn dewis cyfyng o liwiau. Cymysgai ei phaent yn weddol sych a'i osod ar y cynfas mewn ysmotiau yn hytrach na llinellau - techneg a ddisgrifiwyd ganddi fel blobbing.
Cysegrodd ei bywyd i'w gwaith, ond heb ynysu ei hun yn llwyr. Deuai ei noddwr, yr Americanwr John Quinn, i ymweld â hi, ond yn bwysicach iddi hi oedd y ffrindiau da oedd ganddi ymhlith merched o arlunwyr eraill ym Mharis. Ac ambell waith teithiai i Loegr ac aros gydag Augustus a'i deulu. Parhaodd ei chyfeillgarwch â'i chyfoedion o gyfnod y Slade, yn enwedig Ursula Tyrwhitt, ei ffrind agosaf.
Cadwai Gwen John olwg ar y datblygiadau diweddaraf ym maes celf a daeth i gysylltiad â rhai o artistiaid enwog y cyfnod, gan gynnwys Picasso. Adlewyrchir syniadau'r dydd yn ei gwaith, yn enwedig y pwyslais cynyddol ar ffurf, siâp a phatrymu.
Yn ei blynyddoedd olaf, fodd bynnag, oherwydd gwendid corfforol cynyddol, rhoddodd y gorau i greu lluniau olew a chanolbwyntio ar dynnu brasluniau inc a lluniau bach dyfrlliw o'r byd o'i chwmpas - tusw o flodau, y stryd lle roedd hi'n byw, gwragedd a phlant yn yr eglwys neu ar y trên.
Dyddiau olaf
Er mai Paris oedd ei chartref, ambell waith byddai hi'n ysu am fynd i'r wlad, yn enwedig i lan y môr. Weithiau âi ar wyliau gyda ffrindiau, gan ymweld fwy nag unwaith â Llydaw, lle dreuliodd rai misoedd yn 1918-19 ym mhentre Pléneuf ar arfordir y gogledd. Fel yn ei dyddiau cynnar yn Sir Benfro, hoffai grwydro ar hyd y glannau, a rhoddai bres poced i blant yr ardal am ganiatáu iddi dynnu eu lluniau.
Tybed ai yr hen awydd i weld y môr unwaith eto a barodd iddi adael Paris ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd? Cyrhaeddodd mor bell â Dieppe cyn cael ei tharo'n wael a marw'n dawel a di-ffwdan yn yr ysbyty. Go brin y buasai wedi meddwl y byddai'n cael ei hystyried yn ddiweddarach yn un o brif arlunwyr yr 20fed ganrif.