Yr argraffdy a liwiodd sîn gerddorol gogledd Cymru'r 70au
- Cyhoeddwyd
Mae posteri fuodd ar un adeg yn lliwio waliau lleoliadau gerddorol gogledd Cymru wedi dychwelyd i waliau dinas Bangor.
Dathlu cyfraniad argraffdy Enfys i sîn gerddorol gogledd Cymru'r 1970au, dyna ydi bwriad arddangosfa Storiel Bangor tan 8 Gorffennaf.
Yno ar y waliau mae casgliad o bosteri'r cwmni dylunio ac argraffu gafodd ei sefydlu gan Stuart Neesham a Lois Morris ym Methesda yn 1972 a ddaeth i gynrychioli is-ddiwylliant cerddorol unigryw yn y gogledd tan iddo gau yn 1976.
Yn y cyfnod mi fyddai dyluniadau seicadelig Stuart Neesham wedi rhoi'r wybodaeth am y gigs diweddaraf ym Mhrifysgol Bangor, ac fe gafodd gwaith Enfys gryn ddylanwad ar fandiau o'r ardal fel Brân, Yr Atgyfodiad a mwy.
"Mae o'n rhan o rhyw is-ddiwylliant bach diddorol," meddai Rhys Jones, sydd wedi curadu'r arddangosfa. "Roedd o'n ddylanwad mawr ar sut wnaeth cerddoriaeth Cymraeg wedyn esblygu."
Enfys
Ganwyd Stuart Neesham yn yr Alban, a'i fagu yng Nghilgwri. Astudiodd yn Ysgol Gelf Caer i ddechrau, cyn mentro i dde Cymru i Goleg Celf Casnewydd.
Yn 1972, dilynodd Stuart ferch a ddeuai'n wraig iddo, Lois Morris, i Fangor ble roedd hi'n gweithio ym Mhrifysgol Bangor.
Hen fecws yn Rachub, Bethesda oedd cartref Enfys i ddechrau, cyn symud i safle hen siop cigydd ar Ffordd Caernarfon, Glanadda, Bangor.
Nhw oedd yn gyfrifol am ddylunio clawr Afal Drwg Adda - hunangofiant Caradog Prichard ar gyfer Gwasg Gee - a phosteri ar gyfer Lle Da, clwb gweithgareddau yn neuadd Pont Tŵr ar gyfer pobl ifanc Bethesda.
'Ysbrydoli bandiau lleol'
Roedd posteri gwreiddiol Enfys yn darparu cefndir lliwgar i sîn gerddorol gogledd Cymru. Mi fyddai'r argraffty yn creu nifer fawr o bosteri ar gyfer bandiau roc fyddai'n chwarae yn Neuadd Prichard-Jones ym Mhrifygsol Bangor a lleoliadau eraill ar draws y ddinas.
Roedden nhw yn cael rhyddid creadigol llwyr gan Undeb y Myfyrwyr i greu llawer o bosteri trawiadol ar gyfer gigs bandiau fel Soft Machine, Man, Spencer Davies (heb y band), String Driven Thing a'r band prog-rock lleol Children.
Rhwng 1972 ac 1976, y posteri yma oedd y ffordd i fyfywrwyr a phobl yr ardal i gael gwybod am y gigs diweddaraf ym Mangor.
"Can-doattitude oedd o. Ar y pryd roedd gen ti fwy o fandiau mawr adnabyddus yn stopio off ym Mangor oherwydd roedd llawer yn teithio drosodd i Ddulyn," meddai Rhys Jones.
"Mae lot o ddyddiadau Stuart yn dangos mai gigs canol wythnos oeddan nhw. Pres pocad i'r bandiau cyn mynd i Iwerddon fydda lot ohonyn nhw.
"Y poster oedd y ffordd i ddal llygad a dylanwadu. Wrth gwrs roedd 'na lot o gerddoriaeth yn dod i Fangor yn y cyfnod yna a roedd hynna'n ysbrydoli bandiau lleol i greu cerddoriaeth hynod ddiddorol."
'Creu is-ddiwylliant'
Denodd y posteri sylw'r cerddor Arfon Wyn, a oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor ar y pryd ac wedi sefydlu ei fand Yr Atgyfodiad.
Gofynnodd i Stuart greu logo i'r band i'w gynnwys gyda'i sengl ddiweddaraf gafodd ei recordio yn stiwdio enwog Rockfield yn Sir Fynwy.
"Roedd ganddo nhw rhyw fath o naws yng ngwaith Yr Atgyfodiad - roedd 'na elfen reit geltaidd," meddai Rhys Jones.
Roedd hi'n gyfnod cyffrous i gerddoriaeth Cymraeg. Roedd Recordiau Sain wedi ei sefydlu yn 1969 ac roedd teimlad fod y sŵn yn symud yn bellach i ffwrdd o'r traddodiad gwerinol Cymreig yn unig ac roedd lliwiau llachar dyluniadau Enfys yn adlewyrchu hynny.
"Roedd gen ti Gymry di-Gymraeg oedd yn rili credu yn be' oedd Sain yn gwneud ac isio gyfrannu," meddai Rhys. "Wrth gwrs mae iaith weledol yn iaith universal felly roeddan nhw yn medru helpu fel 'na."
"Roedd gen ti yn naturiol stwff gwerinol a chanu gitâr ond roedd o yn ehangu hynna. Ac roedd gogledd Cymru wedi creu'r is-ddiwylliant trwy'r iaith Gymraeg."
'Amser cyffrous'
Un band gafodd ei ysbrydoli yn y cyfnod oedd Brân, oedd yn cynnwys cyn aelodau'r Atgyfodiad a myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor - John Gwyn, Gwyndaf Roberts, Keith Snellgrove - yn ogystal â Nest Howells.
Stuart Neesham wnaeth greu'r logo unigryw ar gyfer Brân ac roedd band oedd yn un enghraifft o fand wnaeth esblygu o synau gwerinol i synau fwy prog-rock yn y cyfnod.
Roedd hi'n gyfnod difyr a ffrwythlon i sîn gerddorol ac artistig gogledd Cymru ac allan ohoni daeth dylunwyr a ffotograffwyr - fyddai wedi ymwneud â Enfys - fel Jac Jones, Garry Stuart a Robert Eames i ddiffinio delweddau bandiau'r cyfnod a chael llawer o waith gan Recordiau Sain.
"Roedd Sain ei hun yn fodlon cymryd punt a rhoi cyfle i lot o artistiaid 'ma oedd wedi dysgu ei hunain fel Jac Jones a'r diweddar Garry Stuart," meddai Rhys.
"Roedd hi'n amser cyffroes lle oedd deleweddau cloriau yn fwy na jest y band. Roedd y delweddau rili eye-catching.
"Roedden nhw yn indicators da o sut oedd y bands yn swnio."
Hefyd o ddiddordeb: