Gohirio cynlluniau i roi dirwy am barcio ar balmentydd
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i roi pwerau i gynghorau sir ddirwyo gyrwyr am barcio ar balmentydd wedi cael eu gohirio.
Mae'n dilyn cwynion gan awdurdodau lleol Cymru bod gofyn i weithredu gormod o bolisïau trafnidiaeth newydd ar yr un pryd.
Roedd Llywodraeth Cymru'n bwriadu ymgynghori a chyflwyno deddf newydd erbyn diwedd eleni.
Ond ni fydd ymgynghoriad yn dechrau bellach tan 2024.
Dyma, medd yr AS Plaid Cymru Llyr Gruffydd, yw'r penderfyniad cywir pan fo cynghorau dan bwysau mawr.
Dan y cynlluniau fe allai pobl sy'n parcio ar balmentydd wynebu dirwyon hyd at £70.
Ond fe allai'r cynigion gwreiddiol wedi arwain at gyflwyno deddf newydd yn yr un flwyddyn ag y mae'r llywodraeth yn bwriadu cyflwyno cyfyngiadau cyflymdra o 20mya mewn ardaloedd trefol.
Staff 'dan bwysau mawr'
Fis diwethaf fe ychwanegodd ddau gynghorydd Llafur blaenllaw eu henwau at restr hir o gwynion gan arweinwyr cyngor ynghylch polisi trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.
Roedd yna bryderon ynghylch yr adolygiad ffyrdd diweddar sydd wedi atal prosiectau codi ffyrdd yng Nghymru, ac ynghylch cynlluniau i ddod â chyllid brys i helpu'r diwydiant bysiau wedi Covid i ben ddiwedd Gorffennaf.
Mae llythyr gan y corff sy'n cynrychioli'r awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dweud eu bod yn cael trafferth ymdopi gyda "nifer fawr y materion yn ymwneud â thrafnidiaeth".
Mae'n datgan bod yna "restr hir o brosiectau a gofynion yn ymwneud â thrafnidiaeth, sydd oll yn symud ymlaen ar yr un pryd".
Y cynnig o ran gorfodaeth parcio ar balmentydd yw'r esiampl fwyaf diweddar.
"Mae hyn yn rhoi staff traffyrdd a thrafnidiaeth cynghorau dan bwysau mawr, gyda'r rhan helaeth o'r gwaith ar ben y gwaith arferol, fel cynnal traffyrdd ac adeiladwaith, cadw gwasanaethau bws dyddiol i redeg yn esmwyth."
Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters ei fod wedi "gwrando ar yr adborth" gan arweinwyr cyngor.
Bydd oedi'r cynllunio parcio ar balmentydd, meddai, yn "galluogi'r awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar weithredu a chyflwyno'r cyfyngiadau cyflymdra 20mya ym Medi 2023 a'r gwaith o baratoi ar gyfer masnachfreintiau bysiau".
Nod y cynllun hwnnw yw diwygio'r rhwydwaith bysiau, gan roi mwy o reolaeth i gynghorau dros lwybrau teithio cwmnïau preifat.
Ond dyw Mr Waters heb gadarnhau pa bryd fydd y ddeddfwriaeth yna yn mynd o flaen y Senedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd12 Mai 2022