Côr yn dathlu cysylltiad Cymru efo eglwys yn Alabama

  • Cyhoeddwyd
The UAB gospel choirFfynhonnell y llun, UAB Department of Music
Disgrifiad o’r llun,

Bu Côr Gospel Prifysgol Alabama yn perfformio yn Eisteddfod yr Urdd

Mae côr gospel o Alabama wedi ymweld â Chymru er mwyn dathlu eu cysylltiad efo'r wlad.

Ym 1963 cafodd y 16th Street Baptist Church yn Birmingham, Alabama ei bomio gan y Ku Klux Klan.

Ochr arall i fôr yr Iwerydd mi wnaeth John Petts, artist Cymreig, ddarllen am y digwyddiad a phenderfynodd dylunio a chreu ffenest liw newydd ar gyfer yr eglwys

Yn siarad efo'r BBC ym 1987 dywedodd Mr Petts: Doedden nhw erioed wedi clywed am Gymru, doedd ganddyn nhw ddim syniad lle y roedd [y wlad], ond yn gyflym iawn mi ddaethon nhw i glywed am Gymru a sut ein bod yn rhoi gwerth mawr i annibyniaeth a rhyddid."

Mae'r Wales Window of Alabama yn parhau yn yr eglwys hyd heddiw, a dywedodd cyfarwyddwr Côr Gospel Prifysgol Alabama, Dr James Reginald Jackson, ei fod yn gysylltiad "bendigedig" gyda Chymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyluniwyd y ffenest liw gan yr artist Cymreig, John Petts

Mi wnaeth Dr Jackson ac aelodau o'r côr ymweld â Chymru ym mis Mehefin gan berfformio yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri.

"Roedd yn fraint i fod yna," dywedodd Dr Jackson.

"Mi wnaethon ni ddysgu caneuon gospel yn y Gymraeg... Roedd hi'n anodd gan fod yr iaith mor wahanol, ond mi lwyddon ni ac roedd yn rhywbeth arbennig i ni."

Roedd y côr hefyd yn rhan o ddadorchuddiad murlun a gomisiynwyd fel rhan o Neges Heddwch gwrth-hiliaeth yr Urdd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r murlun o'r chwaraewr rygbi Nia Fajeyisan yn Adamsdown, Caerdydd, wedi'i ysbrydoli gan eiriau'r Neges Heddwch

Cafodd y murlun o'r chwaraewr rygbi Nia Fajeyisan ei ysbrydoli gan eiriau'r neges ac mae wedi'i osod yn ardal Adamsdown yng Nghaerdydd.

Dywedodd Dr Jackson: Roedd yn arbennig oherwydd gallwn uniaethu â'r neges. Y thema oedd gwrth-hiliaeth, sy'n rhywbeth rydym wedi delio â chryn dipyn yn ein gwlad ni."

Ym mis Medi fe fydd yr unigolion a ddyluniodd neges yr Urdd yn mynd ar daith i Alabama er mwyn parhau gyda'r ymgyrch a hybu'r cysylltiad.