AS adain chwith yn colli mewn etholiad Llafur dadleuol

  • Cyhoeddwyd
Gerald Jones a Beth Winter
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Gerald Jones drechu Beth Winter yn yr ornest i gael ei ddewis fel ymgeisydd y sedd newydd

Mae gwleidydd Llafur wedi cyhuddo ei phlaid o gynnal proses ethol annheg, ar ôl iddi golli gornest i fod yn ymgeisydd am sedd newydd.

Llwyddodd Gerald Jones i drechu ei gyd-Aelod Seneddol Beth Winter i gael bod yn ymgeisydd Llafur etholaeth newydd Merthyr Tudful a Chwm Cynon Uchaf.

Dywedodd Ms Winter fod y broses yn "anghyfiawn" ac yn annheg, gan gyhuddo ei phlaid o osod "rhwystrau annerbyniol" yn ei ffordd.

Mae Llafur Cymru wedi amddiffyn y broses.

'Rhwystrau annerbyniol'

Mae Gerald Jones ar hyn o bryd yn rhan o fainc flaen Syr Keir Starmer, fel gweinidog cysgodol i Swyddfa Cymru.

Ar y llaw arall mae Beth Winter yn dod o adain fwy chwith y blaid, ac wedi bod yn llafar ei chefnogaeth o Jeremy Corbyn yn y gorffennol.

Mae disgwyl i'r ddwy etholaeth y mae Ms Winter a Mr Jones yn eu cynrychioli ar hyn o bryd - Cwm Cynon, a Merthyr Tudful a Rhymni - gael eu dileu o dan newidiadau i ffiniau'r DU.

Dywedodd Mr Jones wrth y cyfryngau cymdeithasol ei fod yn "hynod o ddiolchgar bod aelodau Llafur wedi fy newis i fod yn ymgeisydd ar gyfer Merthyr Tudful a Chwm Cynon Uchaf".

"Hoffwn hefyd dalu teyrnged i Beth am ymgyrch gyfeillgar a diolch iddi am ei holl waith fel AS Cwm Cynon," meddai.

Yn ei datganiad, dywedodd Ms Winter ei bod yn ceisio cael ei hail-ddewis "fel ymgeisydd Llafur ar lwyfan o undod gyda gweithwyr rheilffordd sydd ar streic, nyrsys, a staff addysgu, pob un yr wyf wedi bod yn falch o sefyll gyda nhw ar y llinell biced".

"Fodd bynnag, gosodwyd rhwystrau annerbyniol yn ffordd yr ymgyrch lawr gwlad hon, gan danseilio'r broses ddemocrataidd," meddai.

"Cafodd y broses ar-lein yn unig ei gorffen mewn pythefnos yn unig, heb unrhyw hustyngau wyneb yn wyneb.

"Doedd hon ddim yn gystadleuaeth deg, a byddaf yn cymryd cyngor a safbwyntiau yn y dyddiau nesaf am fy nghamau nesaf."

'Cyfle i bob aelod'

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Llongyfarchiadau i Gerald Jones ar ei ddewis heddiw.

"Diolch iddo, ei gyd-ymgeisydd Beth Winter a'r holl aelodau ar draws etholaeth newydd Merthyr Tudful a Chwm Cynon Uchaf am gymryd rhan yn y broses ddethol.

"Cynlluniwyd y drefn ddethol i roi cyfle i bob aelod ar draws y sedd newydd gymryd rhan wrth ddewis eu hymgeisydd, ac o ganlyniad gwelsom nifer uchel iawn yn pleidleisio."