Abertridwr: Dyn, 28, yn cyfaddef dynladdiad Benjamin Lloyd

  • Cyhoeddwyd
Ben LloydFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ben Lloyd ei ddisgrifio fel "gŵr bonheddig" mewn teyrnged gan ei deulu wedi'i farwolaeth

Mae dyn wedi cyfaddef iddo ladd dyn arall yn Sir Gaerffili.

Cafodd Benjamin Lloyd, 27, ei ganfod yn farw mewn tŷ yn Abertridwr ar 2 Ebrill.

Yn dilyn ei farwolaeth, apeliodd Heddlu Gwent am dystion i ffrwgwd y noson gynt rhwng dau ddyn yng nghanol tref Caerffili.

Ddydd Mercher, yn Llys y Goron Caerdydd, plediodd Jay Webster, o Senghennydd, yn euog i ddynladdiad Mr Lloyd.

Cafodd y dyn 28 oed ei gadw yn y ddalfa ac ni wnaeth ei fargyfreithiwr unrhyw gais am fechnïaeth.

Yn ystod y gwrandawiad byr, dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke wrth Webster fod dedfryd o garchar yn anochel.

'Dyn caredig a hael'

Yn dilyn ei farwolaeth, fe gyhoeddodd teulu Mr Lloyd deyrnged iddo gan ei ddisgrifio fel "gŵr bonheddig".

"Roedd Ben mor hapus a phositif o hyd, wastad yn llon ei galon," meddai.

"Roedd yn ddyn caredig a hael oedd yn gweithio'n galed, ac roedd ganddo ddigonedd o amser i'w ffrindiau.

"Byddech chi'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i unrhyw un oedd â gair drwg i ddweud amdano."

Bydd Webster yn cael ei ddedfrydu ar 6 Mehefin.