Cwest: Myfyriwr wedi dioddef 'anafiadau difrifol i'w ben'
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed bod dyn ifanc o Wynedd wedi marw o anafiadau difrifol i'w ben yn dilyn gwrthdrawiad nos Wener.
Clywodd y cwest i farwolaeth Joshua Lloyd Roberts ei fod wedi cael ei ganfod yn gorwedd ar y ffordd yn dilyn y gwrthdrawiad ger Caernarfon.
Mae dyn 19 oed bellach wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus ac osgoi stopio ar ôl gwrthdrawiad.
Yn y cyfamser mae tudalen casglu arian i deulu Mr Roberts eisoes wedi cyrraedd dros £10,000 mewn ychydig dros ddiwrnod.
Adnewyddu apêl am dystion
Clywodd y cwest ddydd Mercher gan y patholegydd Dr Brian Rodgers, a ddywedodd bod Joshua Lloyd-Roberts wedi dioddef anafiadau difrifol i'w ben yn y digwyddiad.
Cafodd y cwest ei agor dan arweiniad uwch grwner Gogledd Orllewin Cymru Katie Sutherland, cyn cael ei ohirio o ganlyniad i'r ymchwiliad heddlu sydd ar y gweill.
Fe wnaeth Heddlu'r Gogledd arestio dyn lleol 19 oed ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, ac osgoi stopio ar ôl gwrthdrawiad.
Mae bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth, tra bod ymholiadau pellach yn cael eu gwneud.
Ddydd Mercher fe wnaeth yr heddlu adnewyddu eu hapêl am dystion a gwybodaeth, yn dilyn y gwrthdrawiad.
Maen nhw'n annog unrhywun a deithiodd ar Ffordd Waunfawr rhwng 22:30 a 23:30 nos Wener, 2 Mehefin i gysylltu gyda nhw. Maen nhw hefyd yn awyddus i siarad ag unrhyw un sydd gyda chamera cerbyd.
Dywedodd yr Arolygydd Iwan Roberts o Uned Plismona'r Ffyrdd bod "ein cydymdeimlad dwysaf gyda theulu Joshua".
"Mae sawl ymholiad yn barod ar waith, a hoffwn ddiolch i'r rhai sydd wedi cysylltu gyda ni.
"Fodd bynnag, rydym yn annog unrhywun a all fod o help gyda'r ymchwiliad - pa bynnag mor fach yw'r wybodaeth, i gysylltu gyda ni cyn gynted."
£10,000 mewn rhoddion
Yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, roedd Josh Lloyd Roberts hefyd yn bêl-droediwr dawnus.
Mae tudalen casglu arian gafodd ei sefydlu ddydd Mawrth eisoes wedi casglu dros £10,000 mewn ychydig dros ddiwrnod.
I ychwanegu at yr ymdrechion i hel arian, bydd gêm rhwng dau o'i gyn-glybiau hefyd yn digwydd nos Iau.
Bydd CPD Tref Caernarfon yn teithio i CPD Bontnewydd, gyda chasgliadau'n cael eu cynnal ar y noson.
"Os na allwch chi fynychu, byddem yn gwerthfawrogi unrhyw gyfraniadau, fydd i gyd yn mynd i'r teulu," medd trefnwyr y dudalen.
Mewn datganiad dywedodd teulu Joshua Lloyd Roberts ei fod yn "gefnogwr pêl droed brwdfrydig" a wastad â "gwên ar ei wyneb".
"Roedd yn ffyddlon i'w deulu a buasai'n rhoi ei amser i unrhyw un. Roedd yn frawd mawr gwych i Roni, yn frawd bach ffantastig i Abi, a llys-frawd i Jâc.
"Roedd yn gefnogwr pêl-droed brwdfrydig ac roedd yn mwynhau cefnogi tîm Everton (COYB) a'i dîm lleol, Caernarfon. Roedd yn aelod gwerthfawr o dîm pêl-droed Bontnewydd ac hefyd Cymdeithas GymGym Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
"Hoffai ei deulu ddiolch i bawb sydd wedi cysylltu â nhw ar yr adeg anodd yma."
Ychwanegodd ei ffrind, Catrin Edith Parry, fod Josh yn "fwrlwm o fywyd" ac yn "un o fil".
Dywedodd fod yr ymateb i'w farwolaeth yn "dangos sut fath o berson oedd Josh, a'r ffaith ei fod o'n ffrind i bawb".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2023