Beth ydy'r albwm Cymraeg gorau erioed?
- Cyhoeddwyd
Pa albyms Cymraeg sy'n haeddu cael eu hystyried fel y rhai gorau erioed?
Ar drothwy cyhoeddi Albwm Cymraeg y Flwyddyn, fydd yn cael ei ddadlennu fel rhan o'r Eisteddfod AmGen ar ddydd Sadwrn 1 Awst, fe ofynnodd Cymru Fyw i rai o feirniaid eleni ddewis eu halbwm gorau nhw yn hanes pop Cymraeg.
Shampŵ - Bando
Yn 1982 a minnau yn f'arddegau cynnar fe ges i albwm Shampŵ, Bando, yn anrheg ac fe gwympais mewn cariad gyda'r wledd amryliw o wahanol arddulliau cerddorol - pop, disco, roc a baledi ynghyd â'r geiriau cyfoethog. Nid gwamalu yw dweud bod yr albwm wedi cael effaith fawr arnaf ac mae hi dal hyd heddiw yn ffefryn.
Mae'r holl liwiau amrywiol yn y lleisio, ynghyd â'r cymeriadu celfydd yn ein taflu i ddyfnder stori bob cân. A gofiwch chi'r gwisgoedd, y colur a'r gelfyddyd yn dod yn fyw yn y fideos dramatig? Cofiaf y ffrog borffor awgrymog yn Shampŵ ac fel yr oedd yr enw dieithr Maurice wedi'i gyplysu gyda chytseiniaid a llafariaid teitl y gân yn creu mantra cynhyrfus oddi mewn!
Cofiaf hefyd y siaced fer wen, y menig lledr du a'r dawnsio herfeiddiol yn yr adfail tanddaearol yn Byd yn Boen; yna'r clustdlysau hir a'r minlliw'n diferu drwy nodau'r harmonïau melfed yn O'r Galon, a'r syllu hir drwy'r ffenest lwydwyll tuag at Gaer Arianrhod.
Sawl un arall a ddawnsiodd o flaen ei drych yn y llofft ysgwn i, gan actio'n angylaidd wrth ganu un funud a'r eiliad nesaf yn taro 'dwff dwffs' y drymiau cyn diweddglo Chwarae'n troi'n Chwerw?
Atgofion dwi'n eu hail fyw bob tro dwi'n canu nerth fy mhen yn y car ar deithiau hir yr M4 a'r A470 a phob gair a phob ystum llais gwych Caryl yn fyw yn y cof. Dyma albwm sy'n gorlifo â pherlau amryliw gyda nifer o'r caneuon yn goroesi - yn glasuron heb eu hail a'r genedl yn parhau i'w canu.
Diolch amdani a diolch bod Caryl a cherddorion Bando wedi'i chreu inni.
Sian Meinir
Melyn - Adwaith
Mae Adwaith yn un o'r bandiau yna sydd yn amhosib peidio mwynhau. Mae Hollie, Gwenllian a Heledd yn amlwg wedi tollti popeth mewn i'r record, ac mae hi'n un o'r albyms prin lle dwi nid yn unig yn gallu deall ac uniaethu hefo'r neges a'r bwriad, ond yn gweld fy hun yn y traciau.
Maen nhw'n corddi ac yn byrlymu, yn fy ngwylltio ac yn codi calon. Mae'r record yn gwneud mor dda i leisio sut brofiad yw bod yn ferch Gymraeg yn y 21ain ganrif drwy godi drych ar stad ein cymdeithas, a dwi mor ddiolchgar iddyn nhw am greu traciau sydd wedi gwneud i mi deimlo yn bwerus, cymhleth, ac agored i gyd ar unwaith.
Mae safon y traciau hefyd yn class - fedrith sefyll fyny ar ben eu hunain fel senglau cyffroes, ynghyd â thoddi mewn i'w gilydd i greu un cyfanwaith hudol. Fedra'i wir ddim disgwyl gweld be' sydd rownd y gornel gyda nhw, ac ymgolli yn hollol gyda'r gerddoriaeth, y gelf, a'r setiau byw egnïol fydd ar y gorwel.
Mae'n albwm timeless. Dwi'n siŵr mewn 10, 30, neu 50 mlynedd, fydd sain yr albwm yma yn diffinio'r cyfnod yma o'm mywyd fel merch ifanc yn trio ffeindio fy ffordd. Melyn yw sŵn fy ugeiniau, a fydd o'n swnio'r un mor ffresh yn 2060 a'r diwrnod gafodd o ei ryddhau.
