'Pwy sy'n siarad â Dad a gofyn os yw'n OK?'

  • Cyhoeddwyd
James Sutherland
Disgrifiad o’r llun,

Mae James Sutherland yn un o drefnwyr Grŵp Tadau Môn

Gyda bron i bedwar ymhob deg o dadau newydd yn poeni am eu hiechyd meddwl, mae yna ymdrechion i ddod â thadau at ei gilydd - i sgwrsio a mynd am dro.

Mae grŵp o'r fath eisoes wedi'i sefydlu ym Mhont-y-pŵl yn Nhorfaen ac wythnos nesaf fe fydd tadau ym Môn yn cael cyfle i gwrdd a dechrau cyd-gerdded hefyd.

Fe ddangosodd arolwg gan fenter gymdeithasol Dadpad fod 38% o dadau yn poeni am eu hiechyd meddwl ac maen nhw'n dweud y bydden nhw'n croesawu rhagor o gefnogaeth. 

Dywed Llywodraeth Cymru bod ymdrechion ar y gweill i gynnig mwy o gefnogaeth a gwybodaeth i dadau a phartneriaid.

Ffynhonnell y llun, For Dads, By Dads
Disgrifiad o’r llun,

Un o weithdai For Dads, By Dads

Fe all cyfarfod â thadau eraill fod yn fuddiol iawn ym marn James Sutherland, un o drefnwyr Grŵp Tadau Môn, sydd hefyd yn swyddog gyda Homestart Cymru - mudiad sy'n hybu lles teuluoedd.

"Ar hyn o bryd mae 'na gymaint o falchder efo tadau, maen nhw i fod yn macho a phob dim... Dan ni isio cael dros hwnna a jyst cael allan, cael chat bach a dwi'n gwbod mae'n fwy haws jyst sefyll efo rhywun ochor yn ochor, ddim yn wynebu nhw a jyst mynd am dro a chael free flow chat am beth bynnag maen nhw isio siarad am," meddai.

Mae Uned Cefnogi Teuluoedd Môn yn gefnogol iawn o'r grŵp cerdded.

'Pwy sy'n siarad â Dad?'

Cydlynydd Prosiect Braenaru'r Blynyddoedd Cynnar ar Gyngor Môn ydy Kimberley Coll ac meddai: "Dwi'n meddwl mai o wastad wedi bod yna [y straen] a dwi'n meddwl bod 'na sylw eithriadol rŵan yn cael ei roi a dwi'n cytuno y dyla 'na fod sylw ar hyn, a dwi'n meddwl wrth weithio efo'r teulu cyfan, dyna ydy'r best outcome i'r plentyn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bwysig gweithio gyda'r teulu cyfan, medd Kimberley Coll o Gyngor Môn

"Mae hynny'n ffaith ychwanegol, pobol yn gorfod mynd i'r gwaith yn fwy cynnar, felly mae 'na gymaint o ffactorau sydd yn gallu tarfu ar iechyd meddwl y tad neu'r fam, neu'r carer in general," ychwanegodd. 

Mi fydd mab James Sutherland yn naw oed dros y dyddiau nesaf, ac fel pob tad arall, mae wedi dysgu ar hyd y daith. 

"Dŵad â phlentyn bach i'r byd... mae'n galed eniwe ond mae 'na lwyth o betha'n mynd efo fo.

"Ar ôl y ddwy wythnos yn bod adra efo'r mab bach, a'r tadau'n gorfod mynd nôl i'r gwaith a gadael y fam i wneud pob dim.

"Felly mae hwnna'n mynd i effeithio massive impact ar Mam fanna. Felly mae'n bwysig i iechyd meddwl Mam hefyd.

"Felly dwi'n meddwl Dad yn mynd allan i'r gwaith, grêt mynd yn ôl ato fo, ond pwy sy'n siarad i Dad? Pwy sydd yn gofyn 'Are you OK?'"

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn datblygu'r timau sy'n ymwneud â maes iechyd meddwl rhieni yn y cyfnod cyn ac ar ôl genedigaeth plentyn, ac mae yna ymdrech i gynnig mwy o gefnogaeth a gwybodaeth i dadau a phartneriaid.

Ychwanegodd eu bod wedi'u hymrwymo i wella'r gwasanaethau hynny ac y byddan nhw'n ystyried pa gamau pellach y bydd eu hangen.