'Gât trwydded' i atal gyrwyr rhag cymryd ffordd fer
- Cyhoeddwyd
Fe allai gyrwyr sy'n defnyddio ffordd gyflymach trwy strydoedd preswyl yng Nghaerdydd wynebu dirwy o'r wythnos nesaf ymlaen.
Mae "gât trwydded" yn cael ei gyflwyno gan Gyngor Caerdydd yn Llanisien er mwyn atal gyrwyr rhag cymryd shortcut trwy stad o dai.
Mae'n golygu mai dim ond rheiny sydd â thrwydded a cherbydau awdurdodedig fydd yn cael gyrru ar hyd rhan benodol o'r ffordd.
Yn dechrau ar 19 Mehefin, bydd y gât yn atal cerbydau rhag defnyddio Heol Abergwaun a Glyn Crisial fel ffordd fer rhwng Rhodfa Tŷ Glas a Heol Heathwood.
Bydd y gât yn weithredol rhwng 07:00 a 19:00 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, fel rhan o gynllun peilot am 18 mis.
Dywedodd Cyngor Caerdydd, dolen allanol mai dim ond trigolion ac ymwelwyr sydd i fod â mynediad i'r stryd, ond nad yw gyrwyr yn parchu'r rheolau ar hyn o bryd.
Ychwanegodd y cyngor y bydd pobl heb drwydded yn gallu parhau i ddefnyddio'r ardal, ond y byddan nhw'n gorfod dod i mewn a gadael trwy'r un ffordd, a bod dim angen trwydded ar dacsis a bysiau.
Bydd dirwy o hyd at £70 i'r rhai fydd yn torri'r rheolau newydd, a bydd yr ardal yn cael ei fonitro gan gamerâu cylch cyfyng.
Dywedodd Canon Michael Jones o Eglwys Sant Bridget ar Lyn Crisial ei fod yn poeni byddai pobl sy'n dod i angladdau yn cael dirwy.
"Yn ffodus, ar ddydd Sul, sydd wrth gwrs yn ddiwrnod cwrdd yn yr eglwys, dydy'r ddirwy ddim am fod yn weithredol, ond mae gennym ni ddigwyddiadau sydd ddim yn digwydd ar ddydd Sul.
"Priodasau ac angladdau yn bennaf, bydd raid i ni gysylltu gyda'r adran drafnidiaeth i drefnu cael y camerâu wedi diffodd, neu i beidio cymryd sylw."
Mae Deborah Morgan yn byw yn yr ardal drwydded newydd, ac yn croesawu'r treial, gan ddweud bod Heol Abergwaun yn gallu bod yn "wallgof" yn ystod traffig trwm.
Er hynny, dywedodd hi mae'n bosib y bydd rhai sydd yn cael trafferth gyda thechnoleg ddigidol yn ei chael yn anodd gwneud cais am drwydded.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2023