Teyrnged i ddyn fu farw yn ystod Triathlon Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn fu farw yn ystod Triathlon Abertawe ddydd Sul wedi rhoi teyrnged i "ŵr, tad a thaid cariadus".
Bu farw Andrew Ireland, 61, tra'n nofio yn ystod y ras, er i wasanaethau brys geisio ei helpu.
Mewn datganiad dywedodd Activity Wales Events, trefnwyr y digwyddiad, fod teulu Mr Ireland wedi gofyn iddyn nhw gyhoeddi teyrnged ar eu rhan.
"Fel teulu, rydym wedi torri ein calonnau ond yn cael cysur o'r holl negeseuon o gydymdeimlad a chefnogaeth rydyn ni wedi ei gael," meddai'r neges.
"Roedd Andrew yn weithiwr elusen ar ran pobl ddigartref, ac yn gefnogwr brwd o bêl-droed Cymru.
"Roedd yn feiciwr brwd ac yn hoffi cymryd rhan mewn triathlon, yn aelod o'r Tondu Wheelers ac yn rhedeg parkrun yn gyson.
"Hoffwn ddiolch i'r gwasanaethau brys, trefnwyr y digwyddiad, gwirfoddolwyr ac aelodau'r cyhoedd wnaeth roi cymorth ar y pryd."
Fe wnaeth Heddlu'r De gadarnhau mewn datganiad ddydd Llun fod person wedi marw yn ystod y triathlon, gan ddweud bod eu "meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r dyn."
Roedden nhw, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Ambiwlans Sant Ioan, a gwirfoddolwyr ymhlith y rhai a geisiodd helpu ddydd Sul.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai 2023