Caerffili: Carcharu dyn laddodd ffrind gydag un ergyd

  • Cyhoeddwyd
Jay WebsterFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent

Mae dyn wedi ei garcharu am ddynladdiad ei ffrind gorau yn dilyn ffrae feddw ym mis Ebrill.

Roedd Jay Webster, 28, wedi bod allan yn yfed gyda'i ffrind Benjamin Lloyd yng Nghaerffili ar 1 Ebrill, pan aeth y ddau i "ffrae wirion" ar ôl cael eu hatal rhag mynd i dafarn.

Clywodd y llys bod Webster wedi taro Mr Lloyd unwaith yn ei ben, gan achosi iddo daro ei ben ar y llawr.

Roedd Mr Lloyd wedi gwrthod cymorth meddygol yn dilyn y digwyddiad, gan fynd i gartref ei dad yn hytrach.

Fe gafwyd hyd iddo yn anymwybodol yn ei wely'r diwrnod canlynol, ac er i'w dad geisio ei adfywio, bu farw Mr Lloyd.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Benjamin Lloyd yn dilyn y digwyddiad ym mis Ebrill

Dywedodd mam Mr Lloyd, Kay Main, bod y ddau ddyn wedi adnabod ei gilydd ers dros 20 mlynedd, a'u bod "fwy fel brodyr".

Fe welodd y llys luniau CCTV o'r digwyddiad, wrth i'r diffynnydd wthio Mr Lloyd yn erbyn ffenest, ac yna i Mr Lloyd geisio ei daro yntau ddwywaith.

Dangosodd y fideo Webster yn taro Mr Lloyd unwaith gyda'i law dde.

Fe wnaeth Webster gyfaddef dynladdiad.

'Trasiedi'

Clywodd y llys bod Webster, o Senghennydd, Sir Caerffili wedi disgrifio ei hun fel "naw allan o ddeg o feddw" ar ddiwrnod y digwyddiad.

Dywedodd "nad oedd wedi bwriadu ei wneud", ac fe arhosodd gyda'i ffrind am ambiwlans, er nad oedd Mr Lloyd eisiau cymorth.

Ar ôl gadael y safle, aeth Webster i gartref Ms Main i esbonio'r hyn ddigwyddodd.

Dywedodd Ms Main mewn datganiad i'r llys nad oedd hi'n dal dig yn erbyn Webster am yr hyn ddigwyddodd.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mr Lloyd ei ganfod yn anymwybodo ar Heol Cefn Ilan yn Abertridwr

Wrth ddedfrydu Webster i bum mlynedd a thri mis dan glo, dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke: "Does dim dwywaith bod Mr Lloyd yn cael ei garu'n fawr gan ei deulu a'i ffrindiau, gan gynnwys chi."

Yn dilyn y dedfrydu, dywedodd teulu Mr Lloyd bod ei farwolaeth wedi gadael bwlch yn eu bywydau a "phoen na fydd yn gwella", "ond rydyn ni'n deall y boen y mae Jay a'i deulu'n ei deimlo hefyd".

"Wnaeth o ddim dechrau allan y noson honno i frifo ei ffrind gorau ac mae'n drasiedi bod pethau wedi digwydd fel hyn."

Mae Heddlu Gwent wedi cyfeirio ei hun at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (SAYH) yn dilyn y digwyddiad gan fod swyddogion wedi dod i gysylltiad gyda Mr Lloyd cyn ei farwolaeth.

Fe fydd SAYH nawr yn asesu'r achos.

Pynciau cysylltiedig