Tua 100 o weithwyr DVLA Abertawe yn streicio am 15 diwrnod
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib y bydd oedi yn prosesu trwyddedau gyrru ac na fydd llythyrau'n atgoffa pobl i adnewyddu eu treth cerbyd, wrth weithwyr y DVLA yn Abertawe ddechrau streicio dros dâl, pensiynau ac amodau.
Mae disgwyl i tua 100 o weithwyr sy'n argraffu deunyddiau ar gyfer y DVLA ac adrannau eraill Llywodraeth y DU i gynnal streic 15 diwrnod rhwng 11 a 25 Mehefin.
Dywedodd undeb y PCS bod cyflogau gwael a'r argyfwng costau byw yn cael effaith mor niweidiol ar staff DVLA, nad oes ganddynt opsiwn ond streicio.
Dywedodd yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) fod mesurau mewn lle er mwyn osgoi unrhyw darfu ar gwsmeriaid.
'Does dim ffordd arall'
Dywedodd Sarah Evans, cadeirydd cangen y PCS yn y DVLA: "Dydyn ni ddim eisiau i'n cwsmeriaid gael eu heffeithio o gwbl, ond does dim ffordd arall y gallwn ni gael sylw'r llywodraeth.
"Am yr 11 i 12 mlynedd ddiwethaf bellach nid ydym wedi cael codiad cyflog o gwbl, neu godiad cyflog o 1% i 1.5%."
Mae'r rhai sy'n streicio yn gofyn am godiad cyflog o 10%, gyda'r PCS yn dweud bod rhai o'r gweithwyr DVLA llawn amser ar y cyflogau isaf yn ennill ychydig dros £18,000 y flwyddyn.
"Mae'r gweithredu diwydiannol hwn yn digwydd ac yn parhau, yn llwyr oherwydd diffyg tosturi y llywodraeth tuag at ei staff ei hun i sicrhau ein bod yn gallu fforddio bwydo ein teuluoedd drwy gydol y mis a chadw ein cartrefi'n gynnes," meddai Ms Evans.
"Mae'n sefyllfa drist pan rydych chi'n dibynnu ar eich undeb i gyflenwi tywelion misglwyf i chi bob mis."
'Dim ofn rhoi pwysau ar weinidogion'
Mae'r gweithredu diweddaraf yn rhan o anghydfod hir dymor sydd wedi gweld sawl streic dros y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol undeb y PCS, Mark Serwotka: "Does dim ofn gennym roi pwysau ar weinidogion i gyflawni ein gofynion rhesymol - codiad cyflog teg i helpu ein haelodau drwy'r argyfwng costau byw a thu hwnt."
Dywedodd y DVLA eu bod wedi "cymryd camau i leihau unrhyw amhariad o ganlyniad i'r gweithredu diwydiannol" yn eu hadran argraffu a phostio.
Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am sylw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd31 Mai 2023
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2021