Dadorchuddio murlun Neges Heddwch gwrth-hiliol yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Urdd wedi dadorchuddio'n swyddogol murlun a gomisiynwyd fel rhan o Neges Heddwch gwrth-hiliol y mudiad ddydd Mawrth.
Mae'r Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn draddodiad 101 mlwydd oed sy'n rhoi llais i blant a phobl ifanc Cymru dynnu sylw'r byd at bwnc penodol.
Y thema eleni oedd gwrth-hiliaeth, ac fe gafodd y neges ei chyfieithu i 56 o ieithoedd a'i weld mewn 50 o wledydd.
Cafodd y murlun, a grëwyd gan gwmni UNIFY Creative, ei ysbrydoli gan eiriau'r neges ac mae wedi'i osod yn ardal Adamsdown yng Nghaerdydd.
Fel rhan o'r dadorchuddiad cafwyd perfformiad gan Gôr Gospel Prifysgol Birmingham Alabama sydd ar ymweliad â Chymru, ac ym mis Medi fe fydd yr unigolion a ddyluniodd y neges yn mynd ar daith i Alabama er mwyn parhau gyda'r ymgyrch.
Dywedodd y cerddor Eädyth: "Y neges tu ôl i'r neges ydy edrych ar ôl ein gilydd, yn enwedig pobl sydd efo cefndiroedd gwahanol.
"Dwi'n meddwl fel person o liw gwahanol mae'n rili bwysig i ni addysgu a chario 'mlaen i ddysgu ffyrdd newydd o edrych ar ôl ein gilydd ac adeiladu cymdeithasau saff i bobl, a dyna beth mae'r neges yn ei ddweud."
Mewn ymateb i'r neges mae'r Urdd wedi addo gweithredu drwy roi hyfforddiant "ymwybyddiaeth hil" i staff yn barhaus.
"Strategaeth newydd yr Urdd ydy Urdd i bawb, Urdd sy'n adlewyrchu'r Cymry newydd heddiw, Cymru sy'n gynhwysol, sy'n d'eud ac sy'n gyfartal," meddai Sian Lewis, prif weithredwr y mudiad.
"Mae'n rhaid i ni 'neud mwy. Dwi'n meddwl bod bob sefydliad yng Nghymru yn cydnabod bod nhw ddim wedi g'neud digon.
"Yn sicr mae'r Urdd yn cydnabod hynny, ond mae heddiw'n ddiwrnod newydd ac mae'n rhaid symud ymlaen."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2023
- Cyhoeddwyd18 Mai 2022
- Cyhoeddwyd18 Mai 2021