Trafferthion gwefan wrth werthu cit newydd CPD Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Chwaraewyr ar y cae yn codi'r tlwsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai yn ceisio elwa o'r sefyllfa gyda chrysau'n gwerthu am hyd at £169.99 ar eBay

Mae nifer o gefnogwyr CPD Wrecsam wedi cael eu siomi heddiw wrth iddyn nhw ruthro i brynu cit cartref newydd y clwb.

Dywed cefnogwyr eu bod wedi gorfod talu am sawl crys er iddyn nhw brynu un yn unig, bod hyd at ddwy awr o oedi cyn gallu talu amdanyn nhw, a bod taliadau wedi eu cymryd heb anfon e-byst yn cadarnhau'r pryniant.

Mae'n ymddangos bod eraill sydd wedi llwyddo i brynu'r crys newydd yn ceisio manteisio ar drafferthion gwefan y clwb, gan werthu cit cartref 2023/24 am hyd at £169.99 ar eBay.

Mae'r clwb wedi cydnabod y sefyllfa ac wedi ymddiheuro i gefnogwyr am unrhyw anghyfleustra.

'Aros, aros ac aros...'

Mae sawl sylw wedi bod ar Twitter gan gefnogwyr sy'n rhwystredig ar ôl ceisio prynu crys newydd y clwb.

Dywedodd un person fod ei ap banc yn dangos ei fod wedi prynu chwe chrys er iddo ddim ond prynu un.

Trydarodd rhywun arall: "Er i mi beidio â derbyn cadarnhad wrth gwblhau'r broses o dalu am grys... rydych chi bellach wedi cymryd 4 lot o £114 o fy manc ac rydw i nawr mewn gorddrafft, diolch yn fawr."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r galw am grysau wedi cynyddu yn sgil y diddordeb sylweddol yn y clwb yn y blynyddoedd diwethaf

Ychwanegodd cefnogwr arall ei fod wedi "aros, aros ac aros ac yna'r meintiau roeddwn i eisiau wedi gwerthu allan".

Awgrymodd: "Mae'r sefyllfa gyda'r crysau yn dod yn jôc. Cawsoch chi eich rhybuddio'r llynedd ond ddim yn siŵr a oes gwersi wedi'u dysgu."

'Galw tu hwnt i bob disgwyl'

Mewn datganiad dywedodd y clwb: "Unwaith eto mae'r galw am grysau replica wedi bod yn fawr a thu hwnt i bob disgwyl.

"Rydym yn deall pam bod cefnogwyr sydd wedi bod yn ceisio prynu gwisgoedd bore 'ma yn rhwystredig.

"Ro'dd yna drefniant i sicrhau bod y wefan yn gallu delio gyda llawer mwy o archebion i gymharu â thymor diwethaf ond roedd y galw yn llawer mwy ac ry'n wedi bod yn gweithio gyda darparwyr y wefan bore 'ma er mwyn gwella'r sefyllfa gorau gallwn ni.

"Mae modd i unrhyw gefnogwyr sydd wedi archebu gormod drwy gamgymeriad anfon e-bost ac fe fydd ad-daliadau am yr archebion yn cael eu prosesu o fewn 24 awr.

"Wrth i ni dyfu a chwrdd â'r gofyn, byddwn yn parhau i ddysgu a gwella ein systemau."

Pynciau cysylltiedig