Dyn ifanc yn cyfaddef iddo ladd ei frawd hŷn

  • Cyhoeddwyd
Cameron Lindley, 22,Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Cameron Lindley, 22, ym mis Medi y llynedd

Mae dyn wedi cyfaddef llofruddio ei frawd hŷn mewn tŷ yn Sir Gaerfyrddin.

Cyfaddefodd Tyler Lindley, 20, iddo ladd Cameron Lindley, 22, mewn eiddo yn ardal Betws ger Rhydaman ar 8 Medi 2022.

Fe blediodd yn ystod gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe lle ymddangosodd trwy gyswllt fideo.

Mewn gwrandawiad blaenorol ym mis Rhagfyr, plediodd Lindley, o ardal Cimla, Castell-nedd yn euog i ddynladdiad ond fe wadodd llofruddiaeth.

Roedd cwestiynau wedi'u codi ynghylch ei gyflwr meddwl ac a fyddai'n ffit i wynebu achos llys.

Cafodd Lindley ei gadw yn y ddalfa i ddechrau yng Ngharchar Abertawe ond fe'i trosglwyddwyd yn ddiweddarach i uned iechyd meddwl i gael asesiadau, lle mae'n parhau.

Dywedodd Ignatius Hughes KC, wrth amddiffyn Lindley, fod adroddiadau seiciatrig yn dangos bod iechyd meddwl ei gleient "wedi chwarae rhan" yn y llofruddiaeth.

Wrth siarad gyda Tyler Lindley, dywedodd y Barnwr Paul Thomas: "Fel y byddwch wedi cael gwybod, dim ond un ddedfryd all fod yma a dyna ddedfryd o garchar am oes.

"Beth sy'n rhaid i mi ei wneud ar 6 Mehefin yw penderfynu pa mor hir fydd hi cyn y byddwch chi'n gymwys i wneud cais i gael eich rhyddhau."

Yn dilyn marwolaeth Cameron, dywedodd ei deulu: "Rydym wedi ein llorio o golli ŵyr, mab, brawd ac ewythr annwyl yn sydyn."

Bydd gwrandawiad dedfrydu yn cael ei gynnal ar 6 Mehefin.

Pynciau cysylltiedig