Sian Eleri
Mae'n Hawdd Pan Ti'n Ifanc - Mellt
Pan fi'n meddwl am y band Mellt, fi'n meddwl am yr holl gigs a setiau byw tanllyd a bywiog lan a lawr y wlad. Felly pan ddaeth yr albwm yma allan yn 2018, o'n i wrth fy modd.
Mae'n albwm fi'n mynd nôl ato lot, mae'n llawn caneuon bachog, sy'n 'neud fi moyn codi lan a dawnsio, fi'n ffeindio fy hunan yn bloeddio'r geiriau gyda nhw ac mae'n llwyddo i roi gwen anferthol ar fy ngwyneb bob tro.
Ond yn ddyfnach na hyn, mae'n albwm sy'n codi hiraeth a nostalgia llwyr am fod yn ifanc, gyda haf hir a phoeth o dy flaen gyda dy ffrindiau gore, ble does dim unrhyw pressures: "Mae'n hawdd pan ti'n ifanc, yng ngwersyll Glan-llyn. Bell o mam a dad, ddim yn becso dam."
Mae'n albwm sy'n llwyddo i gyfuno'r ankst o fod yn ifanc, rhedeg o gwmpas gyda dy ffrindiau, mynd allan, pendroni am y byd a be' sy' tu hwnt i dy nirfana di. Hyn oll yn cael ei gyfleu yn y lyrics clyfar sy' trwy'r albwm cyfan. Fyddai'n gwrando ar yr albwm yma am byth, a fi ddim yn meddwl na'i fyth blino o wrando arno fe chwaith, a fi'n sicr fyddai'n gwenu bob tro fi'n gwasgu play.
Elan Evans
Goreuon Edward H Dafis - Edward H Dafis
Sut ar wyneb daear ma' rhywun yn dewis hoff albwm Cymraeg? Am wn i - un ffon fesur ydi'r awydd i wrando ar BOB cân a pheidio gwasgu skip.
Roedd albwm Goreuon Edward H yn rhan annatod o 'mhlentyndod - yn y tŷ, yn y car a hefyd yn dod yn fyw wrth i fi, dad a 'mrawd jamio a thrio dynwared y band efo'u caneuon cofiadwy.
Ma'n deg dweud fod rhai caneuon ar yr albwm yma'n glasuron a sawl un wedi cael eu perfformio gan gantorion o amrywiol genres a chorau fel ei gilydd. Mae'r awydd i ail-greu a dehongli unrhyw set o ganeuon yn brawf pendant o lwyddiant albwm. A dyma albwm lle dwi'n bendant wrth wrando ddim am wasgu skip.
Huw Foulkes
Mwng - Super Furry Animals
Nes i fynd i ysgol Gymraeg ond roedd lot o blant oedd yn mynd yno yn dod o deuluoedd oedd ddim yn siarad Cymraeg - yn cynnwys fi. Roedd mor cŵl wedyn i weld band o Gymru oedd yn enwog ar draws y byd, ac i'w gweld efo bandiau fel Oasis ac ati ac yn actually famous - yn rhyddhau albwm hollol Gymraeg, roedd yn hollol amazing.
Roedd y band wedi gwneud bits and bobs yn Gymraeg, ond yn canu rhan fwya yn Saesneg, yn dewis dod ag albym hollol Gymraeg allan. Roedd o'n amazing. Roedd ffrindiau i fi oedd ddim yn siarad Cymraeg dod ata fi a gofyn "ti di clywed albwm newydd Super Furries?"
Ro'n i'n gadael coleg ar y pryd ac roedd yn ysbrydoliaeth i fi gael gyrfa mewn miwsig. Roedd yn dangos bod posib gwneud hynny er bod rhwyun yn dod o rywle bychan yng Nghymru.
Roeddwn i'n dod o gefn gwlad ac roedd Llundain a'r math yna o fyd a gweithio mewn cerddoriaeth yn teimlo million miles away, ac roeddwn i'n meddwl bod rhaid bod yn fath gwahanol o berson i gael job mewn miwsig - ond roedd hwn yn dod a fo reit adra, bod posib 'neud o achos roedd rhain yn dod o rywle tebyg yng Nghymru, a roeddan nhw tua'r un oed a fi.
Ac yn amlwg, mae'n albwm rili da hefyd!
Neal Thompson
Beth fyddai eich dewis chi? Gallwch anfon eich cynigion drwy dudalen Facebook @bbccymrufyw, dolen allanol neu drwy ddefnyddio'r hashnod #albwmgorauerioed mewn neges ar Twitter, dolen allanol.