Carcharu dyn am oes am lofruddio ei frawd yn Rhydaman

  • Cyhoeddwyd
Cameron Lindley, 22,Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Cameron Lindley, 22, ym mis Medi y llynedd

Mae dyn 20 oed o Gimla ger Castell-nedd wedi ei ddedfrydu i garchar am oes am ladd ei frawd yn nhŷ eu mam yn Sir Gâr fis Medi'r llynedd.

Bydd yn rhaid i Tyler Lindley, a blediodd yn euog i lofruddiaeth, dreulio o leiaf 18 mlynedd dan glo ar ôl lladd ei frawd Cameron Lindley, 22, yn ardal Betws ger Rhydaman.

Dywedodd y barnwr Paul Thomas fod yr ymosodiad yn un bwriadol a hynny oherwydd cenfigen.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Cameron Lindely wedi ei drywanu 19 o weithiau yn ei wddw a'i gorff ar ôl i'r ddau frawd gael cinio gyda'r teulu.

Dywed yr erlyniad fod y diffynnydd yn cwyno fod ei frawd yn cael ei drin fel y mab perffaith a'i fod "yn ei gasáu".

Yn ôl yr amddiffyniad roeddynt o'r farn ar ôl nifer o adroddiadau seiciatryddol fod Tyler Lindley yn dioddef o "bersonoliaeth oedd yn emosiynol ansefydlog" - ond nad oedd hynny'n gallu cael ei benderfynu yn derfynol tan ei fod yn 25 oed ac wedi gorffen datblygu.

Clywodd y llys fod y brodyr wedi cael eu rhoi mewn gofal maeth yn blant, ond eu bod wedi ailgysylltu â'u mam yn ddiweddarach.

Ymosodiad treisgar

Roedd Cameron yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe ac yn astudio peirianneg awyrofod. Roedd yn byw yn Abertawe ond hefyd yng nghartref ei fam.

Roedd gan ei frawd hanes o gymryd cyffuriau gan gynnwys LSD ac roedd yn aros mewn hostel.

Yn ystod y gwrandawiad dedfrydu fe ddechreuodd Tyler Lindley weiddi, gyda'r barnwr y gorchymyn iddo gael ei symud o'r llys am gyfnod.

Dywedodd y barnwr fod yr ymosodiad yn un treisgar a didrugaredd ac wedi digwydd o flaen y fam.

"Fe wnaethoch weithredu ar syniad oedd wedi bod yn ei meddwl ers rai misoedd. Nid ydych wedi dangos unrhyw edifeirwch," meddai.

"Mae eich perfformiad yn y llys yn dangos nad oes cywilydd na edifar am yr hyn rydych wedi ei wneud."

Pynciau cysylltiedig