Senedd: Adam Price yn ffarwelio fel arweinydd Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Adam Price
Disgrifiad o’r llun,

Edrychodd Adam Price i fyny at ei fam Angela a'i fab ifanc Ilar oedd yn gwylio o'r oriel gyhoeddus

Mae Adam Price wedi annog Mark Drakeford i wireddu cynlluniau ar gyfer Senedd fwy "lle mae pob llais yn cael ei glywed".

Yn ei ymddangosiad olaf yn siambr y Senedd fel arweinydd Plaid Cymru, fe wnaeth Mr Price ganmol y prif weinidog a chanmol y cytundeb cydweithredu rhwng y ddwy blaid.

Mae'r cytundeb yn cynnwys ymrwymiad i gynyddu nifer yr Aelodau o'r Senedd o 60 i 96 a chyflwyno cwotâu rhywedd ar gyfer ymgeiswyr.

Bydd Mr Price yn trosglwyddo'r awenau'n ffurfiol ddydd Mercher, bythefnos ar ôl adroddiad damniol am fwlio ac amharch at fenywod yn ei blaid.

Gadawodd Llywydd y Senedd iddo orffen ei sesiwn olaf o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog gydag araith anarferol o hir.

Ni chyfeiriodd at adroddiad Nerys Evans oedd yn dweud bod yn rhaid i'r blaid "ddadwenwyno diwylliant o aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth".

'Democratiaeth 360 gradd'

Dywedodd fod Mr Drakeford wedi bod yn "anhwylus o dda" am ateb ei gwestiynau a diolchodd iddo am ei arweinyddiaeth o Gymru yn ystod y pandemig.

Gyda'i fam Angela a'i fab ifanc Ilar yn gwylio o'r oriel gyhoeddus, dywedodd Mr Price fod y cytundeb cydweithredu yn dangos "y gall gwleidyddiaeth newid bywydau ac wrth benderfynu newid bywydau gyda'n gilydd gallwn newid natur gwleidyddiaeth ei hun".

"Rydw i eisiau i ieuenctid ein gwlad, menywod a dynion mewn nifer cyfartal, pob hil, pob credo, LGBTQ+ ac anabl, y dosbarth gweithiol yn arbennig, deimlo bod y lle hwn yn perthyn iddyn nhw, yn eu cynrychioli, yn siarad drostynt, cymaint ag y mae'n gwneud i unrhyw un," meddai.

"Felly, wrth i ni ymrwymo nawr i ehangu cylch y Senedd hon hyd yn oed ymhellach, a wnewch chi addo i mi, brif weinidog, adeiladu ar y gwaith rydyn ni, rhyngom ni, wedi ei ddechrau, i droi'r lle hwn, ar gyfer dyfodol ein gwlad ni, i mewn i'r ddemocratiaeth 360 gradd mwyaf cynhwysol yn unrhyw le, lle mae pob llais yn cael ei glywed yn gyfartal, fel y gellir byw pob bywyd yn gyfartal, yn llawn ac yn dda, fel fy mod i a chi'n gwybod ein bod ni wedi defnyddio ein hamser gyda'n gilydd yma i eithaf ein pwrpas cyffredin?"

Dywedodd Mr Drakeford y bydd y llywodraeth "yn cyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio'r Senedd hon i'w gwneud yn addas i gyflawni'r cyfrifoldebau y mae pobl Cymru yn eu rhoi yn ein dwylo, ac i wneud yn siŵr bod y bobl sy'n cyrraedd yma yn y dyfodol yn adlewyrchu'n llawn amrywiaeth a natur y Gymru sydd ohoni".

Ychwanegodd: "Rwy'n edrych ymlaen at y 18 mis nesaf, at ddod â'r darn hwnnw o ddeddfwriaeth gerbron y Senedd, i'w drafod yn gadarn, ond bob amser yn yr ysbryd yr ydym wedi'i glywed gan Adam Price y prynhawn yma."

Er nad yw mewn clymblaid ffurfiol, bydd disgwyl i arweinydd nesaf Plaid Cymru barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru tan ddiwedd 2024.

O ddydd Mercher ymlaen, bydd Llyr Gruffydd yn arweinydd dros dro Plaid Cymru.

Mae enwebiadau i gymryd rhan yn y gystadleuaeth i ddod o hyd i olynydd parhaol ar agor tan 16 Mehefin.

Hyd yn hyn, Rhun ap Iorwerth - AS Ynys Môn a safodd yn erbyn Mr Price am yr arweinyddiaeth yn 2018 - yw'r unig AS i ddweud ei fod yn ystyried ymgeisio.